skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae pobl o bob oedran yn methu’n aml â hawlio’r budd-daliadau mae ganddynt hawl i’w derbyn.

Mae dau brif reswm am hyn:

  • nid ydynt yn ymwybodol bod ganddynt hawl i gymorth ariannol yn y lle cyntaf, neu
  • maent yn gohirio hawlio am fod llenwi'r ffurflen mor gymhleth.

Mae Age UK yn amcangyfrif bod tua 2.4 biliwn o bunnoedd o Gredyd Pensiwn a Budd-dal Tai heb eu hawlio bob blwyddyn (Gorffennaf 2022).

Yn aml ni fydd pobl iau yn hawlio arian mae ganddyn nhw hawl i’w gael, er enghraifft, y Lwfans Ceisio Gwaith a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun, mae’n bosib bod hawl gennych chi i dderbyn Lwfans Gofalwr (Saesneg yn unig).

Mae rhai budd-daliadau profedigaeth (Saesneg yn unig) yn daladwy pan fydd rhywun wedi marw.

Mae Gov.uk (Saesneg yn unig) yn nodi’r holl gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa bresennol, e.e. rydych yn ddi-waith ond yn chwilio am waith neu os ydych yn anabl ac yn methu gweithio.

Mae Helpwr Arian yn darparu canllaw cynhwysfawr i holl fuddion y DU, gan gynnwys cymhwyster.

Budd-daliadau gyda phrawf modd

Os ydych chi’n gwneud cais am fudd-dâl sy’n dibynnu ar brawf modd, bydd eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Mae hyn yn cynnwys cyfrifon banc, buddsoddiadau, arian parod ac eiddo (ac eithrio’r cartref rydych chi’n byw ynddo).

Mae budd-daliadau gyda phrawf modd yn cynnwys Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol a Budd-dâl Tai.

Os ydych chi’n gymwys o dan rai budd-daliadau gyda phrawf modd, mae’n bosibl y gallwch chi gael cymorth arall fel prydau ysgol am ddim (cysylltwch â’ch cyngor lleol), triniaeth ddeintyddol am ddim a thaliad tywydd oer (Saesneg yn unig).

Budd-daliadau heb brawf modd

Nid yw’r budd-daliadau hyn yn cymryd i ystyriaeth eich incwm na’ch cynilion; ond mae’n bosibl y bydd rhaid i chi fodloni rhai amodau mewn perthynas ag enillion neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Bydd rhai budd-daliadau heb brawf modd (ond nid pob un) efallai’n cael eu cymryd i ystyriaeth os gwnewch chi gais am fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd.

Ymhlith y budd-daliadau heb brawf modd mae’r Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gweini, a’r Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Helpu i hawlio budd-daliadau

Bydd y wefan EntitledTo (Saesneg yn unig) yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau byddwch chi efallai’n gallu eu hawlio, p’un a ydych chi’n ddi-waith neu mewn cyflogaeth, yn sâl neu’n anabl, wedi ymddeol neu’n magu plant. Mae ond angen ateb y cwestiynau a bydd y gyfrifiannell yn pennu’r hyn mae gennych chi hawl i’w gael.

Mae’r Ganolfan Budd-daliadau Anabledd (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor am fudd-daliadau anabledd penodol (mae gwahanol rifau amllinellau cymorth pob budd-dâl).

Bydd Veterans UK (Saesneg yn unig)  yn rhoi cyngor i gyn bersonél y lluoedd arfog am lawer o faterion, gan gynnwys budd-daliadau.

Diweddariad diwethaf: 05/05/2023