skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ar ryw adeg yn eich bywyd, efallai y penderfynwch y byddai’n well petai rhywun arall yn gallu rheoli’ch materion chi drosoch chi – yn barhaol neu dros dro.

Efallai bod aelod o’r teulu wedi awgrymu y byddai’n syniad da. Efallai eu bod wedi eich gwylio chi’n ei chael yn anodd cadw i fyny â’r gwaith papur yn rheolaidd neu’n cael anawsterau wrth hawlio budd-daliadau neu werthu’ch cartref.

Os ydych chi’n sâl neu’n anabl, neu os oes gennych chi ddementia neu anaf difrifol i’r ymennydd, nid yw’n beth anghyffredin bod angen help gyda phenderfyniadau mawr a materion cymhleth. Mae’r ffordd rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac a oes gennych chi’r hyn maent yn ei alw’n ‘alluedd meddyliol’ neu beidio. Ystyr hyn yw a ydych chi’n gallu deall a gwneud eich penderfyniadau eich hun am eich bywyd neu beidio.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gweithio ar yr egwyddor bod gan rywun 16 oed ac yn hŷn y galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hun am arian, triniaeth feddygol a gwasanaethau gofal cymdeithasol os cânt ddigon o amser, cefnogaeth a gwybodaeth i wneud hynny.

Ni ellir barnu nad oes gan rywun alluedd meddyliol dim ond am nad yw pobl eraill yn cytuno â’i benderfyniadau.

Efallai nad oes gennych chi alluedd meddyliol oherwydd:

  • anaf i’r ymennydd neu strôc
  • dementia
  • anabledd dysgu
  • problem iechyd meddwl
  • cam-drin sylweddau
  • meddyginiaeth

Mae’r opsiynau ar gyfer rheoli’ch materion chi’n dibynnu a oes gennych chi alluedd meddyliol neu beidio.

Diweddariad diwethaf: 06/04/2023