Mae edrych ar ôl rhywun nid yn unig yn anodd yn emosiynol; mae’n gallu cael effaith aruthrol ar eich sefyllfa ariannol, yn arbennig os ydych chi wedi rhoi’r gorau i’ch swydd.
Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol; ond mae’n werth gwirio eich bod chi a’r person rydych chi’n edrych ar eu hôl yn derbyn yr holl fudd-daliadau mae gennych chi hawl (Saesneg yn unig) i’w hawlio.
Mae rhai cynghorau lleol yn cynnig cyngor am fudd-daliadau i bobl ag anghenion gofal a chymorth.
Lwfans gofalwr
Mae Lwfans Gofalwr (Saesneg yn unig) yn cael ei dalu i ofalwyr dros 16 oed ar incwm isel sy’n treulio 35 awr neu fwy yr wythnos yn gofalu am rywun.
Ar hyn o bryd telir y Lwfans Gofalwr ar £69.70 yr wythnos (2022/23).
Does dim rhaid i’r person rydych chi’n edrych ar ei ôl fod yn berthynas i chi, neu fyw gyda chi; ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn derbyn rhai budd-daliadau anabledd penodol. Gallwch chi ond derbyn un taliad wythnosol ni waeth faint o bobl rydych chi’n edrych ar eu hôl ac ni allwch wneud cais os ydych yn rhannu gofal un person a bod y gofalwr arall yn hawlio Lwfans Gofalwr.
Mae’r Lwfans Gofalwr yn drethadwy a gallai effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych chi a’r person arall yn eu derbyn, er enghraifft, Credyd Cynhwysol.
Os ydych chi’n derbyn Lwfans Gofalwr am edrych ar ôl rhywun, bydd eu premiwm anabledd difrifol (Saesneg yn unig) a Chredyd Pensiwn ychwanegol (am anabledd difrifol) yn dod i ben.
Symud i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
Lwfans Gofalwr yw un o’r ychydig o fudd-daliadau sy’n gallu parhau i gael ei dalu pan fydd yr hawlydd yn symud i un o wledydd yr AEE (neu Y Swistir). Ond mae’n rhaid bod gennych chi gysylltiad gwirioneddol â’r Deyrnas Unedig a bodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Cysylltwch â’r Tîm Exportability (Saesneg yn unig) i gael gwybod mwy.
Hawl sylfaenol i’r Lwfans Gofalwr
Mae’r rheol ‘gorgyffwrdd’ yn golygu na allwch chi dderbyn rhai budd-daliadau penodol ar yr un pryd. Er enghraifft, ni allwch dderbyn y Lwfans Gofalwr os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.
Hyd yn oed os ydych chi’n gymwys i dderbyn y Lwfans Gofalwr oherwydd y rheol ‘gorgyffwrdd’, mae’n bosib bod gennych chi ‘hawliad sylfaenol’ (Saesneg yn unig) o hyd. Er enghraifft, mae gofalwyr yn derbyn Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol a’r Lwfans Ceisio Gwaith ychwanegol.
Credyd Gofalwr
Pan rowch chi’r gorau i’ch swydd i edrych ar ôl rhywun, mae’n bosib bod gennych chi fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (a fydd yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yn y tymor hir).
Mae Credyd Gofalwr (Saesneg yn unig) yn llenwi’r bylchau hyn mewn Yswiriant Gwladol os ydych chi’n gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.
Rhaid i chi fod dros 16 oed ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a rhaid i’r person rydych chi’n edrych ar ei ôl dderbyn rhai budd-daliadau. Efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn Credyd Gofalwr hyd yn oed os na fyddwch chi’n derbyn Lwfans Gofalwr.
Nodyn: nid oes rhaid i chi hawlio Credyd Gofalwr os ydych chi’n derbyn Lwfans Gofalwr neu Fudd-dâl Plant (am blentyn o dan 12 oed) gan eich bod chi’n derbyn credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig.
Y Gronfa Cymorth i Ofalwyr
Ers 2020, mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi bod yn darparu grantiau o hyd at £500 i ofalwyr di-dâl sy’n profi caledi ariannol.
Gellir defnyddio'r grantiau i dalu am fwyd, eitemau cartref ac electronig.
Mae’n rhaid eich bod yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth yn y flwyddyn y byddwch yn gwneud cais a rhaid i chi gofrestru o fewn cyfnod penodol o amser.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru
Os oes gennych hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr – hyd yn oed os nad ydych yn ei dderbyn oherwydd budd-daliadau eraill – gallwch wneud cais am daliad arian parod untro o £200 gan eich cyngor lleol. Rhaid i chi wneud cais o fewn cyfnod penodol o amser.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru
Mwy o wybodaeth
Mae Carers UK (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor ariannol cynhwysfawr i ofalwyr.