skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r argyfwng costau byw – costau ynni, bwyd a thai cynyddol – yn golygu bod angen i’r rhan fwyaf o bobl reoli eu harian fel erioed o’r blaen.

Mae hyd yn oed aelwydydd a oedd yn ymdopi cyn yr argyfwng yn edrych yn agosach o lawer ar yr hyn sy'n dod i mewn - a beth sy'n mynd allan.

Mae cerrig milltir pwysig bywyd yn gallu cael effaith ariannol anferth hefyd. P’un a ydych chi’n mynd i’r brifysgol, yn priodi, yn prynu cartref, yn dechrau teulu, yn gwahanu rhag eich cymar neu’n sefydlu busnes, mae angen arian am bob dim - a llawer iawn ohono.

Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau gofal cartref (personol), mae’n bosib y gofynnir i chi gyfrannu at y gost hyd at uchafswm o £100 yr wythnos (yn ddarostyngedig i asesiad ariannol).

Hyd yn oed os nad oes rhaid i chi boeni am arian, bydd cynllunio ariannol da yn eich helpu i oroesi newidiadau sydyn i’ch amgylchiadau neu wariant annisgwyl. Hefyd mae’n syniad da gwneud ewyllys beth bynnag eich oedran chi.

Cynyddu’ch incwm

Os ydych chi’n ei chael yn anodd cael deupen y llinyn ynghyd, gwiriwch eich bod chi’n derbyn yr holl fudd-daliadau a lwfansau treth mae gennych hawl i’w derbyn. Os ydych chi’n gweithio, gwiriwch eich bod chi ar y cod treth (Saesneg yn unig) cywir. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn budd-daliadau mewn gwaith hefyd.

Os ydych chi’n anabl ac mae gennych chi gostau byw ychwanegol neu’n methu gweithio, mae’n werth gwirio eich bod chi’n hawlio popeth mae gennych hawl i’w gael.

I wirio a fyddai’ch sefyllfa’n well drwy wneud cais am wahanol fudd-daliadau cyn cyflwyno cais, defnyddiwch gyfrifiannell fudd-daliadau ar-lein fel y rhai sydd ar Turn2Us (Saesneg yn unig) ac EntitledTo (Saesneg yn unig). Mae Turn2Us (Saesneg yn unig) yn gallu rhoi cyngor hefyd am grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth.

Cwtogi’ch alldaliadau

Os ydych chi’n talu morgais o hyd, efallai y cewch chi help tuag at y llog (Cymorth ar gyfer Llog Morgais) (Saesneg yn unig) - er bod hwn yn ad-daladwy gyda llog os ydych yn gwerthu neu drosglwyddo perchnogaeth eich cartref.

Mae’n bosib hefyd y gallwch wneud cais am ostyngiad i’ch treth gyngor os chi yw’r unig oedolyn yn y cartref (disgownt un person) neu os oes gan eich cartref rai nodweddion penodol i alluogi oedolyn neu blentyn anabl i fyw yno. Os ydych chi’n rhentu’ch cartref, efallai y cewch chi hawlio Budd-dâl Tai hefyd.

Nid oes unrhyw stigma bellach ynghlwm wrth wisgo dillad ail-law neu wedi eu ‘rhag-garu’. Bachwch fargen yn siop elusen leol – bydd eich pryniant yn helpu’r elusen a’r amgylchedd. Mae rhai siopau’n gwerthu dodrefn am eitemau eraill i’r tŷ hefyd.

Chwiliwch o gwmpas i gael y bargeinion gorau os yn bosibl. Mae’r mwyafrif o archfarchnadoedd yn gwneud gostyngiadau enfawr ar brisiau ar fwydydd ffres, fel saladau, prydau parod ac eitemau’r popty, yn yr hwyr.

Os na allwch fforddio bwyd, yna ni ddylech deimlo embaras i ofyn am help gan fanc bwyd (byddwch yn gyntaf yn derbyn atgyfeiriad gan elusen, gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol).

Mae gan Money Saving Expert gyngor ar sut i arbed arian ar bron pob dim, gan gynnwys eich biliau cyfleustodau, teithio, yswiriant, siopa a benthyciadau. 

Delio â dyled

Os byddwch chi’n mynd i ddyled, ceisiwch beidio â digalonni. Mae digon o gefnogaeth yn bodoli i’ch helpu i ddatrys eich problemau arian.

Mae’r wefan Helpwr Arian llywodraeth y DU yn cynnig cyngor di-dâl a diduedd  am faterion ariannol, gan gynnwys ymdopi â dyled a benthyca. Cysylltwch ar-lein neu ffoniwch 0800 011 3797.

Diweddariad diwethaf: 05/05/2023