Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gamdriniaeth rywiol, pan gaiff plentyn neu berson ifanc ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau o natur rywiol. Yn aml mae’n gwneud hyn yn gyfnewid am rywle i aros, arian, cyffuriau ac alcohol.
Weithiau, bydd y camdriniwr yn cymryd arno i fod yn ffrind i’r plentyn. Neu efallai y caiff y person ifanc ei dwyllo a’i baratoi’n amhriodol i gredu mai eu cariad yw’r camdriniwr a’u bod nhw mewn perthynas gariadus a chydsyniol.
Mae’r bobl ifanc hyn yn fictimau camfanteisio’n rhywiol ar blant, hyd yn oed os na fyddan nhw’n sylweddoli’r ffaith.
Bydd eu camdriniwr yn eu gosod mewn sefyllfaoedd peryglus, gan orfodi’r person ifanc i wneud pethau nad ydyn nhw eisiau eu gwneud, neu’n eu hargyhoeddi bod camau a gweithgareddau o’r fath yn iawn. Byddan nhw’n eu rheoli ac yn eu dylanwadu, ac yn ceisio eu hynysu oddi wrth eu ffrindiau a theulu. Mae’n bosibl y bydd y camdriniwr yn bygwth y person ifanc yn gorfforol neu’n eiriol neu’n ymddwyn yn dreisgar tuag atyn nhw.
Dim ots sut mae’r camfanteisio rhywiol yn dechrau neu’n esblygu, mae’n rhaid i’r fictimau beidio â meddwl mai nhw sydd ar fai. Mae camdrinwyr yn glyfar iawn yn y ffordd maen nhw’n dylanwadu ac yn manteisio ar y plant a phobl ifanc maen nhw’n camfanteisio’n rhywiol arnyn nhw ac yn eu cam-drin.
Camfanteisio’n rhywiol ar-lein
Mae’r rhyngrwyd wedi ei gwneud yn llawer haws i gamdrinwyr gyrraedd eu fictimau ifanc, a fydd efallai’n cael eu perswadio neu eu gorfodi i:
- anfon neu bostio delweddau rhywiol eglur ohonyn nhw eu hunain
- gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol drwy gyfrwng gwe-gamera neu ffôn clyfar
- gael sgyrsiau rhywiol drwy negeseuon testun neu ar-lein.
Yna gall y camdriniwr ddefnyddio’r delweddau neu’r fideos i flacmelio’r fictim, e.e. drwy fygwth eu hanfon at deulu, ffrindiau neu ysgol y person ifanc.
Gall y delweddau hyn barhau i gael eu rhannu ar-lein ymhell ar ôl i’r gamdriniaeth ddod i ben.
Mae ‘secstio’ yn anghyfreithlon os yw’r delweddau o blentyn, hyd yn oed os plentyn sy’n ei wneud.
Pwy sydd mewn perygl?
Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn gallu digwydd i rywun o unrhyw ethnigrwydd neu unrhyw gefndir crefyddol.
Mae pobl ifanc anabl tua thair gwaith mor debygol o fynd yn fictimau. Mae pobl ifanc sy’n derbyn gofal neu sydd wedi gadael gofal, neu sydd â hanes o fynd ar goll oddi cartref yn agored i niwed hefyd.
Pwy yw’r troseddwyr?
Mae perygl o stereoteipio troseddwyr rhyw â phlant posibl, e.e. gan feddwl eu bod i gyd yn ddynion hŷn iasol; ond mae’r canfyddiad hwn yn gamarweiniol ac yn gadael i gamdrinwyr eraill osgoi cael eu darganfod.
Mae traean o gamdriniaeth rywiol plant yn cynnwys plant a phobl ifanc eraill; mae menywod yn gallu troseddu’n rhywiol ac yn gwneud. Yn aml bydd gangiau’n manteisio ar bobl ifanc.
Beth yw’r arwyddion?
Nid yw’n hawdd bob amser dweud pan fo plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin yn rhywiol neu ei baratoi’n amhriodol) ond ymhlith y pethau i wylio amdanyn nhw mae:
- mynd ar goll am gyfnodau, neu ddychwelyd adref yn hwyr
- tystiolaeth o anafiadau corfforol
- bod yn driwant o’r ysgol
- treulio llawer o amser ar-lein
- rhoddion neu eiddo newydd anesboniadwy
- cael cariadon hŷn
- dioddef o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ailadroddus neu feichiogrwydd
- hwyliau ansad neu newidiadau mewn llesiant emosiynol
- cymryd rhan mewn troseddu
- ymddygiad o natur rywiol amhriodol.
Beth allaf ei wneud fel rhiant/gofalwr?
Arhoswch yn effro i arwyddion camfanteisio rhywiol. Gofynnwch gwestiynau a mynnwch sicrwydd i’ch hun os bydd gan eich plentyn berthnasau newydd â ffrindiau hŷn neu ffrindiau o’r un oedran lle mae’n ymddangos bod anghydbwysedd o ran pŵer.
Mae Internet Matters (Saesneg yn unig) yn rhannu gwybodaeth i helpu rhieni/gofalwyr i gadw eu plant yn ddiogel. Mae’n trafod rheolaethau gan rieni ac mae ganddo wybodaeth am yr aps, gemau a gwefannau y gall eich plentyn ymweld â nhw. Mae ganddo awgrymiadau hefyd am siarad â’ch plentyn am ddiogelwch ar-lein.
Hysbysu am gamfanteisio rhywiol
Mae casglu gwybodaeth am gamfanteisio rhywiol yn hanfodol er mwyn diogelu plant a phobl ifanc.
P’un ai’ch plentyn chi eich hun neu berson ifanc arall sydd dan sylw, os byddwch chi’n gweld neu’n clywed rhywbeth nad yw’n teimlo’n iawn, mae’n bwysig rhannu’ch amheuon â’r heddlu ar 101 – peidiwch â phoeni y gallwch chi fod yn anghywir, mae’n dal yn bwysig i rywun â phrofiad a chyfrifoldeb edrych i mewn i’r mater.
Ffoniwch 999 bob tro os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl dybryd.
Gallwch chi hysbysu am eich pryderon ar-lein hefyd i’r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) (Saesneg yn unig).
Mae gan Stop It Now! (Saesneg yn unig) linell gymorth gyfrinachol am ddim (0808 1000 900) sydd ar gael i:
- oedolion sy’n pryderu am ymddygiad rhywiol oedolion eraill neu blant a phobl ifanc
- unrhyw un sy’n pryderu am eu meddyliau neu ymddygiad eu hun tuag at blant, gan gynnwys ymddygiad ar-lein
- ffrindiau a pherthnasau pobl sydd wedi cael eu harestio am droseddu rhywiol, gan gynnwys troseddu ar-lein
- unrhyw oedolyn arall sy’n pryderu am gamdriniaeth rywiol plant - gan gynnwys goroeswyr a gweithwyr proffesiynol.