skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’n demtasiwn meddwl am gaethwasiaeth plant fel rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol, ond yn anffodus nid felly mae hi.

Yn aml, mae plant a phobl ifanc yn cael eu targedu’n fwriadol gan gangiau troseddol yn union am eu bod nhw’n hawdd eu niweidio.

Caethwasiaeth Fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan gaiff rhywun ei orfodi i mewn i gaethwasanaeth neu weithio mewn swyddi â thâl isel iawn neu ddim tâl, weithiau o fewn busnes neu gartref y cyflawnwr. Mae caethweision modern yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid ac yn cael eu trin fel pe baent yn eiddo i’r person arall.

Mae Masnachu mewn Pobl yn disgrifio sefyllfa pan gaiff person ei ddwyn i wlad (neu ei symud o gwmpas gwlad) gan eraill sy’n eu twyllo, eu bygwth, eu brawychu, eu brifo neu eu gorfodi i wneud gwaith neu bethau eraill nad ydyn nhw eisiau eu gwneud.

Mae cysylltiadau cryf rhwng y ddau beth, gyda fictimau caethwasiaeth yn aml yn cael eu symud o gwmpas – neu eu masnachu – gan y sawl sy’n eu rheoli.

Mae llawer o blant yn cael eu masnachu i mewn i’r Deyrnas Unedig o dramor ond nid pob un. Mae plant hefyd yn gallu cael eu masnachu o un rhan o’r DU i un arall, o un dref i’r llall, a hyd yn oed o un stryd i’r llall.

Pam ydy plant yn cael eu masnachu?

Mae plant yn cael eu masnachu am lawer o resymau, gan gynnwys:

  • llafur dan orfod, e.e. mewn ffatrïoedd a bwytai ac ar ffermydd
  • caethwasanaeth domestig, e.e. gofal plant, coginio a glanhau
  • gweithgareddau troseddol, e.e. gwerthu nwyddau ffug, tyfu canabis
  • priodas dan orfod
  • cam-fanteisio’n rhywiol ar blant
  • twyll budd-daliadau

Sut i adnabod fictimau caethwasiaeth

Am resymau amlwg, mae caethwasiaeth a cham-fanteisio ar blant yn cael eu cuddio o’r golwg yn aml, e.e. mae plant yn gweithio drwy’r dydd a nos mewn bwytai a ffatrïoedd, neu tu ôl i ddrysau dan glo fel gwarchodwyr plant, neu’n cael eu gorfodi o mewn i buteindra plant. 

Ymhlith yr arwyddion cyffredin am blant sy’n fictimau posibl mae:

  • camfaethiad a/neu wedi gwisgo’n gydag ychydig iawn o eiddo
  • anafiadau corfforol, e.e. cleisiau, neu arwyddion hen anafiadau neu rai sydd heb eu trin
  • ymddangos yn encilgar neu’n ofnus, ac yn amharod i siarad drostyn nhw eu hunain
  • derbyn gofal gan oedolyn nad yw’n rhiant neu’n warcheidwad cyfreithiol iddyn nhw, gydag arwyddion perthynas o ansawdd gwael
  • absenoldeb o’r ysgol a heb fod wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu
  • byw mewn cyfeiriad gyda phlant eraill nad ydyn nhw’n perthyn - a symud cyfeiriadau’n aml
  • ‘diflannu’ wrth ddod i gysylltiad ag awdurdodau, e.e. gwasanaethau cymdeithasol

Ni fydd pob plentyn sydd mewn caethwasiaeth yn dangos arwyddion allanol trallod. Maen nhw wedi cael eu paratoi’n amhriodol i gadw eu hamgylchiadau a’u camdriniaeth yn dawel ac mae hyd yn oed yn bosib bod ganddyn nhw ‘gwlwm agosrwydd’ â’r sawl sy’n cam-fanteisio arnyn nhw. Mae’n debyg eu bod wedi brawychu ac yn dioddef trawma o hyd.

Ffiniau sirol

‘Ffiniau sirol’ yw term yr heddlu am fath penodol o gam-fanteisio troseddol sy’n golygu gangiau trefol yn cyflenwi cyffuriau i ardaloedd maestrefol a threfi llai o faint drwy ddefnyddio llinellau ffôn symudol pwrpasol neu ‘linellau masnachu’.

Bydd gang yn sefydlu sylfaen yn lleoliad y farchnad, yn nodweddiadol drwy gymryd drosodd cartref oedolyn lleol sy’n hawdd ei niweidio drwy rym neu orfodaeth – yr enw ar yr arfer yma yw ‘cuckooing’.

Yna mae’r gangiau troseddol cyfundrefnol hyn yn cam-fanteisio ar bobl ifanc a phlant hawdd eu niweidio mor ifanc â 12 oed i symud cyffuriau allan o’u hardal leol, gan addo rhywbeth mae arnyn nhw ei angen yn gyfnewid, e.e. arian parod, cyffuriau, dillad, statws, amddiffyniad neu hyd yn oed cyfeillgarwch neu anwyldeb canfyddedig.

Nid yw pobl ifanc sydd wedi bod yn destun magu perthynas amhriodol bob amser yn gweld eu hunain yn fictimau; ond mae eu triniaeth yn gallu bod yn gamfanteisiol o hyd, hyd yn oed os yw’r gweithgarwch yn ymddangos yn gydsyniol. 

Mae ffiniau sirol yn fater trawsbynciol pwysig sy’n cwmpasu pobl goll, cyffuriau, trais, gangiau, cam-fanteisio troseddol a rhywiol a chaethwasiaeth fodern.

Beth i’w wneud os credwch fod plentyn yn fictim?

Os credwch fod person ifanc wedi cael ei fasnachu neu’n cael ei gamddefnyddio gan gangiau troseddol – hyd yn oed os nad ydych chi’n 100% siŵr – y peth gorau bob tro yw siarad â rhywun sy’n gallu edrych i mewn i’r sefyllfa.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor.

Os oes gennych chi wybodaeth a allai arwain at adnabod, darganfod ac adfer fictimau, gallwch chi alw’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700 hefyd.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Os credwch fod trosedd wedi ei chyflawni o bosib, fel trais, ymosodiad neu ladrad, ffoniwch yr heddlu a byddwch yn ofalus i beidio â symud neu ddifa unrhyw dystiolaeth.

Fe welwch fwy o wybodaeth am fasnachu a chaethwasiaeth fodern yma a ffiniau sirol yma (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 05/01/2023