Os, fel llawer o bobl, ydych chi’n ei chael yn anodd cael deupen y llinyn ynghyd mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol ar gael, yn dibynnu ar eich oedran, eich anghenion a’ch incwm.
Budd-daliadau
Mae Gov.uk yn nodi’r holl gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa bresennol, e.e. rydych yn ddi-waith ond yn chwilio am waith neu os ydych yn anabl ac yn methu gweithio. Mae rhai budd-daliadau yn seiliedig ar brawf modd ond nid pob un.
Yn anffodus, mae’r system fudd-daliadau mor gymhleth bod llawer o bobl yn peidio â hawlio arian mae ganddynt hawl i’w gael.
Bydd y wefan EntitledTo (Saesneg yn unig) yn eich helpu i ddysgu pa fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio o bosibl p’un a ydych chi’n ddi-waith neu mewn cyflogaeth, yn sâl neu’n anabl, wedi ymddeol neu’n magu teulu. Mae ond angen ateb y cwestiynau a bydd y gyfrifiannell yn penderfynu beth mae gennych hawl i’w dderbyn.
Bydd y Ganolfan Budd-daliadau Anabledd (Saesneg yn unig) yn gallu’ch cynghori ynghylch budd-daliadau anabledd penodol.
Cymorth mewn argyfwng
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yng Nghymru yn rhoi cymorth un-tro i unigolion dros 16 oed y mae arnynt angen cymorth ariannol ar frys. Mae dau fath o gefnogaeth (ac nid oes rhaid ad-dalu’r naill na’r llall):
- Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) – mae’n rhaid bod bygythiad dybryd i’ch iechyd neu les, e.e. oherwydd tân, llifogydd neu argyfwng arall
- Taliadau Cymorth Unigol (IAP) – sy’n eich galluogi chi, fel rhywun hawdd eich niweidio, fyw neu barhau i fyw yn annibynnol
Mae taliadau o’r Gronfa Cymorth Dewisol ond ar gael i bobl sydd heb unrhyw ffordd arall o gael yr arian mae arnynt ei angen ac ni fwriedir iddynt fod yn beth parhaus. Rhadffôn: 0800 859 5924 neu gwnewch gais ar-lein.
Personel y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr
Mae amrywiol fathau o gymorth ariannol ar gael i able for Personel y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd, gan gynnwys budd-daliadau, rhyddhad y dreth gyngor, costau teithio gostyngedig a disgowntiau drwy ddefnyddio Cerdyn Braint Lluoedd Amddiffyn. Am fwyo wybodaeth, ewch i Gyngor ar Bopeth.
Bydd Veterans UK (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor hefyd.
Grantiau tai
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol – ac yn dibynnu ar asesiad o’ch anghenion – mae’n bosibl y cewch chi gymorth ariannol i dalu am addasiadau canolig neu fawr i’ch cartref hefyd.
Cymorth elusennol
Efallai y bydd modd i chi gael grant oddi wrth elusen neu gorff llesiannol yn arbennig os ydych chi’n chwilio am gymorth un-tro. Bydd y mwyafrif ond yn rhoi grantiau am bethau na allwch eu cael drwy grantiau neu fudd-daliadau’r wladwriaeth.
Elusen genedlaethol yw Turn2us (Saesneg yn unig) sy’n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad i fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth.
Mae rhai cyrff yn helpu grwpiau penodol o bobl, e.e. mae Margaret’s Fund (Saesneg yn unig) yn rhoi grantiau am eitemau penodol i fenywod sydd angen cymorth (rhaid i atgyfeiriadau ddod oddi wrth weithiwr gofal proffesiynol).
Bydd rhai cyrff proffesiynol yn cefnogi eu haelodau mewn adegau o galedi ariannol.
Benthyg arian
Gall benthyg arian i dalu am eitemau hanfodol fel bwyd ac ynni fod yn fan cychwyn llithro i mewn i ddyled. Os nad oes gennych chi unrhyw ddewis arall ond benthyg arian i dalu am offer neu dreuliau un-tro, edrychwch o gwmpas am y fargen orau.
Os ydych chi’n cynilo’n rheolaidd gydag undeb credyd, byddwch yn gallu manteisio ar fenthyciad cost isel pan fyddwch chi ei angen. Ewch Undebau Credyd Cymru i ddarganfod mwy.