skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gyda chostau byw yn codi'n aruthrol, a phrisiau bwyd a thanwydd yn codi i'r entrychion, mae llawer o deuluoedd yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd. I bobl ifanc, sy'n aml yn dal i astudio neu weithio mewn swyddi cyflog isel, rhan-amser neu lefel mynediad, mae dod o hyd i ffyrdd o gadw costau byw mor isel â phosibl yn hollbwysig.

Mae costau tai yn cymryd cyfran llawer uwch o incwm oedolyn ifanc nag oeddent o’r blaen, sy’n golygu bod llai ar ôl am y biliau cyfleustodau, costau cludiant, bwyd, dillad ac adloniant.

Nid yw’n syndod y gallai’r sawl sydd hefyd yn ceisio cynilo am gar, fflat neu flaendal am dŷ neu briodas deimlo’n anobeithiol.

Pan nad oes fawr o siawns o dderbyn codiad mewn cyflog neu fathau eraill o incwm, e.e. benthyciad myfyriwr, yr unig ffordd y gall pobl ifanc estyn eu harian yw cadw costau mor isel â phosibl.

Tai

Yr opsiwn rhataf yw byw gyda rhieni neu berthnasau eraill; fodd bynnag, nid yw hyn yn bosibl i bawb gan gynnwys myfyrwyr a’r sawl sy’n gadael gofal.

I’r sawl sy’n rhentu, fel arfer mae’n ddrutach rhentu’n breifat er y gallai rhannu llety fod yn opsiwn. Fel arfer mae tai cymdeithasol yn rhatach ac yn fwy diogel. Peidiwch â rhagdybio hawl i fudd-dal tai gan nad oes unrhyw hawl awtomatig gan bobl 18-21 oed i elfen costau tai Credyd Cynhwysol (ac ychydig iawn o bobl 16-17 oed sy’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol (Saesneg yn unig) o gwbl).

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael i’r rhai sy’n wynebu codiad rhent na allant ei fforddio.

Nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif at ddibenion y dreth gyngor, e.e. myfyrwyr, nyrsys sy’n fyfyrwyr, a phrentisiaid, ac mae aelwydydd un-person yn derbyn biliau sydd 25% yn is. Mae gan Gyngor ar Bopeth fwy o wybodaeth.

Mae gan Dŵr Cymru Welsh Water nifer o ffyrdd i helpu pobl sy'n cael trafferth talu eu biliau dŵr.

With energy prices going through the roof, everyone needs to make sure they are on the best tariff for their circumstances. Consumer champion Martin Lewis offers advice on the Money Saving Expert (Saesneg yn unig) website.

It may be possible to reduce other outgoings, like insurance, internet and phone, simply by shopping around and comparing prices. To find the best deals, use comparison sites like:

Cludiant

Mae’r mwyafrif o bobl ifanc yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus i deithio o gwmpas.

O ran cynllunio i deithio, yr allwedd i gwtogi costau yw cynllunio ymlaen llaw a siopa o gwmpas. Mae prisiau hediadau (Saesneg yn unig) yn amrywio’n aruthrol yn dibynnu ar y maes awyr, y cludwr ac amser/dyddiad y daith (gyda gwyliau ysgol y cyfnod drutaf).

Mae cost coetsis a rheilffyrdd yn tueddu i fod yn rhatach po gynharaf ymlaen llaw yr archebwch eich lle. Chwiliwch am ddisgowntiau i bobl dan 25 oed, yn aml ar y cyd â cherdyn bws neu gerdyn rheilffordd (Saesneg yn unig).

Mae yswiriant yn gallu bod yn ddrud i yrwyr ifanc ond bydd gwefannau cymharu yn eich helpu i sicrhau’r fargen orau. 

