skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

O dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, rhagdybir bod gennych chi alluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun, oni bai bod gennych ryw anabledd meddyliol, e.e. dementia neu anaf pen difrifol, sy’n golygu na allwch ddeall a chofio gwybodaeth, neu gyfathrebu’ch penderfyniad.

Os oes gennych chi alluedd meddyliol ond byddai’n well gennych i rywun arall reoli’ch busnes ariannol a chyfreithiol, e.e. eich plant, rhieni neu gyfaill rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi, mae gwahanol ddulliau o fynd ati:

Mandad trydydd parti

Mae hyn yn golygu eich bod yn rhoi caniatâd i rywun arall gynnal eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif arall ar eich rhan.

Nid ydych yn rhoi’ch arian iddynt. Dim ond gofyn iddynt dynnu arian a thalu biliau, ac yn y blaen ar eich rhan. Afraid dweud y dylech chi bob amser ddewis rhywun mae gennych chi ffydd lwyr ynddyn nhw a’u bod yn fodlon rheoli’ch arian i chi.

Cysylltwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu i gael ffurflen mandad trydydd parti (fel arfer gallwch chi eu lawrlwytho o’u gwefan). Mae angen i chi enwi unigolyn penodol.

Mae mandad trydydd parti yn gam tymor byr da os bydd rhywun yn sâl neu yn yr ysbyty; fodd bynnag, dim ond tra bod gennych alluedd y mae'n ddilys ac y gallwch wneud penderfyniadau drosoch eich hun.

Cyd-gyfrif

Os ydych chi’n newid eich cyfrif banc er mwyn iddo gael ei ddal mewn enwau ar y cyd â rhywun arall, bydd y ddau ohonoch chi’n gallu tynnu arian a gwneud penderfyniadau heb ofyn i’ch gilydd.

Peidiwch byth ag agor cyd-gyfrif ond gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt yn llwyr achos mae’r arian sydd yn y cyfrif – ac unrhyw ddyledion sy’n codi – yn perthyn i’r ddau ohonoch chi.

Hanner cam da fyddai sefydlu cyd-gyfrif ar gyfer biliau a threuliau eraill, ond cadw cyfrif banc personol eich hun hefyd.

Atwrneiaeth Gyffredin

Mae Atwneiaeth Gyffredin yn rhoi awdurdod i’r unigolyn rydych chi’n ei ddewis reoli’ch materion ariannol. Gall fod yn beth dros dro neu’n ben-agored; ond mae’n ddilys dim ond tra bod gennych chi alluedd meddyliol ac yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Nid oes angen cofrestru Atwneiaeth Gyffredin Ond mae'n rhaid i chi ddefnyddio iaith gyfreithiol benodol (Saesneg yn unig).

Atwrneiaeth Arhosol (LPA)

Pan rowch chi Atwneiaeth Arhosol i rywun, mae’n golygu eich bod yn rhoi iddynt yr awdurdod i weithredu ar eich rhan yn y tymor hir. Rhaid bod gennych chi alluedd meddyliol i sefydlu LPA; fodd bynnag, bydd yn parhau i fod yn ddilys os byddwch chi'n colli capasiti yn ddiweddarach.

Mae yna ddau fath o LPA:

  • Mae LPA eiddo a busnes yn rhoi’r awdurdod i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan.
  • Mae LPA iechyd a lles yn rhoi i unigolyn/unigolion a enwir yr awdurdod i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eich lles chi os na allwch chi wneud hyn dros eich hunan ragor.

Rhaid i LPA gael ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Saesneg yn unig). Mae hyn yn costio £82 yr LPA (mae eithriadau a gostyngiadau) ac yn gallu cymryd hyd at 20 wythnos.


I gael rhagor o wybodaeth am sefydlu LPA ewch i gov.uk (Saesneg yn unig).
 

 

Diweddariad diwethaf: 13/04/2023