Gyda’r rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, gwell eu hatal na’u hadfer. Mae’n llawer haws i bobl ifanc reoli eu harian ac osgoi pryderon ariannol posibl drwy geisio cyngor yn gynnar.
Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu cael cynghorydd ariannol – er bod hynny’n syniad da wrth ymdrin â morgeisi, buddsoddiadau a phensiynau – achos mae hen ddigon o gyngor da ar gael ar-lein. Os byddant yn penderfynu defnyddio cynghorydd ariannol, dylent ofyn i ffrindiau a theulu am argymhellion.
Sicrhau’r bargeinion gorau
Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr taflu arian rydych wedi gweithio’n galed i’w ennill i ffwrdd ar nwyddau sydd wedi’u gorbrisio, neu fuddsoddiadau diwerth.
Cyn prynu dim, boed yn rhywbeth ariannol neu nwyddau traul, mae’n bwysig siopa o gwmpas. Defnyddiwch wefannau cymharu i gymharu prisiau ar-lein ac ar y stryd fawr.
Cofiwch, os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, h.y. mae’r gost yn anhygoel o isel neu mae’r buddsoddiad di-risg yn anhygoel o broffidiol, yna mae’n debyg ei fod e.
Mae Helpwr Arian yn esbonio materion ariannol gan gynnwys benthyciadau a benthyca, cyfrifon banc ac argyfyngau ariannol mewn termau syml.
Mae gan Money Saving Expert (Saesneg yn unig) wybodaeth gyfredol am fancio a chynilion, benthyca, a morgeisi. Yn ogystal, mae’r wefan yn helpu defnyddwyr i sicrhau’r bargeinion gorau ar gynhyrchion teithio, biliau cyfleustodau, yswiriant a siopa yn gyffredinol.
Mae gan y wefan i ddefnyddwyr, Which? (Saesneg yn unig), arweiniadau ar-lein ynghylch arian, gwasanaethau, cynhyrchion a hawliau defnyddwyr.
Mae gan Unbiased.co.uk (Saesneg yn unig) awgrymiadau ac arweiniadau i bopeth sy’n ymwneud ag arian.
Delio â dyled
Dim ots beth fydd person ifanc efallai’n meddwl, nid oes yr un broblem ddyled na all gael ei datrys. Y peth pwysig i’w gofio yw bod yna bobl sy’n aros i’w helpu i ddatrys eu pryderon ariannol - mae ond angen codi’r ffôn a chysylltu â nhw.
Mae Stepchange (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor am ddim i unrhyw un sydd mewn sefyllfa o ddyled.
Mae’r National Debt Helpline (Saesneg yn unig) yn credu na ddylai neb fynd drwy broblemau dyled ar ei ben ei hun ac mae’n cynnig cyngor ar-lein. Ffoniwch: 0808 808 4000.
Gall cynghorwyr Childline helpu plant a phobl ifanc gyda’u pryderon ariannol. Ffoniwch: 0800 1111.
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am fudd-daliadau, dyled a benthyca.