Mae ‘secstio’ fel mae’n cael ei alw yn broblem gynyddol ymhlith pobl ifanc, nad ydyn nhw o bosib yn deall goblygiadau llawn beth maen nhw’n ei wneud.
Secstio yw pan fydd rhywun yn rhannu delweddau neu fideos rhywiol, noeth neu led-noeth ohonyn nhw eu hunain neu bobl eraill, neu’n anfon negeseuon o natur rywiol eglur i rywun arall. Efallai na fydd person ifanc yn meddwl bod unrhyw niwed mewn secstio, yn arbennig os ydyn nhw mewn perthynas sefydlog â’r person ifanc ac mae’n ymddangos bod pawb arall yn ei wneud, ond mae’n bosib y bydd canlyniadau difrifol i’r ddau:
- mae’n anghyfreithlon bod mewn meddiant delwedd anweddus o blentyn o dan 18 oed
- ar ôl i ddelwedd nei fideo gael eu rhannu, nid oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros beth sy’n digwydd iddi wedi hynny
- mae delwedd a fwriadwyd ar gyfer un person yn gallu cyrraedd y dwylo anghywir yn hawdd, e.e. gallai oedolyn sy’n ceisio meithrin perthynas amhriodol â phlentyn eu blacmelio drwy fygwth ei rhannu â’u teulu, ffrindiau neu hyd yn oed eu hysgol.
Pam ydy pobl ifanc yn secstio?
Mae’n gallu bod yn anodd i rieni ddeall pam y byddai person ifanc yn anfon negeseuon o natur rywiol eglur neu ddelweddau rhywiol ohonyn nhw eu hunain at rywun arall.
Mae pobl ifanc yn secstio am lawer o resymau, gan gynnwys:
- pwysau gan eu cyfoedion – maen nhw’n meddwl bod pawb arall yn ei wneud
- maen nhw’n ceisio cymeradwyaeth rhywun
- maen nhw’n ei weld fel rhywbeth cŵl neu hwyl
- mae’n ffordd o fflyrtan gyda rhywun maen nhw’n eu hoffi
- rhoi prawf ar eu hunaniaeth rywiol ac archwilio eu teimladau rhywiol
- maen nhw efallai’n teimlo’n haws ildio i rywun sy’n gofyn iddyn nhw wneud pethau
- maen nhw’n teimlo embaras neu dan fygythiad, neu’n cael eu blacmelio i mewn i anfon lluniau.
Mae’r rhyngrwyd wedi ei gwneud yn llawer haws i gamdrinwyr gyrraedd eu fictimau ifanc ac mae’n bosib bod plentyn sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ar-lein yn dioddef cam-fanteisio rhywiol gan oedolion sy’n ysglyfaethwyr.
Mae gan Thinkuknow (Saesneg yn unig) adnoddau i helpu rhieni i ddeall pam mae plant yn secstio, sut i siarad â nhw amdano a beth i’w wneud os yw’n effeithio ar eu plentyn nhw.
Camau troseddol
Er nad ydyn nhw’n ei sylweddoli o bosibl, mae person ifanc yn torri’r gyfraith os bydd:
- yn tynnu lluniau neu fideos rhywiol eglur ohonyn nhw eu hunain neu ffrind
- yn rhannu lluniau rhywiol eglur o fideos o blentyn, hyd yn oed os yw gyda rhywun o’r un oedran, e.e. eu cariad
- meddiannu, lawrlwytho neu storio lluniau neu fideos rhywiol eglur o blentyn, hyd yn oed os rhoddodd y plentyn ganiatâd i’r ddelwedd neu’r ffilm gael ei chreu.
Yn yr holl achosion hyn, mae trosedd wedi cael ei chyflawni ac mae’n rhaid iddi gael ei chofnodi.
Er bod y person ifanc wedi torri’r gyfraith, mae’r heddlu yng Nghymru (a Lloegr) yn gallu penderfynu nad yw’r person ifanc yn peri risg i eraill ac ni fyddai er budd y cyhoedd i gymryd camau pellach. Yr enw ar hyn yw Canlyniad 21 ac mae’n cael ei esbonio’n fanylach yn Secstio: Canllawiau ar gyfer lleoliadau addysgol yng Nghymru (fersiwn Saesneg).
Mae troseddau sy’n cael eu cofnodi fel hyn yn golygu na fydd gan y person ifanc gofnod troseddol ac yn annhebygol o ymddangos ar gofnodion neu wiriadau yn y dyfodol.
Beth gall rhieni ei wneud
- siarad â’ch plentyn a’u hannog i fod yn gyfrifol am eu diogelwch a’u gweithredoedd eu hun.
- eu hatgoffa sut mae unrhyw neges, delwedd neu fideo maen nhw’n ei phostio yn gallu postio ar gyfer llygaid un person yn gallu cael ei rhannu’n hawdd neu ei phasio ymlaen, os nad nawr wedyn un diwrnod yn y dyfodol.
- dwedwch wrthyn nhw unwaith y caiff rhywbeth ei rannu ar-lein, nad oes unrhyw ffordd o wybod pwy fydd yn ei weld - teulu a ffrindiau, athrawon, darpar gyflogwyr. Gallai un weithred fyrbwyll gael effaith bellgyrhaeddol ar eu bywyd, gan arwain at straen , unigedd neu hyd yn oed problemau iechyd meddwl hirdymor.
- cadw’ch gwybodaeth yn gyfredol am y tueddiadau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf, aps newydd, ac ati.
Cael tynnu delweddau/rhoi gwybod am ddelweddau anweddus
Os caiff ffotograff anweddus neu noeth o rywun o dan 18 oed ei bostio ar-lein, cysylltwch â’r wefan y uniongyrchol neu rhowch wybod amdani i’r Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd a fydd yn siarad â’r wefan i geisio tynnu’r ddelwedd anghyfreithlon.
Mae’n anghyfreithlon hefyd postio ffotograff anweddus neu noeth o oedolyn heb eu caniatâd. Nid yw bob amser yn bosibl cael y delweddau hyn wedi eu dileu ond mae Llinell Gymorth Pornograffi Dial (Saesneg yn unig) i bobl dros 18 oed sy’n gallu helpu.
Rhowch wybod am bostiad delwedd anghyfreithlon (neu unrhyw gamdriniaeth ar-lein) i’r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) (Saesneg yn unig).
Mwy o wybodaeth
Mae canllawiau’r NSPCC yn bwriadu helpu rhieni o amddiffyn eu plant rhag secstio (Saesneg yn unig).
Mae Stop It Now! (Saesneg yn unig) yn cefnogi rhieni ac eraill i gydnabod ac atal camdriniaeth rywiol plant.
Mae gan Internet Matters a Safer Internet UK gyngor am ddiogelwch ar-lein (Saesneg yn unig).
Mae Childline yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc sy’n poeni am secstio. Ffôn: 0800 1111.