Mae newidiadau diweddar i’r gyfraith yn golygu bod gan eich cyngor lleol ddyletswydd erbyn hyn i roi cyngor a chymorth ymarferol i unrhyw un sy’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, hyd yn oed pan nad oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu tai.
Mae’r ddyletswydd hon yn dal i fod yn berthnasol yn ardaloedd awdurdodau lleol lle mae’r stoc dai wedi cael ei throsglwyddo i gymdeithas tai.
Cael help a chyngor
Mae bob amser yn syniad da cael cyngor mor fuan â phosibl am y gallai cynghorydd tai eich helpu i ddod o hyd i ffordd o aros yn eich cartref, dod o hyd i gartref newydd yn gyflym (i’ch atal rhag mynd yn ddigartref) neu gael cymorth oddi wrth eich cyngor lleol.
Mae Cyngor ar Bopeth ac elusennau tai fel Shelter Cymru a Llamau (Saesneg yn unig) hefyd yn darparu cyngor ar amrediad eang o faterion tai, gan gynnwys digartrefedd, ôl-ddyledion morgais a rhent.
Gwneud cais am dai cymdeithasol
Os ydych chi’n rhentu’n breifat ar hyn o bryd – neu os ydy’ch cartref ar fin cael ei adfeddiannu gan y cwmni morgais – efallai y penderfynwch wneud cais am dai cymdeithasol.
Tai cymdeithasol yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio eiddo sydd ym mherchnogaeth ac yn cael ei rentu allan gan gynghorau lleol a chymdeithasau tai.