Mae’r rheoliadau ynghylch codi tâl yn gymhleth.
Mae gan gynghorau’r disgresiwn i godi tâl ar ofalwyr am y gwasanaethau cymorth maen nhw’n eu derbyn (ond fel arfer nid ydyn nhw’n gwneud hynny).
Yn ôl y Cod Ymarfer y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:
‘Yn y pen draw, rhaid i awdurdod lleol sicrhau nad yw unrhyw daliadau yn effeithio’n negyddol ar allu gofalwr i edrych ar ôl ei iechyd a’i lesiant ei hun ac i ofalu’n effeithiol ac yn ddiogel am y person sy’n derbyn gofal.’
Asesiad ariannol
Byddech chi bob amser yn cael cynnig asesiad ariannol yn y lle cyntaf. Mae gennych chi’r hawl i ddweud ‘na’ i hyn.
Efallai y byddwch chi am ofyn am gyngor cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.
Pan na chaniateir codi tâl
Rhaid i’r cyngor lleol beidio â chodi tâl arnoch chi am unrhyw ofal a chymorth sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol i’r person rydych chi’n edrych ar eu hôl. Rhaid peidio â chodi tâl ar ofalwyr ifanc am wasanaethau cymorth.
NODYN: Ni fydd gofyn i neb yng Nghymru dalu mwy na £100 yr wythnos (2022/23) tuag at eu gwasanaethau gofal personol, waeth faint o oriau o gymorth maen nhw’n eu derbyn.
Mwy o wybodaeth
Mae Carers UK wedi cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr ar asesiadau ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.