Bwyd

Gyda chostau bwyd yn codi ac arferion siopa’n newid, nid yw’n syndod bod cynifer o bobl ifanc yn gorwario ar fwyd. Dyma rai dulliau o gadw’r biliau bwyd i lawr:

Siopa

  • osgowch siopa bob dydd - ceisiwch ei wneud unwaith neu ddwy yr wythnos
  • bwytewch cyn siopa – mae eisiau bwyd yn arwain at brynu byrbwyll
  • cynlluniwch brydau am yr wythnos o’ch blaen
  • ysgrifennwch restr a chadwch ati
  • defnyddiwch siopau cyfarwydd – mae chwilio am eitemau yn arwain at brynu byrbwyll
  • prynwch frandiau’r archfarchnad ei hun yn lle enwau brand mawr
  • prynwch mewn swmp dim ond os caiff y bwyd ei ddefnyddio (neu rhannwch ef â ffrindiau)
  • ewch i siopa’n hwyr yn y dydd pan gaiff prisiau bwyd ffres eu lleihau’n aml
  • defnyddiwch arian parod – mae llai o siawns o wario mwy na’r gyllideb

Prydau bwyd

  • ewch â chinio pecyn gyda chi i’r coleg neu’r gwaith
  • prynwch fyrbrydau mewn pecynnau aml-ddogn i leihau’r gost
  • coginiwch brydau o’r dechrau a rhewi dognau i’w defnyddio yn y dyfodol
  • cynlluniwch brydau er mwyn osgoi gwastraffu bwydydd ffres
  • gwiriwch yr oergell/rhewgell/cypyrddau cyn mynd i siopa
  • gwiriwch y dyddiadau defnyddio a dod i ben er mwyn osgoi gwastraff
  • rhowch gynnig ar fwydydd a ryseitiau newydd – mae prydau llysieuol yn gallu bod yn rhatach ac maent yr un mor flasus

Mae gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff lawer o ryseitiau a syniadau am leihau gwastraff bwyd.

Mae apiau fel Too Good To Go ac Olio yn cyfeirio defnyddwyr at fwyd gostyngol o fwytai, caffis a siopau becws. 

Mae gan Cooking on a Bootstrap a Student Recipes ryseitiau cost isel.

Bwyta allan

Mae angen amheuthun ar bawb o bryd i’w gilydd (efallai i ddathlu pen-blwydd) ac nid oes rhaid iddo gostio’r byd.

Fel arfer mae’n rhatach bwyta allan yn ystod amser cinio neu’n gynnar yn y noson. I fwyta allan yn y nos, chwiliwch am gynigion arbennig, gan gynnwys bargenion pan gaiff plant fwyta am ddim a thalebau (Saesneg yn unig). Mae diodydd yn gallu bod yn ddrud felly os ydy arian yn brin, cadwch at ddŵr tap (mae’n rhaid i sefydliadau trwyddedig ddarparu dŵr tap i gwsmeriaid sy’n talu).

Mae gan Save the Student gynghorion am fwyta allan ar gyllideb, neu gwiriwch Groupon (Saesneg yn unig) i brynu talebau gostyngiad.

Syniadau eraill i gwtogi costau

Y ffordd orau o gadw costau i lawr yw i beidio â gwario’n ddiangen, yn arbennig yn y sêls; mae rhywbeth ond yn fargen os caiff ei wisgo neu ei ddefnyddio. Mae Moneysaving Expert (Saesneg yn unig) yn argymell defnyddio mantras arian i atal prynu byrbwyll.

Ar gyfer pethau rydych yn bwriadu eu prynu, mynnwch siopa o gwmpas bob tro am y pris neu’r gwasanaeth gorau. Lle bynnag y bo modd, cliciwch drwy wefannau arian yn ôl am ddim (Saesneg yn unig).

Mae gan Money Saving Expert ddigon o awgrymiadau arbed arian i fyfyrwyr. (Saesneg yn unig). 

Mae gan Helpwr Arian adran ar reoli eich cyllideb yn y cyfnod ansicr hwn (a llawer o wybodaeth ddefnyddiol arall am faterion yn ymwneud ag arian).

Diweddariad diwethaf: 09/03/2023