Mae gan gynghorau lleol ddyletswydd i roi cyngor a chymorth ymarferol i unrhyw un sy’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, hyd yn oed pan nad oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu tai.
O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae gan y cyngor ddyletswydd i roi’r holl gymorth mae ei angen arnoch chi er mwyn sicrhau cartref diogel beth bynnag yr amgylchiadau a arweiniodd at eich digartrefedd.
Mae’r ddyletswydd hon yn dal i fod yn berthnasol yn ardaloedd awdurdodau lleol lle mae’r stoc dai wedi cael ei throsglwyddo i gymdeithas tai.
Fel rhywun digartref, mae gennych chi’r hawl i hawlio budd-daliadau o hyd yn ogystal â’r hawl i bleidleisio.
Angen blaenoriaethol
Mae rhai pobl yn cael eu hystyried yn arbennig o hawdd eu niweidio os byddan nhw’n mynd yn ddigartref. Mae’r rhain yn cael eu disgrifio fel bod mewn ‘angen blaenoriaethol’ ac maen nhw’n cynnwys benywod beichiog, pobl hŷn a phobl ag anableddau neu broblemau iechyd meddwl.
Os ydychchi’n dod i mewn i un o’r grwpiau hyn, ac yrydch chi’n ddigartref o dan y gyfraith ac yn gymwys i dderbyn cymorth, fel arfer bydd y cyngor yn darparu llety argyfwng i chi.
Mae’n bosibl y bydd y cyngor yn cynnig llety i chi hyd yn oed os nad ydych chi mewn angen blaenoriaethol ond nid oes ganddo unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Os na fyddwch chi’n dod i mewn i un o’r categorïau angen blaenoriaethol ond yn credu eich bod yn ddiamddiffyn o hyd, dwedwch wrth y cyngor.
Os byddwch chi’n gadael eich llety pan nad oes rhaid neu’n peidio â dychwelyd pan fydd gennych chi hawl i wneud, gallai effeithio ar eich hawl i unrhyw help gan y cyngor.
Dyletswydd ofal
Hefyd mae gan y cyngor lleol ddyletswydd ofal dros rai unigolion penodol sy’n mynd yn ddigartref, gan gynnwys:
- rhai pobl ifanc o dan 18 oed
- pobl hyd at 21 oed sydd wedi gadael gofal (neu 24 oed os ydyn nhw mewn addysg amser llawn)
- pobl ag anableddau
- pobl â phroblemau iechyd meddwl
- pobl hŷn
Sefyllfaoedd brys
Mae gan bob cyngor wasanaeth ffôn 24-awr ar gyfer pobl mewn sefyllfaoedd argyfwng, e.e. os cewch eich hun yn ddigartref yn sydyn o ganlyniad i dân, llifogydd neu gamdriniaeth ddomestig.
Llochesi nos
Mae llochesi nos yn y trefi mwy o faint a’r dinasoedd, fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Mae rhai yn gweithredu yn ystod misoedd y gaeaf yn unig.