skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae iechyd da yn rhywbeth mae pob rhiant ei eisiau ar gyfer eu plentyn. Yn ffodus, mae digonedd o ffyrdd o helpu’ch plentyn i fwynhau’r dechrau gorau posibl mewn bywyd a hybu ei iechyd a’i lesiant yn y dyfodol.

Mae manteision plentyndod iach yn bell-gyrhaeddol ac yn estyn ymhell i mewn i fywyd fel oedolyn. Mae plant sy’n bwyta deiet cytbwys ac sy’n ymarfer yn rheolaidd yn llawer mwy tebygol o fynd yn oedolion iach ac egnïol.

Mae iechyd da yn dechrau cyn eich geni, felly mae’n hanfodol bod menywod sy’n feichiog yn edrych ar ôl eu hiechyd eu hun cyn, yn ystod ac yn dilyn beichiogrwydd. Mae ysmygu pan fyddwch yn feichiog yn peri risg i iechyd y baban ac yn cynyddu’r siawns o gael baban pwysau isel adeg ei eni, gyda phroblemau iechyd difrifol weithiau.


Mae mwg ail-law yn beryglus i blant ac yn eu rhoi mewn perygl uwch o heintiadau anadlu, asthma a marwolaeth yn y crud. Mae plant sy’n byw mewn cartrefi lle mae rhywun yn ysmygu hefyd yn fwy agored i ddioddef pesychau ac anwydau.

Mae cysgu yn bwysig iawn i blant a bydd diffyg cwsg yn effeithio’n negyddol ar eu hymddygiad a’u gallu i ganolbwyntio. Bydd plant nad ydynt yn cael digon o gwsg efallai’n cael anhawster yn yr ysgol.

Mae imiwneiddio yr un mor bwysig ac yn chwarae rhan hanfodol mewn atal heintiau. Mae imiwneiddio eang yn helpu i ddileu clefydau plentyndod a fu’n gyffredin o’r blaen.

Yn anffodus, nid pob plentyn sy’n mwynhau bendith iechyd da a chaiff rhai plant eu geni gydag un neu fwy o anableddau neu gyflwr cronig y mae’n rhaid iddynt ddysgu ei reoli.

Nid yw iechyd da yn ymwneud â ffitrwydd corfforol yn unig a bod yn rhydd rhag afiechyd. Mae llesiant emosiynol a meddyliol person ifanc yn effeithio ar bob agwedd ar ei fywyd, gan gynnwys ei hunan-barch, lefelau straen, ei berthnasoedd a’r tebygolrwydd y bydd yn datblygu anhwylderau bwyta neu’n dechrau hunan-niweidio. Efallai y bydd gan bobl ifanc sy’n ofidus iawn yn emosiynol feddyliau hunan-laddol.


Gall y glasoed fod yn adeg anodd i bobl ifanc wrth iddynt ymdopi â newidiadau cyflym i’w cyrff a delio ag emosiynau anghyfarwydd. Dyma adeg pan fydd pobl ifanc yn aml yn dechrau dangos mwy o ddiddordeb mewn perthnasoedd rhamantus a rhywiol ac efallai’n dechrau arbrofi gyda chyffuriau ac alcohol.

Mae bywyd yn annarogan ac ni ddylai iechyd da – a hynny’n gorfforol ac yn feddyliol – byth gael ei gymryd yn ganiataol.

Diweddariad diwethaf: 17/05/2018