Nid oes neb yn hoffi mynd i ddyled; ond gall newid annisgwyl yn eich amgylchiadau, treuliau annisgwyl neu batrymau gwariant gwamal anfon eich trefniadau ariannol allan o reolaeth.
Os ydych chi’n gwario arian nad yw gennych chi – ac yn parhau i’w wario – yn y pen draw byddwch chi’n darganfod eich bod mewn dyled.
Nid oes rhaid i chi fod yn gorwario gan lawer. Mae gan ddyledion arfer drwg o gronni’n araf deg, ynarbennig os ydych’ch gwariannau ychydig yn fwy na’ch incwm yn rheolaidd.
Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi mewn dyled?
Yn gyntaf, cymerwch anadl dwfn ac arhoswch yn ddigyffro. Ni fydd cadw’ch pryderon am ddyledion i’ch hunan yn helpu – dwedwch wrth eich teulu ac yna chwiliwch am gymorth arbenigol cyn gynted â phosibl.
P’un a ydych chi wedi gorwario ar eich cerdyn credyd, wedi cymryd allan cyfres o fenthyciadau diwrnod cyflog neu’n methu â thalu’ch morgais, eich rhent neu’ch biliau cyfleustodau, mae yna bobl sy’n gallu helpu bobl sy’n gallu helpu.
Mae Gwasanaeth Cynghori Ariannol Cymru yn cynnig cyngor di-dâl a di-duedd am ddyled a benthyciadau diwrnod cyflog. Mae cyngor am ddelio â dyled ar wefan The Money Saving Expert (Saesneg yn unig) hefyd.
Os yw’ch cartref chi mewn risg
Mae’n arbennig o bwysig gofyn am gyngor os ydych ar ei hôl hi gyda’ch morgais neu’ch rhent am y gallwch chi fod mewn perygl o golli’ch cartref.
Mae Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru (Saesneg yn unig) yn rhoi cyngor cyfrinachol ac arbenigol am ddim i unrhyw un sy’n cael anawsterau talu eu morgais neu eu rhent.
Benthycwyr arian didrwydded (‘loan sharks’)
Benthycwyr arian anghyfreithlon yw’r rhai sy’n ddidrwydded, sy’n targedu pobl hawdd eu niweidio’n aml. Nid ydynt yn darparu unrhyw waith papur, neu ychydig yn unig, maent yn codi cyfraddau llog gwarthus ac maent yn gallu bod yn gas iawn os byddwch chi’n colli taliad.
Mae’n well o lawer cadw draw rhag benthycwyr arian didrwydded ond os yw’n rhy hwyr (neu rydych yn gwybod bod benthyciwr didrwydded yn gweithredu yn eich ardal chi), cysylltwch ag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru, yn ddi-enw os yw’n well gennych chi. Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei defnyddio mewn llys.