Mae rhaglen imiwneiddio helaeth y DU yn golygu bod mwy o fabanod, plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag clefyd nag erioed o’r blaen.
Mae clefydau plentyndod a fu’n gyffredin unwaith wedi eu dileu bron yn llwyr, e.e. polio a thiwbercwlosis (TB), ynghyd â’r poen, trallod ac anableddau sy’n newid bywyd a oedd ynghlwm wrthynt.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu nad yw plant yn wynebu risg o ddal clefydau bellach, gan gynnwys y rhai lle nad yw brechlyn yn bodoli, e.e. y frech goch a’r pas, ond mae imiwneiddio yn golygu y gall eu system imiwnedd ymladd y clefyd yn well.
Mae’r cyfnod deor – yr amser rhwng pan ddaw eich plentyn i gysylltiad â ffynhonnell y clefyd a’i symptomau’n dangos – yn amrywio rhwng clefydau. Oherwydd hyn mae’n gallu bod yn anodd gwybod pryd mae’ch plentyn yn dod yn heintus er mwyn i chi ei gadw adref o’r feithrinfa /ysgol ac i ffwrdd o fenywod beichiog. Cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd neu feithrinfa /ysgol eich plentyn os oes gennych chi amheuaeth.
Ceisiwch beidio â phoeni gormod. Cofiwch, mae system imiwnedd plentyn yn rymus iawn, a bydd y mwyafrif o blant yn ymadfer o’r salwch yn gyflym a heb ddatblygu unrhyw gymhlethdodau.
Clefydau heintus cyffredin
Clefydau heintus yw’r rhai a all gael eu lledu - yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol - o un person i’r llall drwy facteria, feirysau, parasitiaid neu ffyngau.
Mae rhai clefydau yn hynod o heintus, e.e. gall y frech goch gael ei throsglwyddo rhwng unigolion heb gysylltiad wyneb yn wyneb.
Mae clefydau heintus cyffredin plentyndod yn cynnwys:
Clefydau nad ydynt yn heintus
Mae clefydau plentyndod nad ydynt yn heintus yn llai cyffredin, ac maent yn fwy tebygol o gael eu hachosi gan ffactorau dull o fyw, gwenwynau amgylcheddol neu fwtaniadau genynnau.
Mae rhai clefydau nad ydynt yn heintus yn fyrhoedlog ac yn gallu cael eu trin yn hawdd, e.e. y llwg (Saesneg yn unig), anemia. Mae rhai eraill, fel lewcemia, yn fwy difrifol; ond bydd y mwyafrif o blant yn gwella’n llawn yn dilyn triniaeth.
Mae clefydau eraill plentyndod, e.e. diabetes Math 1 ac anemia’r crymangelloedd (Saesneg yn unig), yn gyflyrau hirdymor sy’n gallu cael eu trin ond nid eu gwella.
Clefydau plentyndod llai cyffredin
Yn anffodus, mae llawer mwy o glefydau plentyndod na’r sawl mae plant yn cael eu brechu yn eu herbyn fel rhan o’r drefn, ac mae rhai yn gallu peryglu bywyd plentyn yn gyflym, e.e. llid yr ymennydd.
Mae plant sydd mewn cysylltiad â phobl sy’n teithio tramor yn rheolaidd, neu sy’n teithio tramor eu hunain, yn wynebu risg uwch o ddal clefydau prin. Nid yw pob un yn heintus, e.e. nid yw malaria (Saesneg yn unig) yn gallu cael ei drosglwyddo rhwng unigolion.
Mae Fit for Travel (Saesneg yn unig) yn rhestru’r imiwneiddiadau sy’n cael eu hargymell a’r risgiau iechyd i deithwyr ar gyfer gwledydd o amgylch y byd. Mae rhai o’r pigiadau sy’n cael eu hargymell, sydd heb eu cynnwys yn rhestr imiwneiddiadau arferol plant, ar gael am ddim oddi wrth y GIG, e.e. teiffoid, Hepatitis A a cholera.
Mae Corff Iechyd y Byd yn cynhyrchu ffeithlenni (Saesneg yn unig) am bob clefyd heintus, gan gynnwys rhai sy’n llai cyffredin yn y DU.
Gwrthfiotigau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
Mae gwrthfiotigau’n feddyginiaethau grymus sy’n cael eu defnyddio i drin heintiau bacterol drwy ladd neu arafu twf bacteria. Nid ydynt yn gallu ymladd feirysau felly maent yn ddiwerth i drin heintiau feirysol.
Mae gorddefnydd gwrthfiotigau yn arwain at nifer cynyddol o heintiau bacterol sy’n mynd yn ymwrthol i feddyginiaethau gwrthfacterol - yr enw ar hyn yw ymwrthedd gwrthfacterol. Heb wrthfiotigau effeithiol, bydd llawer o heintiau bacterol cyffredin yn dod yn fwyfwy peryglus.
Dylai gwrthfiotigau gael eu cymryd dim ond pan fo’n gwbl angenrheidiol; pan fyddant yn cael eu rhagnodi, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cwblhau’r cwrs llawn.
Pryd i ofyn am gymorth meddygol
Mae’r mwyafrif o glefydau plentyndod yn dilyn eu hynt heb bryder diangen. Ond o bryd i’w gilydd, efallai y teimlwch fod rhywbeth o’i le.
Mae plant yn gallu mynd yn ddifrifol wael yn gyflym iawn ac felly mae’n hanfodol sylwi ar yr arwyddion rhybuddio bod eu cyflwr yn gwaethygu ac i fynnu cymorth meddygol.
Mae When should I worry? (Saesneg yn unig) yn esbonio pryd y gall symptomau plentyn awgrymu rhywbeth mwy difrifol.
Yn anad dim, dilynwch eich greddfau. Chi sy’n adnabod eich plentyn yn well na neb. Os oes gennych bryderon bod symptomau’ch plentyn yn gwaethygu, gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith.