skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’n beth prin i blentyn hwylio drwy ei flynyddoedd cynnar heb ddal ambell i beswch, annwyd neu haint bola.

Mae rhai plant fel pe baent yn dal pob dim sy’n mynd o gwmpas, tra bod eraill yn gryfach yn erbyn germau a firysau.

Ni fydd system imiwnedd plentyn wedi ei datguddio i gynifer o heintiau â system oedolyn, felly maent yn fwy tebygol o ildio i anhwylderau cyffredin. Mae plant iau yn tueddu i roi pethau yn eu cegau ac yn chwarae’n agos gyda’i gilydd gan adael i’r germau drosglwyddo’n rhwydd rhyngddynt. 

Yn ffodus, bydd y mwyafrif o blant sydd â pheswch, annwyd neu haint bola dros y gwaethaf ymhen ychydig o ddyddiau a bydd modd edrych ar eu hôl nhw gartref a’u trin gyda meddyginiaethau dros-y-cownter (gwiriwch gyda’r fferyllydd bob tro bod y feddyginiaeth yn addas i oedran y plentyn).

Anwydau

Mae anwydau’n cael eu hachosi gan firysau ac yn fwy cyffredin yn ystod misoedd y gaeaf. Mae anwydau’n datblygu’n raddol, ar eu gwaethaf am yr ychydig ddyddiau cyntaf ac fel arfer yn para am ryw 7-10 diwrnod (ac yn nodweddiadol am 10-14 diwrnod ymhlith plant dan 5 oed).

Mae Galw Iechyd Cymru 111 yn rhestru’r symptomau cyffredin fel:

  • llwnc tost
  • trwyn wedi’i flocio neu’n rhedeg
  • tisian
  • pesychu
  • llais cryglyd
  • teimlo’n wael yn gyffredinol

Nid oes unrhyw iachâd am yr annwyd cyffredin; fodd bynnag, gallwch chi helpu’ch plentyn i deimlo’n fwy cysurus drwy ei annog i orffwys, yfed digon a bwyta’n iach. Bydd chwistrellau llacio yn helpu i leddfu trwyn sydd wedi’i flocio.

Weithiau, mae’r hyn sy’n ymddangos fel annwyd i ddechrau – trwyn wedi’i flocio, tisian neu lygaid dyfrllyd – yn gallu bod yn alergedd mewn gwirionedd, yn enwedig os yw’r tymhorau’n newid, e.e. gwanwyn.

Annwyd neu ffliw?

Mae ffliw yn dod i’r amlwg yn llawer cyflymach nag annwyd cyffredin. Efallai y bydd plentyn yn cwyno am ben tost a chyhyrau’n brifo, ac efallai’n crynu er gwaethaf dioddef twymyn.

Yn wahanol i annwyd, mae ffliw yn gallu arwain at gymhlethdodau, yn arbennig ymhlith plant ifanc iawn ac mae’r brechiad ffliw (drwy gyfrwng chwistrelliad trwyn) yn cael ei argymell i blant o chwe mis oed ymlaen mewn rhai grwpiau risg penodol.

Ar hyn o bryd (gaeaf 2017/18) mae’r brechiad ffliw drwy chwistrelliad trwyn yn cael ei gynnig i blant rhwng 2-8 oed fel rhan o’r drefn, naill ai yn yr ysgol neu ym meddygfa’ch meddyg teulu.

Pesychau

Mae plant yn pesychu am lawer iawn o resymau; ond fel arfer mae pesychu’n arwydd bod eu corff yn ceisio cael gwared ar lysnafedd, heintiad neu sylweddau llidus.

Yn aml bydd pesychau yn parhau yn dilyn annwyd neu’r ffliw, a gallant fod yn waeth gyda’r nos.

Mae peswch parhaus yn gallu bod yn arwydd o rinitws neu heintiad yn y sinws, tra bod peswch gwichian yn gallu bod yn arwydd o asthma.

Mae crŵp (Saesneg yn unig) yn effeithio fel arfer ar blant o dan dair oed. Caiff ei achosi gan firws ac mae’r peswch yn swnio fel morlo yn cyfarth. Fel arfer bydd crŵp yn gwella ar ôl dau ddiwrnod ond mae’n gallu para hyd at bythefnos. Fel arfer mae’n waeth gyda’r nos.

Mae’r pas yn fwyaf cyffredin ymhlith plant bach, er y gall plant hŷn ei ddal. Mae iddo’r potensial i fod yn haint peryglus iawn, yn enwedig i fabanod dan chwe mis oed, y bydd angen triniaeth mewn ysbyty ar hanner ohonynt.

Os bydd plentyn ifanc yn dechrau pesychu’n sydyn pan na fydd yn sâl, gallai fod yn arwydd ei fod yn tagu.

Coronafeirws (COVID-19)

Mae babanod a phlant hefyd mewn perygl o ddal COVID a gallant fynd yn sâl yn gyflym iawn.

Mae GIG 111 Cymru yn nodi pryd y dylech geisio cymorth meddygol.

Mae pob plentyn dros bump oed bellach yn gymwys i gael brechiad am ddim yng Nghymru.
 

Heintiau bola

Nid yw’r mwyafrif o heintiau bola ymhlith plant yn ddifrifol a byddant yn para diwrnod neu ddau yn unig. Achos pennaf y dolur rhydd a chwydu ymhlith plant ifanc yw gastro-enteritis. Er bod y symptomau’n annymunol, fel arfer bydd eich plentyn yn dechrau teimlo’n well o fewn ychydig o ddyddiau.

Mae chwydu cyson yn gallu bod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol, e.e. llid y coluddyn crog neu lid yr ymennydd.

Pryd i gysylltu â meddyg

Mae’r rhan fwyaf o besychau, anwydau a heintiau bola yn dilyn eu hynt ac mae’r plentyn yn gwella’n fuan iawn. Ond o bryd i’w gilydd, efallai y teimlwch fod rhywbeth difrifol yn bod.

Mae When should I worry? (Saesneg yn unig) yn esbonio pryd y gallai symptomau plentyn awgrymu rhywbeth mwy difrifol.

Os bydd gennych unrhyw amheuon, dylech ymddiried yn eich greddf a gofyn am gymorth meddygol cyn gynted â phosibl.

Diweddariad diwethaf: 07/02/2023