skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Pan fydd plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll, mae’n naturiol i’w deulu a’i ffrindiau feddwl y gwaethaf ar unwaith.

Diffinnir plentyn fel bod ar goll pan fydd ei leoliad neu’r rheswm am ei absenoldeb yn anhysbys ac mae achos i boeni amdano oherwydd ei fod yn hawdd ei niweidio, neu mae perygl posibl i’r cyhoedd.

Yn ffodus, mae’r mwyafrif o blant coll yn cael eu darganfod yn ddiogel ac yn iach o fewn oriau, weithiau hyd yn oed yn gynt.

Os yw’r heddlu yn ymwneud â’r peth, ac nid yw’r plentyn yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol yn barod ar yr adeg yr aiff ar goll, mater i’r heddlu yw penderfynu a ddylent gynnwys gwasanaethau cymdeithasol pan gaiff y plentyn ei ddarganfod.

Plant ifanc

Mae pawb yn gwybod y gall plant ifanc grwydro pan fyddant allan gydag aelodau o’u teulu, ac weithiau yn diflannu o’r cartref neu’r ardd.

Pan fyddwch wedi’ch argyhoeddi nad yw’ch plentyn yn cuddio’n rhywle gerllaw, ffoniwch yr heddlu ar unwaith. Dwedwch wrth eich cymdogion bod y plentyn ar goll (neu weithwyr y siop, canolfan siopa, parc thema) er mwyn i chi gael cymaint o gymorth â phosibl wrth chwilio’r ardal gyfagos.

Os ydych chi gartref, casglwch yr holl wybodaeth mae’n debyg y bydd ei hangen ar yr heddlu, gan gynnwys:

  • ffotograff diweddar ac ansawdd da o’r plentyn
  • oedran ac enw’ch plentyn
  • disgrifiad llawn, gan gynnwys beth roedd yn ei wisgo pan aeth ar goll
  • unrhyw broblemau iechyd sydd gan eich plentyn
  • ei hoff leoedd i ymweld â nhw neu guddio
  • enwau a chyfeiriadau ffrindiau neu bobl agos mae’n eu hadnabod.

Yn anad dim, ceisiwch osgoi panig. Gall plant bach syrthio i gysgu yn y mannau mwyaf annhebygol, gan gynnwys o dan welyau ac mewn cypyrddau. Mae’n fwy na thebyg y caiff eich plentyn ei ddarganfod yn ddiogel ac yn iach yn fuan iawn.

Pobl ifanc sy’n rhedeg i ffwrdd

Mae plant sy’n rhedeg i ffwrdd neu sy’n mynd ar goll yn anfon neges glir - bod ganddynt broblemau yn eu bywyd neu gartref, a bod arnynt angen help i ddelio â nhw.

Bydd yr amgylchiadau sy’n arwain at blentyn neu berson ifanc yn rhedeg oddi cartref yn amrywio’n aruthrol; ond mae’r risgiau yn gallu bod yn ddifrifol iawn.

Mae gan yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol weithdrefnau hen-sefydledig ar gyfer delio â phlant coll. Mae’r camau y byddant yn eu cymryd ar unwaith yn dibynnu ar yr amgylchiadau, oedran y plentyn ac a yw’r unigolyn yn adnabyddus iddynt yn barod, e.e. mae wedi mynd ar goll o’r blaen. Fodd bynnag, nod pennaf yr heddlu yw dod o hyd i blentyn coll a’i ddychwelyd cyn gynted â phosibl.

Pan gaiff y person ifanc ei ddarganfod, caiff gyfle i siarad â rhywun am beth achosodd iddo redeg i ffwrdd. Bydd yn cael ei ddychwelyd i’r cartref oni bai bod cytundeb na fyddai’n ddiogel, e.e. ei reswm am redeg i ffwrdd oedd camdriniaeth.

Diogelu plant coll

Pan fydd person ifanc yn mynd ar goll, bydd yn dod yn agored iawn i niwed.

Efallai mai’r unig ffordd y gall pobl ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd oroesi yw troi at droseddu neu fod yn destun cam-fanteisio rhywiol. Gallai eraill gael eu cam-drin yn gorfforol neu eu paratoi’n amhriodol gan droseddwyr ysglyfaethus i gymryd rhan mewn cyffuriau a phuteindra.

Cydnabyddir bod cysylltiadau cryf rhwng mynd ar goll, masnachu mewn plant, camfanteisio’n rhywiol ar blant a phriodasau dan orfod.

Pan fydd plentyn yn mynd ar goll ac mae amheuon am fasnachu mewn plant, herwgydio neu droseddu difrifol, rhaid i chi ei adrodd i’r heddlu ar unwaith.

Mae Missing People (Saesneg yn unig) yn cefnogi teulu a ffrindiau pobl ifanc sydd wedi mynd ar goll.

Diweddariad diwethaf: 04/05/2023