Mae gofalwyr yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl i fyw yn annibynnol gartref. Mae’r person sy’n derbyn gofal anffurfiol gan aelod o'r teulu neu ffrind
yn llai dibynnol ar wasanaethau gofal cymdeithasol, sydd yn ei dro yn rhyddhau’r pwysau ar y gwasanaethau hynny.
Fel gofalwr mae gennych chi rai hawliau cyfreithiol, gan gynnwys yr hawl i gymorth a’r hawl i benderfynu a ydych chi’n abl ac yn fodlon parhau yn eich rôl ofalu.
Gofalwyr a’r gyfraith
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar gynghorau lleol i ystyried anghenion cymorth gofalwr sy’n oedolyn sy’n edrych ar ôl rhywun sydd fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod lleol (gan gynnwys plentyn anabl).
Hefyd mae gan gynghorau lleol ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybodaeth a chyngor da i ofalwyr mewn perthynas â’u rôl ofalu a’u hanghenion cymorth (yn y Gymraeg os dyna ddymuniad y gofalwr). Nod Dewis Cymru yw rhoi’r wybodaeth mae arnoch chi ei hangen i wneud dewisiadau a chymryd rheolaeth (am fwy o wybodaeth am pam cafodd Dewis ei sefydlu cliciwch yma).
Cael asesiad o’ch anghenion
Rhaid i’ch cyngor lleol gynnig asesiad anghenion gofalwr i chi pan fydd yn dod yn ymwybodol o’ch rôl ofalu. Byddwch yn cael eich holi am eich anghenion llesiant eich hun a pha ganlyniadau personol hoffech chi eu cyflawni, er enghraifft, parhau i weithio neu ddilyn diddordeb.
Gallwch chi ofyn am asesiad anghenion gofalwr hyd yn oed os na fydd y person rydych chi’n gofalu amdano/amdani yn derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Cymorth ariannol
Mae penderfynu gofalu am rywun yn gallu cael effaith fawr ar eich arian chi - ac yn aml incwm yr aelwyd.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai bod gennych chi’r hawl i dderbyn Lwfans Gofalwr, Premiwm Gofalwr (symiau ychwanegol wedi'u hychwanegu at rai buddion) neu fudd-daliadau teuluol eraill.
Dewis peidio â darparu gofal
Mae’r Ddeddf 2014 yn datgan bod rhaid i gynghorau lleol beidio â rhagdybio bod gofalwyr yn abl a/neu’n fodlon parhau i ofalu.