Mae digartrefedd yn golygu bod heb le diogel i fyw ynddo. Mae pobl ifanc yn y pen draw yn ddigartref am bob math o wahanol resymau, gan gynnwys:
- gwrthdaro teuluol
- gorboblogi
- cam-drin corfforol a/neu rywiol gan aelodau o'r teulu
- perthynas gamdriniol gyda phartner
- diweithdra a thlodi, e.e. methu fforddio tai
- cam-drin sylweddau
Mae pobl ifanc sy’n ddigartref yn gallu wynebu llawer o amgylchiadau anodd, ac weithiau’n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus i geisio ‘dodi heibio’. Dyna pam ei bod yn bwysig eich bod yn ceisio cymorth os ydych yn ddigartref nawr, h.y. nid oes gennych le diogel i aros, neu os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rhwymedigaeth gyfreithiol
Mae gan gyngor lleol rwymedigaeth gyfreithiol i helpu unrhyw un sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'r math o help a gynigir yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau. Bydd y cyngor bob amser yn ceisio atal person ifanc rhag dod yn ddigartref os yn bosibl. Gallai hyn gynnwys pethau fel cynnig cymorth i’r teulu cyfan i ddatrys y gwrthdaro fel y gallwch aros gartref neu eich helpu i ddod o hyd i lety brys.
Os ydych yn 16 neu 17
Mae gan y cyngor lleol ddyletswydd gyfreithiol tuag at bobl ifanc 16 neu 17 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Os ydych yn gadael gofal, bydd dyletswydd y cyngor i ddod o hyd i le diogel i chi aros fel arfer yn parhau nes eich bod yn 21, neu 25 os ydych mewn addysg amser llawn.
Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn
Mae gan gynghorau hefyd ddyletswydd i helpu unrhyw un sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref yn y 56 diwrnod nesaf – mae’r cymorth hwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ond fel arfer bydd yn cynnwys cymorth i’ch atal rhag dod yn ddigartref neu eich helpu i chwilio am lety addas.
Cofiwch:
- Hyd yn oed os oes gan y cyngor ddyletswydd i ddod o hyd i lety ar eich cyfer, nid yw'n golygu bod gennych hawl i dŷ cymdeithasol – efallai y cewch gynnig llety rhent preifat addas.
- Os ydych rhwng 18-21 oed a’ch bod yn dechrau cais budd-dal newydd, ni fydd gennych hawl awtomatig i’r elfen tai o’r Credyd Cynhwysol (a elwid yn flaenorol yn Fudd-dal Tai).
- Os ydych o dan 35 oed, efallai mai dim ond y gyfradd ‘rhannu ystafell’ o elfen costau tai Credyd Cynhwysol y bydd gennych hawl iddi (mae rhai eithriadau).
Mae’n bwysig cael y cyngor cywir am yr hyn y mae gennych hawl i’w hawlio cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch rhentu eiddo neu ystafell.
Mwy o wybodaeth
Edrychwch ar wybodaeth gynhwysfawr Shelter Cymru am dai i rai dan 25 oed. Dylai unrhyw un sy'n wynebu cael ei droi allan hefyd geisio cyngor cyfreithiol gan Shelter.
Mae Llamau (Saesneg yn unig) yn gweithredu gwasanaeth cefnogaeth symudol i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Ffôn: 01495 301351
Mae Crisis yn darparu cymorth un-i-un i bobl ddigartref. Ffôn: 01792 674900.
Mae Become yn cefnogi pobl ifanc mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rhadffôn 0800 023 2033 (10am–5pm, yn ystod yr wythnos)