skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae gofalwyr ifanc yn blant a phobl ifanc o dan 18 oed y mae gofalu am rywun arall yn effeithio ar eu bywydau mewn rhyw ffordd.

Mae gofalwyr ifanc yn cefnogi (neu’n helpu i gefnogi) rhywun na fyddai’n gallu aros gartref heb eu help. Efallai eu mam neu dad fydd hyn, eu chwaer neu frawd, modryb neu ewythr neu hyd yn oed mam-gu neu dad-cu.

Yn aml mae gofalwyr ifanc rhwng 16 a 25 oed yn cael eu galw’n ofalwyr sy’n oedolion ifanc. Efallai y bydd yn anodd iddyn nhw gydbwyso eu rôl gofalu gydag addysg, cyflogaeth a pherthnasoedd.

Effaith gofalu

Mae helpu i edrych ar ôl rhywun yn beth ardderchog i’w wneud; ond mae’n gallu cael effaith aruthrol ar fywyd y person ifanc ei hun.

Mae llawer o ffyrdd y gallai gofalu am rywun effeithio ar fywyd person ifanc:

  • colli ysgol neu fod heb ddigon o amser i wneud eu gwaith cartref
  • peidio â mynd i’r coleg neu’r brifysgol am eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n methu mynd oddi cartref
  • heb allu gwahodd ffrindiau o gwmpas
  • heb ddigon o amser i fwynhau gweithgareddau hamdden a chymdeithasol
  • cael eu bwlio yn yr ysgol
  • teimlo’n unig ac yn ynysig rhag plant a phobl ifanc eraill
  • heb ddigon o amser i fwynhau bod yn ifanc

Hawliau plant

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc rai hawliau penodol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r rhain yn cynnwys hawl i:

Help ar gyfer gofalwyr ifanc

Mae’n bwysig nad yw gofalwyr ifanc yn cael eu gadael i ymdopi ar eu pen eu hun.

Gwnewch yn siŵr bob tro bod ysgol neu goleg y person ifanc yn ymwybodol o’r sefyllfa - os ydyn nhw’n gwybod, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn gydymdeimladol os bydd y person ifanc yn hwyr weithiau neu’n methu gwneud eu gwaith cartref mewn pryd bob tro.

Dylai gofalwyr sy’n oedolion ifanc ac sy’n gweithio ddweud wrth eu cyflogwr. Os bydd argyfwng, mae gan bob gofalwr hawl gyfreithiol i absenoldeb (di-dâl).

Mae gan ofalwyr ifanc hawl i asesiad o’u hanghenion eu hunain. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn darganfod dulliau o gefnogi gofalwyr ifanc, gan gynnwys eu rhoi mewn cysylltiad â grŵp cymorth gofalwyr ifanc neu drefnu seibiant byr.

Os nad yw’r sawl sy’n derbyn y gofal yn cael unrhyw gymorth allanol ar hyn o bryd, cysylltwch â gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol i gael gwybod pa help allai fod ar gael.

Diweddariad diwethaf: 09/05/2023