Un o’r pethau pwysicaf y mae’n rhaid i unrhyw riant ei wneud yw dysgu i’w plentyn sut i fyw yn annibynnol un diwrnod.
Er ei bod yn naturiol i rieni ddymuno amddiffyn pobl ifanc rhag agweddau llai dymunol bywyd, mae’n llawer gwell yn y tymor hir iddynt ddysgu i fod yn hunan-ddibynnol ac i allu delio â heriau bywyd.
Proses raddol yw paratoi’ch plentyn i fod yn annibynnol a chyfrifol; ond mae rhai gwersi gallwch eu cyflwyno’n gynnar, er enghraifft, datblygu arferion da o ran cynilo a gwario arian. Chwiliwch am ddulliau o ehangu eu haddysg ariannol, e.e. anogwch nhw i ennill eu harian poced drwy wneud tasgau yn y cartref neu i gynilo am bethau maent eu heisiau.
Mae’n debygol y bydd angen cyngor ymarferol ar bobl ifanc sy’n gadael cartref i fyw yn annibynnol – efallai i ddilyn eu hastudiaethau, ymgymryd â lle hyfforddiant neu swydd newydd, neu i fyw gyda’u cymar. Gallai’r cyngor hwn ymwneud â dod o hyd i’w cartref cyntaf, rheoli cyllideb yr aelwyd neu gadw pethau dan reolaeth yn gyffredinol.
Y dyddiau hyn, mae digonedd o gyngor ariannol ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n awyddus i wneud i’w harian fynd ymhellach.
O ganlyniad i newidiadau i’r ffordd mae budd-daliadau yn cael eu talu, nid yw llawer o bobl ifanc dan 21 oed yn gymwys i dderbyn help gyda’u costau tai bellach.
Yn anffodus, mae yna bobl ifanc sydd heb gartref yn y lle cyntaf, a bydd llawer yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd, ar soffa ffrindiau neu mewn hosteli dros dro. Mae pobl ifanc ddigartref yn aml yn gosod eu hun mewn sefyllfaoedd peryglus am eu bod yn credu nad oes unrhyw ffordd arall o oroesi, ond nid yw hyn yn wir. Mae gan gynghorau lleol ddyletswydd gyfreithiol i helpu pobl 16-17 oed sy’n ddigartref, gadawyr gofal dan 21 oed (25 os ydynt mewn addysg amser llawn) a rhai pobl ifanc benodol eraill
e.e. rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn rhywiol.
Nid oes dwywaith y gall fod yn anodd cael dau ben y llinyn ynghyd ar ôl cymryd i ystyriaeth costau tai, biliau’r cartref, dyledion myfyrwyr a chostau eraill fel teithio i’r gwaith.
Mae’n hawdd iawn i ddyledion rhywun fynd allan o reolaeth pan fydd yr arian sy’n dod i mewn prin yn talu am ei all-daliadau bob mis. Pan fydd arian yn brin, mae gwariant annisgwyl neu argyfwng yn y cartref yn debygol o beri caledi gwirioneddol. Yn dibynnu ar amgylchiadau’r person ifanc, mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol argyfwng ar gael.