skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Straen yw ffordd naturiol y corff o ymateb i brofiad heriol neu fygythiol. Mae tipyn bach o bryder a straen yn normal yn ein bywydau ac mae hyn yn wir am blant a phobl ifanc hefyd. 

Mae plant yn unigolion sy’n adweithio i amgylchiadau bob dydd neu i newidiadau yn eu bywyd mewn dulliau gwahanol iawn – efallai y bydd sefyllfa sy’n gyffrous i un person ifanc, e.e. mynd i’r ysgol uwchradd, yn peri straen mawr i un arall. Efallai y bydd un person ifanc yn cael ei lethu gan bryder pan fydd ei rieni’n ysgaru, tra gallai un arall hwylio drwy’r sefyllfa gyfan heb unrhyw bryderon mawr.

Mae’n deg dweud y bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn teimlo dan straen ar ryw adeg yn eu bywydau, yn aml pan fyddant yn profi newidiadau mawr neu’n wynebu penderfyniadau am eu dyfodol. Ond pan fydd person ifanc yn cael anawsterau ymdopi â lefel o bryder o ddydd i ddydd, yna mae’n bryd siarad â nhw, ac efallai chwilio am gymorth proffesiynol.

Achosion straen

Nid oes un rheswm yn unig pam mae pobl ifanc yn dioddef straen, er bod galwadau’r ysgol, perthnasau a’u golwg corfforol (Saesneg yn unig) yn nodweddion mynych.

Pan fydd plentyn yn dioddef straen mawr ynghylch mynd i’r ysgol, gallai fod am ei fod yn syrthio ar ei hôl neu efallai’n cael ei fwlio.

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’r person ifanc wedi gosod galwadau amhosibl arno neu arni ei hunan ac ni all byth fod yn fodlon ar beth mae’n gallu ei wneud neu ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae cysylltiad rhwng anallu person ifanc i ymdrin â sefyllfaoedd straenus ag anhwylderau bwyta.

Mae plant hefyd yn gallu dioddef straen a gofid dros bethau sy’n eu gwneud yn anhapus ond nad oes ganddynt unrhyw reolaeth drostynt, e.e. salwch rhiant, pryderon ariannol y teulu neu’r farchnad swyddi yn y dyfodol. Mae newyddion y teledu yn llawn trychinebau, rhyfel a therfysgaeth a gall hynny fod yn frawychus iawn a pheri gofid i blant. 

Arwyddion nad yw straen plant yn normal

Mae yna rai arwyddion sy’n awgrymu nad yw’ch plentyn efallai’n ymdopi’n dda â’i lefelau straen a gofid:

  • Arwyddion ymddygiadol: hydeimledd, llid, gofid, osgoi ffrindiau, bod yn ddagreuol, hwyliau ansad, diffyg hyder, yn methu canolbwyntio, hunan-barch isel, iselder
  • Arwyddion corfforol: stumog dost, pen tost, yn methu cysgu, bwyta gormod, bwyta rhy ychydig, gwlychu’r gwely, treulio llawer o amser ar ei ben ei hun

Pryd i gael help

Mae straen person ifanc yn gallu cynyddu’n raddol nes ei fod yn niweidiol iawn i’w iechyd meddyliol a chorfforol. Os bydd yn ceisio siarad â chi, rhowch sylw i beth mae’n ei ddweud. Dylech ymddiried yn eich greddfau a cheisio cymorth proffesiynol os teimlwch allan o’ch dyfnder neu os credwch y byddai’n helpu.

Ewch i’ch meddyg teulu ac, os yw trallod emosiynol y plentyn yn effeithio ar ei fywyd ysgol, siaradwch â’r ysgol hefyd.

Efallai y bydd angen cefnogaeth y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ar rai plant a phobl ifanc wedyn.  

Mae gan Young Minds (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth ddefnyddiol i bobl ifanc ar ei wefan, gan gynnwys canllaw i sut mae CAMHS yn gweithio (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 13/02/2023