skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os oes gennych chi anghenion gofal a chymorth, mae’n bosib bod gennych chi hawl i gael cymorth ariannol i wneud addasiadau i’ch cartref. Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar eich anghenion unigol, eich sefyllfa ariannol ac a ydy’r addasiadau mae arnoch chi eu hangen yn cael eu dosbarthu’n rhai
bach, canolig neu fawr.

Addasiadau bach

Ni ofynnir i chi gyfrannu at gost addasiadau bach, fel canllawiau cydio a goleuadau gwell, os ydych:

  • yn yr ysbyty yn aros i gael eu rhyddhau • wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddar, neu
  • mewn perygl o gael eu derbyn i ysbyty neu gartref gofal (efallai o ganlyniad i gwymp)

Rhaid i chi gael eich atgyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr cymdeithasol.

Addasiadau canolig a mawr

Efallai eich bod chi’n gymwys i dderbyn Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) tuag at gost y gwaith os ydych chi neu rywun sy’n byw yn yr eiddo yn hen neu yn anabl, gan gynnwys plentyn anabl.

Mae’r Grant yn orfodol (ar yr amod eich bod yn gymwys ar sail incwm) os ydych chi neu’r unigolyn arall:

  • rydych chi’n methu mynd i mewn neu allan o’ch cartref
  • rydych chi’n methu defnyddio’r ystafell ymolchi neu’r gegin

Bydd y swm a gewch yn cael ei asesu ar incwm eich cartref ac unrhyw gynilion cartref. Bydd rhai budd-daliadau anabledd a chynilion o dan £6,000 yn cael eu hanwybyddu. Uchafswm y grant sy'n daladwy yw £36,000. Nid yw grantiau i blant anabl yn seiliedig ar brawf modd.

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun, cysylltwch ag adran tai eich cyngor lleol am fwy o wybodaeth. Os ydych chi’n rhentu’ch cartref, cysylltwch â’ch landlord.

Talu am addasiadau eich hun

Os ydych chi’n berchen ar eich eiddo, efallai y byddwch chi’n penderfynu trefnu rhai pethau dros eich hunan, e.e. gosod canllaw wrth risiau allanol, neu osod cawod cerdded-i-mewn yn lle baddon.

Yn aml mae gan gynghorau lleol restri aros hir am asesiadau rhad ac am ddim gan therapydd galwedigaethol, felly os gallwch chi ei fforddio, efallai y byddai’n well gennych chi ymgynghori â therapydd galwedigaethol yn annibynnol. Dewch o hyd i un yma (Saesneg yn unig) neu ffoniwch 020 7450 2330.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023