skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Nid oes rhaid i chi fod yn cysgu ar y stryd i fod yn ddigartref o dan y gyfraith. Efallai bod gennych chi do dros eich pen ar hyn o bryd, ond os yw’ch cartref yn anaddas i’ch anghenion, yn anniogel neu os nad oes gennych chi unrhyw hawl gyfreithiol i aros yno, e.e. rydych chi’n byw mewn sgwat, mae’n bosib y cewch eich dosbarthu’n ddigartref o dan y gyfraith.

Efallai eich bod yn ddigartref am eich bod wedi’ch troi allan, wedi colli’ch swydd, mae’ch eiddo wedi cael ei ddifrodi, e.e. mewn tân neu lifogydd, neu rydych wedi cael problemau gyda chydberthynas neu eich iechyd.

Gallwch chi gael eich dosbarthu'n ddigartref o dan y gyfraith hefyd os ydych:

  • yn byw mewn amgylchiadau o ordyrru
  • mewn perygl o drais neu gamdriniaeth lle rydych chi’n byw
  • yn aros gyda ffrindiau ar sail dros dro
  • yn aros mewn hostel neu sefydliad gwely a brecwast
  • yn byw mewn amodau sy’n effeithio ar eich iechyd, e.e. llety llaith
  • wedi eich gorfodi i fyw i ffwrdd o’ch teulu am nad yw’ch cartref yn addas

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd gryfach ar gynghorau lleol i atal digartrefedd. O dan y ddeddfwriaeth newydd hon, efallai bod gan eich adran dai leol ddyletswydd i’ch helpu os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref yn y  56 diwrnod nesaf. Mae’r math o gymorth mae gennych chi hawl i’w gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau ond bydd bron yn sicr yn cynnwys cyngor a chymorth yn gynnar. 

D.S. Yn ardaloedd awdurdodau lleol lle mae’r stoc dai wedi cael ei throsglwyddo i gymdeithas tai, cyfrifoldeb cyfreithiol y cyngor lleol yw hi o hyd i edrych i mewn i’ch sefyllfa a gweld sut y gallai eich helpu.

Diweddariad diwethaf: 27/04/2023