Fel arfer mae unigedd yn gysylltiedig â phobl hŷn; fodd bynnag, gall plant a phobl ifanc deimlo’n unig ac yn ynysig weithiau hefyd.
Yn aml, rhywbeth dros dro yw’r teimlad hwn o unigedd a bydd yn mynd cyn hir – efallai eu bod wedi symud i ysgol newydd yn ddiweddar a heb wneud ffrindiau newydd eto – ond mae llawer o bobl ifanc yn teimlo’n anhapus ac yn unig am lawer o’r amser.
Mae p’un a yw person ifanc yn teimlo’n unig neu beidio yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys faint o amser mae’n ei dreulio ar ei ben ei hun (ac a yw’n mwynhau hynny), ei ffrindiau a hyd yn oed lle mae’n byw. Yn aml, daw’r ymdeimlad o arwahanrwydd o’r teimlad nad oes neb yn ei ddeall.
Mae’r NSPCC yn adrodd bod miloedd o bobl ifanc yn teimlo’n ynysig ac yn cael anawsterau gyda phwysau tyfu i fyny ym myd heddiw. Gall y teimladau parhaus hyn gael effaith andwyol a hirdymor ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant emosiynol.
Pam ydy pobl ifanc yn teimlo’n unig?
Mae pawb yn wahanol, ond ymhlith y pethau sy’n gallu sbarduno teimladau o unigedd neu arwahanrwydd mewn pobl ifanc mae:
Cofiwch, teimlad yw unigedd. Gall pobl ifanc deimlo’n unig er bod ganddynt fywydau prysur a llawer o ffrindiau.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae pobl ifanc yn treulio cryn dipyn o amser ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n gallu gwneud iddi ymddangos petai pawb arall yn fwy poblogaidd, yn fwy golygus ac yn cael amser gwych drwy’r amser. Er nad yw hyn yn wir, mae’n anodd boddi dan luniau o bawb arall yn cymdeithasu pan fyddan nhw gartref ac yn colli allan ar yr hwyl.
Os amheuwch fod teimladau arwahanrwydd eich plentyn yn deillio o’r amser mae’n ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol, argyhoeddwch ef i ddod all-lein am ychydig o oriau a gwnewch rywbeth gyda’ch gilydd yn y byd go iawn mae’r ddau ohonoch chi’n ei fwynhau.
Sut allwch chi helpu
Anogwch eich plentyn i siarad â chi am pam mae’n teimlo fel y mae ac a oes unrhyw beth allwch chi ei wneud i helpu. Er enghraifft, os yw’n colli gweithgareddau cymdeithasol o ganlyniad i ddiffyg cludiant cyhoeddus a/neu gar, efallai y gallech chi ei helpu i drefnu lifftiau? Os yw’n colli ei hen ffrindiau, beth am drefnu ymweliad am benwythnos?
Os yw’n cael ei fwlio, siaradwch â’r ysgol.
Os bydd person ifanc yn dweud wrthych chi ei fod yn cael ei gam-drin, mae’n rhaid i chi ei adrodd. Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Gofyn am gymorth proffesiynol
Weithiau, mae’r teimladau o unigedd yn mynd llawer ymhellach a gall person ifanc ddechrau hunan-niweidio neu fynegi meddyliau hunanladdol.
Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae’n bosibl y bydd angen cymorth proffesiynol arno. Gall eich meddyg teulu drefnu am asesiad a chaiff eich plentyn ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, e.e. cwnsela.
Mwy o wybodaeth
Mae gan Young Minds arweiniad goroesi ar gyfer rhieni sy’n poeni am eu plentyn. Mae llinell gymorth i rieni hefyd. Ffoniwch: 0808 802 5544
Mae MIND wedi llunio A-Z o iechyd meddwl (Saesneg yn unig).
Mae C.A.L.L. yn llinell gymorth gyfrinachol am faterion iechyd meddwl. Ffoniwch: 0800 132 737
Mae Childline yn cefnogi plant a phobl ifanc. Ffoniwch: 0800 1111
Mae Papyrus (Saesneg yn unig) yn darparu cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy’n teimlo’n hunanladdol ac i unrhyw un sy’n poeni am berson ifanc. Ffoniwch: 0800 068 41 41