skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ychydig o bethau sy’n sicr mewn bywyd, ac eithrio y bydd pob un ohohom ni’n marw un diwrnod. 

Ac ar ôl i ni fynd, mater i’n teulu a’n hanwyliaid sydd ar ôl fydd didoli’n harian a’n pethau, gan gynnwys unrhyw eiddo sydd gennym ni. Bydd eu tasg nhw gymaint yn haws os ydych chi wedi ysgrifennu ewyllys.

Drwy wneud ewyllys, chi’n sy’n cael penderfynu pwy su’n cael beth - nid y gyfraith. Er enghraifft, efallai nad ydych chi’n dymuno i’ch perthynas agosaf etifeddu pob dim ond byddai’n well gennych chi rannu’ch ystâd­ ac eitemau personol penodol - rhwng sawl amrryw o berthnasau a ffrindiau. Efallai yr hoffech chi ddarparu’n ariannol ar gyfer dibynyddion ac anwyliaid eraill, neu adael darn penodol o emwaith neu eiddo etifeddol i rywun y gwyddoch y byddan nhw’n ei drysori.

Marw’n ddiewyllys

Os byddwch chi’n marw heb wneud ewyllys, ni fydd eich dymuniadau chi’n hysbys o reidrwydd, a hyd yn oed os byddan nhw, ni fydd unrhyw ofyniad cyfreithiol i neb eu cyflawni.

Yn aml mae'r broses alaru yn cael ei gwaethygu gan bryderon am arian, cymhlethdodau cyfreithiol a hyd yn oed dadleuon teuluol dros eiddo’r sawl sydd wedi marw.

Os na fyddwch chi’n gadael ewyllys, ni fydd y bobl ganlynol yn etifeddu’n awtomatig:

  • partneriaid di-briod (waeth pa mor hir rydych wedi bod gyda’ch gilydd)
  • perthnasau drwy briodas
  • ffrindiau agos
  • gofalwyr

Yn gryno, Os byddwch chi’n marw heb ewyllys, y gyfraith fydd yn penderfynu pwy sy’n etifeddu’ch ystad ac nid chi. Ac os nad oes gennych chi unrhyw berthnasau drwy waed ar ôl, bydd cyfoeth eich holl ymdrech yn mynd i’r Goron.

Am fwy o wybodaeth am dreth etifeddiant, y rheolau, y trothwyon presennol a sut i’w thalu, ewch i www.gov.uk (Saesneg yn unig).

Ysgrifennu ewyllys

Os gwnewch chi ewyllys, gallwch chi sicrhau mai’r bobl rydych chi’n eu caru fydd yn elwa yn hytrach na pherthnasau pell, Cyllid y Wlad neu’r Goron.

Os yw’ch sefyllfa chi’n syml, h.y. rydych chi’n briod neu heb fod yn berchennog ar eiddo, rydych chi dros 18 oed ac mae gennych chi alluedd meddyliol, cewch chi ddewis ysgrifennu’ch ewyllys eich hun. Mae templedau ar gael ar-lein i’ch helpu gyda’r geiriad.

Gwnewch yn siŵr fod eich ewyllys yn gyfreithlon drwy wirio ei bod yn cydymffurfio â’r canllawiau swyddogol (Saesneg yn unig).

Os yw’ch sefyllfa bersonol neu ariannol chi’n fwy cymhleth a/neu rydych chi’n berchen ar eiddo, mae’n bwysig i chi gael cyngor proffesiynol (Saesneg yn unig).

Mae Helpwr Arian yn esbonio pam dylech chi wneud ewyllys a sut i fynd ati.

Mae Mis Ewyllysiau Am Ddim (Saesneg yn unig) yn dod â phobl dros 55 oed ynghyd ag elusennau cyfrifol. Mae  ewyllysiau syml yn cael eu hysgrifennu neu eu diweddaru’n rhad ac am ddim gan gyfreithwyr cyn cymryd rhan (efallai y bydd tâl am ewyllysiau mwy cymhleth) ac mae pobl yn cael eu hannog i adael rhodd i un o’r elusennau (er nad oes unrhyw rwymedigaeth). Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal bob ychydig o fisoedd ond mae modd i chi gofrestru ymlaen llaw.

Cynllun tebyg yw Will Aid UK (Saesneg yn unig), sy’n uno pobl sydd angen ewyllysiau, cyfreithwyr ac elusennau sy’n cefnogi rhai o gymunedau tlotaf y byd.

Mae SAGA (Saesneg yn unig) yn esbonio sut i wneud eich dymuniadau yn glir yn eich ewyllys ac yn gosod cymynroddion unigol fel bod pawb yn derbyn yr hyn yr ydych am iddynt ei wneud.

Diweddariad diwethaf: 13/04/2023