skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Nid oes rhaid i chi fod yn darparu gofal ‘rheolaidd a sylweddol’ i fod â’r hawl i asesiad anghenion gofalwr.

Os oes angen cymorth arnoch chi yn eich rôl ofalu (neu os ydy hynny’n debygol yn y dyfodol), mae dyletswydd ar eich cyngor lleol i gynnig asesiad anghenion gofalwr i chi. Mae hyn yn berthnasol i ofalwyr o bob oedran.

Bydd y sawl sy’n cynnal eich asesiad anghenion gofalwr – gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr gofal neu therapydd galwedigaethol fel arfer – yn dymuno gwybod beth sy’n bwysig i chi a pha help mae arnoch chi ei angen er mwyn uchafu’ch llesiant eich hun. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth a chyngor, hyfforddiant, cymorth emosiynol neu seibiant byr.

Bydd efallai’n gofyn i chi beth ydy’ch ‘canlyniadau personol’ – sydd ond yn golygu beth sy’n bwysig i chi yn eich bywyd bob dydd, er enghraifft, gallu mynd am dro neu i’r theatr.

Rhaid i’ch asesiad anghenion gofalwr ddarganfod:

  • a ydych chi’n abl ac yn fodlon parhau yn eich rôl ofalu
  • sut allech chi gydbwyso’ch rôl ofalu ac agweddau eraill am eich bywyd bob dydd
  • a ydych chi’n dymuno gweithio neu barhau i weithio
  • a ydych chi eisiau cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden

NI fydd eich asesiad anghenion gofalwr yn:

  • barnu sut rydych yn edrych ar ôl y person sy’n derbyn gofal (oni bai bod eu diogelwch nhw – neu’ch diogelwch chi – mewn perygl)
  • rhagdybio eich bod chi’n dymuno cario ymlaen yn eich rôl ofalu

Eich asesiad anghenion gofalwr yw’ch cyfle i godi unrhyw bryderon sydd gennych am eich rôl ofalu a thrafod pa help, gwybodaeth neu gyngor y gall fod eu hangen arnoch chi i barhau i ofalu am y person arall.

Rhannu’r rôl ofalu

Mae galwadau bywyd modern yn gallu golygu bod teuluoedd yn aml yn rhannu rôl ofalu.

Mae gennych chi hawl i asesiad anghenion gofalwr hyd yn oed pan fydd sawl gofalwr yn edrych ar ôl un person – ie, pob un ohonoch chi.

Help i’ch llais gael ei glywed

Gallwch chi ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu eich cefnogi chi yn ystod eich asesiad anghenion gofalwr a’ch helpu i fynegi’ch teimladau a’ch dymuniadau’n llawn.

Os nad ydych chi’n adnabod neb addas, gallwch chi ofyn i’ch cyngor lleol ddod o hyd i eiriolwr i’ch cynorthwyo.

Pan fydd y gofalwr yn blentyn, bydd yr asesiad yn pennu beth mae’r person â chyfrifoldeb rhiant yn dymuno i’w plentyn ei gyflawni. 

Cofnodi’ch data

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau lleol gadw cofnod o’r holl anghenion asesiadau llesiant pan gaiff angen cymorth ei nodi. Mae hyn yn golygu y gall yr wybodaeth sydd yn eich asesiad anghenion gofalwr gael ei rhannu â gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mwy o wybodaeth

Mae Carers UK wedi cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr (Saesneg yn unig) ar asesiadau ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.