Pan fydd hi’n dod yn anodd byw yn eich cartref presennol – efallai o ganlyniad i afiechyd, anabledd neu freuder – eich adwaith cyntaf o bosibl yw meddwl am symud.
Yn ffodus, nid yw hynny’n angenrheidiol bob tro. Yn aml mae’n bosibl addasu’ch cartref presennol i’w wneud yn haws ac yn fwy diogel i chi barhau i fyw yno.
Mae rhai addasiadau i’r cartref yn syml ac yn rhad; efallai bod angen gwaith adeiladu ar gyfer rhai eraill (a chaniatâd cynllunio).
Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun, mae’n bosibl y bydd rhai addasiadau i’ch cartref leihau’r galwadau corfforol arnoch chi.
Bydd iechyd a diogelwch yr unigolyn anabl neu'r berson hŷn a’r gofalwr fel ei gilydd yn cael eu hymgorffori o fewn yr asesiad a’r ddarpariaeth sy’n cael ei hargymell.
Gall perchnogion, rhentwyr preifat a phobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol wneud cais am gymorth ariannol i dalu am addasiadau i'w cartrefi. Mae rhai grantiau yn seiliedig ar brawf modd.
Addasiadau bach
Yn aml gall addasiadau bach gwella diogelwch ac annibyniaeth rhywun yn aruthrol.
Bydd addasiadau bach fel arfer yn cynnwys rhyw elfen o ‘ffitio neu osod’, ac nid ydynt yn golygu unrhyw newidiadau strwythurol i eiddo.
Mae enghreifftiau o addasiadau bach yn cynnwys:
- canllawiau gafael (dan do a’r tu allan)
- rampiau byr
- system mynediad drws
- goleuadau gwell
- tapiau hygyrch
- sêff allweddi
Mae’r angen am un neu fwy o addasiadau bach yn aml yn cael ei nodi cyn rhyddhau o’r ysbyty neu pan fo risg wedi’i asesu i rywun, e.e. o syrthio.
Addasiadau canolig
Gall addasiadau canolig olygu rhai newidiadau strwythurol i’ch cartref gan gynnwys:
- cawodydd cerdded i mewn
- lifftiau grisiau
- rampiau mawr
Mae addasiadau canolig fel arfer yn cael eu hargymell gan therapydd galwedigaethol ac efallai y bydd angen caniatâd cynllunio.
Addasiadau mawr
Mae addasiadau mawr yn nodweddiadol yn golygu gwneud newidiadau strwythurol fawr i wneud eich cartref yn fwy addas i’ch anghenion.
Yn aml mae angen gwaith adeiladu mawr, gyda’r ymyrraeth gysylltiedig i’ch bywyd beunyddiol. Caiff y gwaith adeiladu fwy na thebyg angen caniatâd cynllunio a bydd
ei wneud gan grefftwyr proffesiynol.
Mae enghreifftiau o addasiadau mawr yn cynnwys:
- gosod lifft grisiau drwy'r llawr
- newidiadau i gynllun y cartref, e.e. adleoli ystafell ymolchi neu gegin
- adeiladu estyniad i greu ystafell ymolchi llawr gwaelod neu ystafell wely
Os ydych am wneud cais i dderbyn Grant Cyfleusterau i’r Anabl i’ch helpu i dalu am addasiadau mawr, rhaid i chi gael asesiad gan therapydd galwedigaethol.
Os credwch fod arnoch chi angen addasiadau i’ch cartref
Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol i drefnu am ymweliad therapydd galwedigaethol. Bydd y therapydd yn asesu os oes angen addasu’ch cartref a sut i fodloni’ch anghenion. Os yw’r sefyllfa yn ddybryd, rhowch wybod iddynt.
Mae gan gynghorau lleol restri aros hir yn aml, felly os gallwch chi ei fforddio, efallai y bydd yn well gennych chi ymgynghori â therapydd galwedigaethol yn annibynnol. Dewch o hyd i un lleol yma (Saesneg yn unig) neu ffoniwch: 0207 450 2330.