skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r sawl sy’n cam-drin plant a phobl ifanc yn aml yn defnyddio llawer o ddulliau o reoli ac ymarfer pŵer dros eu fictimau ifanc.

Er y bydd gweithwyr proffesiynol efallai’n siarad am wahanol fathau o gamdriniaeth - corfforol, emosiynol a rhywiol - mewn gwirionedd mae llawer o gamdriniaeth plant yn gyfuniad o’r rhain.

Mae rhieni sy’n defnyddio bygythiadau llafar, camdriniaeth emosiynol ac esgeulustod i ymarfer rheolaeth dros eu plant yn debygol o’u curo hefyd.

Bydd oedolion sy’n cam-drin pobl ifanc yn rhywiol yn sicr yn peri camdriniaeth emosiynol a chorfforol iddynt hefyd.

Fel pawb sy’n cam-drin pobl eraill, mae’r sawl sy’n cam-drin plant yn chwilio am bŵer a rheolaeth i gael yr hyn maent ei eisiau, h.y. ufudd-dod, tawelwch, llafur neu foddhad rhywiol.

Mae cael eu cam-drin yn cael effaith fawr ar lesiant emosiynol plentyn, ac nid yw hunan-niweidio ac ymddygiad cymryd risg yn anghyffredin.

Camdriniaeth gorfforol

Dyma pan fydd oedolyn yn taro, yn gwthio, yn dyrnu, yn cicio, yn llosgi neu fel arall yn brifo plentyn yn gorfforol, gan eu gadael gyda chleisiau, llosgiadau, toriadau, torasgwrn, neu hyn yn oed yn anymwybodol.

Yn aml, mae’r gamdriniaeth yn deillio o anallu oedolyn i reoli eu tymer, e.e. taro person ifanc yn ystod dadl, neu ysgwyd baban sy’n crïo yn egnïol.

Mae’n bosibl y bydd rhai mathau o gamdriniaeth gorfforol yn rhagfwriadol gyda rhybuddion yn cael eu rhoi, e.e. rhiant sy’n bygwth cloi plentyn mewn cwpwrdd os bydd yn ei gythruddo.

Weithiau, gallai rhiant roi tawelyddion i blentyn yn ddiangen neu roi meddyginiaeth iddo am symptomau ac afiechydon nad ydynt yn bodoli.

Syndrôm ysgwyd baban yw pan gaiff baban neu blentyn ifanc ei ysgwyd yn rymus. Mae’n gallu peri niwed i’r ymennydd a hyd yn oed marwolaeth.

Ers mis Mawrth 2022, mae pob math o gosbi plant yn gorfforol – fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd – yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cosb gorfforol gan rieni’r plentyn.

Camdriniaeth emosiynol

Mae camdriniaeth emosiynol yn digwydd pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei feirniadu’n gyson, ei ddiystyru, ei fygwth neu ei anwybyddu gan oedolyn y byddai’n disgwyl ymddiried ynddo.

Gallai’r gamdriniaeth gynnwys galw enwau arnynt, aflonyddu neu fwlio. Hefyd gallai gynnwys gorfodi plentyn neu berson ifanc i wneud rhywbeth yn erbyn ei ddymuniadau, e.e. ymgymryd â gweithgareddau rhywiol neu droseddol. Mae gorfodi i briodi yn ffurf o gamdriniaeth ac mae’n anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Gall camdriniaeth emosiynol fod yn anodd sylwi arni am fod ychydig iawn o arwyddion gweledol ei bod yn digwydd yn aml. Gall fod yn gynnil iawn a gall ei heffeithiau gronni dros gyfnod hir.

Nid ar y plentyn neu’r person ifanc y mae’r bai am gamdriniaeth emosiynol, er gwaethaf beth mae’r sawl sy’n ei chyflawni yn dweud wrthynt.

Camdriniaeth rywiol

Mae camdriniaeth rywiol yn digwydd pan gaiff plentyn neu berson ifanc ei orfodi neu ei berswadio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Efallai y bydd cysylltiad corfforol gwirioneddol neu gallai’r gamdriniaeth ddigwydd ar-lein, e.e. postio delweddau rhywiol.

Yn y DU, yr oedran cydsynio am unrhyw fath o weithgarwch rhywiol yw 16 i ddynion ac i fenywod, p’un a ydynt yn heterorywiol, yn gyfunrywiol neu’n ddeurywiol.

Hyd yn oed pan fydd person ifanc dros 16 oed, mae’n drosedd ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Mewn rhai sefyllfaoedd, gall y gweithgarwch rhywiol ymddangos yn gydsyniol; ond gall gwahaniaethau o ran pŵer a dylanwad ei gwneud yn anodd iawn i’r fictim ddweud ‘na’ wrth y camdriniwr. Mae llosgach a phuteindra dan orfod yn fathau o gamdriniaeth rywiol.

Mae gan yr NSPCC (Saesneg yn unig) fwy o wybodaeth am gamdriniaeth rywiol plant.

Adnabod arwyddion camdriniaeth plant

Yn aml bydd plant yn mynd i lawer iawn o drafferth i guddio’r ffaith eu bod yn cael eu cam-drin, yn enwedig os rhiant neu aelod o’r teulu agos sy’n ei wneud. Efallai eu bod yn ofni canlyniadau codi eu llais, neu’n ofni na fydd pobl yn eu credu.

Dylech fod yn amheus os bydd gan blentyn gleisiau, toriadau, llosgiadau neu anafiadau anesboniadwy, os yw’n anhapus, yn ofidus neu’n ofnus, fel petai’n ymgilio (neu’n ymosodol), yn dangos arwyddion esgeulustod corfforol, yn dechrau gwlychu’r gwely neu’n dioddef hunllefau, yn ceisio osgoi’r person sy’n ei gam-drin neu’n cael anhawster i ganolbwyntio yn yr ysgol.

Atal camdriniaeth plant

Mae diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth yn gyfrifoldeb pawb.

Os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, adroddwch eich pryderon ar unwaith (nid oes rhaid i chi adael eich enw). Peidiwch ag aros nes eich bod yn 100% sicr - gallai fod yn rhy hwyr. Gallai’ch galwad chi achub bywyd plentyn.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os yw’ch pryderon yn ymwneud â phlentyn oedran ysgol, gofynnwch am gael siarad ag athro/athrawes amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.

Mae gan weithwyr cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i unrhyw bryderon am blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed os byddant yn dod i wybod y gallai fod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mwy o wybodaeth

Mae Byw Heb Ofn yn wefan i Gymru gyfan sy’n rhoi cyngor am gamdriniaeth, sut i’w hadnabod ac at bwy i droi am gefnogaeth.

Mae Stop It Now! (Saesneg yn unig) yn cefnogi rhieni ac eraill i adnabod ac atal camdriniaeth rywiol plant.

Mae gan yr NSPCC Cymru wybodaeth am amddiffyn plant. Ffoniwch: 0808 800 5000.

Mae Childline yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc o dan 19 oed. Ffoniwch: 0800 1111.

Mae The Survivors Trust Cymru (Saesneg yn unig) yn cefnogi dioddefwyr trais a chamdriniaeth rywiol ledled Cymru. Ffoniwch: 0808 801 0818.

Diweddariad diwethaf: 05/01/2023