Beth yw cam-fanteisio’n rhywiol ar blant?
Math o gamdriniaeth rywiol yw cam-fanteisio’n rhywiol, pan gaiff plentyn neu berson ifanc ei gam-lywio, neu ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar sail rywiol. Gallai hyn fod fel rhan o berthynas sydd yn ôl pob golwg yn gydsyniol, neu yn gyfnewid am sylw, anwyldeb, arian, cyffuriau, alcohol neu rywle i aros.
Gall y person ifanc gael ei gyhoeddi bod y sawl sy’n eu cam-drin yn ffrind iddyn nhw, neu’n gariad. Ond bydd y sawl sy’n eu cam-drin yn eu rhoi mewn sefyllfaoedd peryglus, gan orfodi’r person ifanc i wneud pethau nad ydyn nhw eisiau eu gwneud neu’n eu hargyhoeddi bod camau a gweithgareddau o’r fath yn iawn. Byddan nhw’n eu rheoli ac yn eu cam-lywio, ac yn ceisio eu hynysu oddi wrth eu ffrindiau a’u teulu. Efallai y bydd y sawl sy’n eu cam-drin yn bygwth y person ifanc yn gorfforol neu’n eiriol neu’n dreisgar tuag atyn nhw.
Sut bynnag mae’r gamdriniaeth yn digwydd, nid y fictimau sydd ar fai. Mae camdrinwyr yn glyfar iawn yn y ffordd maen nhw’n cam-lywio ac yn cymryd mantais o’r plant a phobl ifanc maen nhw’n eu cam-drin.
Pwy sydd mewn perygl?
Mae’r math yma o gamdriniaeth yn gallu digwydd i unrhyw berson ifanc o unrhyw gefndir, ac i fechgyn a dynion ifanc yn ogystal â merched a benywod ifanc. Fodd bynnag, mae gan rai pobl ifanc resymau am fod yn haws eu niweidio sy’n eu rhoi mewn mwy o risg. Er enghraifft, efallai bod ganddyn nhw hanes o redeg i ffwrdd neu ddiflannu oddi cartref. Efallai eu bod wedi ymddieithrio rhag addysg. Efallai eu bod nhw mewn gofal, neu’n gadael gofal, yn cam-drin cyffuriau neu alcohol, neu’n rhan o gang, neu dim ond yn teimlo nad oes ots gan eu teulu amdanyn nhw.
Beth ydy’r arwyddion?
Yn aml nid yw plant a phobl ifanc sy’n fictimau camfanteisio rhywiol yn cydnabod bod hynny’n digwydd iddyn nhw. Ond mae nifer o arwyddion a allai awgrymu bod plentyn yn cael ei baratoi’n amhriodol ac mewn perygl. Efallai eu bod:
- nhw'n diflannu am gyfnodau, neu’n dychwelyd adref yn hwyr yn rheolaidd
- nhw'n colli llawer o ysgol
- nhw'n ymddangos gyda rhoddion neu eiddo newydd heb esboniad
- ganddyn nhw gariad hŷn
- nhw’n dioddef o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
- newidiadau sydyn yn eu tymer neu newid eu llesiant emosiynol, neu arwyddion corfforol o gamdriniaeth fel cleisiau
- nhw’n dangos ymddygiad sy’n amhriodol o rywiol
Beth alla i ei wneud fel rhiant neu ofalwr?
Trafodwch gyda phlant y gwahaniaethau rhwng perthnasau iach ac afiach. Arhoswch yn effro i’r arwyddion sy’n cael eu rhestru uchod. Byddwch yn wyliadwrus o amgylch ffrindiau hŷn sydd gan eich plentyn o bosib, neu berthnasau â phobl ifanc eraill lle mae’n ymddangos bod anghydraddoldeb pŵer. A gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall ac yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â bod ar-lein i’ch plentyn.
Gallwch chi weld llawer mwy o wybodaeth, cyngor a ffynonellau cymorth a chefnogaeth ar wefan (Saesneg yn unig) Barnardo’s.
Beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod plentyn mewn perygl o gamfanteisio rhywiol?
Os ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc cysylltwch â Thîm Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol eich cyngor lleol i siarad am eich pryderon.
Does dim rhaid i chi roi eich enw ond, os na wnewch chi, fe all ei gwneud hi’n anoddach ymchwilio a’ch diogelu chi neu’r person sy’n cael ei gam-drin. Os ydych chi’n nerfus, fe allech chi ofyn i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i ffonio ar eich rhan.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, dylech ffonio 999.
Os credwch y gallai trosedd fod wedi digwydd, megis treisio, ymosodiad neu ladrad, ffoniwch yr heddlu a byddwch yn ofalus i beidio â thynnu neu ddinistrio unrhyw dystiolaeth.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn hysbysu am y pryder a pheidiwch â phoeni os credwch y gallech chi fod yn anghywir o bosib – mae’n dal yn bwysig i rywun â phrofiad a chyfrifoldeb edrych i mewn i’r mater.