skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae pob rhiant eisiau i’w plentyn fod yn iach; ond mae llawer o blant yn cael eu geni gyda chyflyrau hirdymor – neu’n eu datblygu’n gynnar – sy’n gwneud triniaeth a meddyginiaeth barhaus yn ofynnol drwy gydol eu plentyndod.

Mae ‘cyflyrau cronig’ yn derm ymbarél a bydd llawer o blant sydd â chyflwr hirdymor yn iach am lawer o’r amser. Mae’n bosibl trin rhai cyflyrau gyda meddyginiaeth reolaidd yn unig, tra bydd eraill yn golygu gofal meddygol cyson a dwys.

Mae llawer o blant â chyflwr cronig yn gallu arwain bywydau normal, gan fynd i ysgolion prif ffrwd a mwynhau’r un gweithgareddau hamdden â’u cyfoedion.

Mae plant yn hynod o hyblyg a bydd y mwyafrif yn dysgu i oresgyn heriau bywyd a byw gyda’u cyflwr. Yn wir, yn aml gall fod yn fwy anodd i’r rhieni, sy’n ei chael yn drysodus gwylio eu plentyn yn dioddef neu’n mynd drwy lawfeddygaeth fynych.

Mae enghreifftiau o gyflyrau cronig plentyndod yn cynnwys:

Addysg

Mae plant a phobl ifanc sy’n ddigon iach i fynychu ysgol brif ffrwd fel arfer yn cael eu hannog i wneud hynny.

Pan fydd plentyn yn methu mynd i’r ysgol yn aml oherwydd cyflwr meddygol hirdymor neu ailadroddus, dylai’r cyngor lleol gynhyrchu cynllun addysg unigol i’r plentyn a fydd yn dod i rym cyn gynted ag y bydd yn methu mynychu’r ysgol.

Ni ddylai plant a phobl ifanc fod gartref heb fynediad i addysg am fwy na 15 diwrnod gwaith a dylent dderbyn addysg o ansawdd tebyg i’r hyn sydd ar gael yn yr ysgol, gan gynnwys cwricwlwm eang a chytbwys ac isafswm o 5 awr o ddysgu yr wythnos.

Pan fydd anghenion meddygol neu anableddau corfforol plentyn yn ei rwystro rhag mynychu ysgol brif ffrwd – hyd yn oed gyda chymorth – bydd yn cael ei addysgu tu allan i’r ysgol, efallai gartref neu mewn ysbyty. Gall plant sy’n colli ysgol syrthio ar ei hôl o’u cymharu â disgyblion eraill yr un oedran; er nad yw hyn o reidrwydd yn awgrymu bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, mae’n bosibl y bydd eu problemau iechyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu ‘anhawster dysgu sylweddol fwy na’r mwyafrif o blant yr un oedran’. Os dyma’r achos, efallai y bydd arnynt angen asesiad statudol o’u hanghenion.

Am fwy o wybodaeth darllenwch Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.

Llesiant emosiynol

Bydd plant a phobl ifanc â chyflyrau hirdymor yn teimlo’n wahanol i blant eraill, yn enwedig os bydd eu salwch yn eu hatal rhag cymryd rhan yn y gweithgareddau maent yn gweld eu brodyr a chwiorydd a’u ffrindiau yn eu mwynhau.

Mae plant yn datblygu strategaethau ymdopi gwahanol, gyda phlant iau yn aml yn deall eu salwch a’i gyfyngiadau yn llai.

Mae plant hŷn yn gallu deall eu cyflwr yn well a byddant efallai’n teimlo eu bod yn cael eu gadael allan wrth golli’r ysgol neu weithgareddau hamdden. Pan fydd eu salwch yn effeithio ar edrychiad person ifanc, gall effeithio ar eu hunan-hyder ac arwain iddynt fod yn anghydweithredol o ran cymryd meddyginiaeth neu ddilyn deiet arbennig. Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn mynd yn rhwystredig neu’n isel o ganlyniad i’w sefyllfa.

Mae’n helpu os bydd pobl ifanc yn teimlo nad ydynt yn colli allan. Anogwch nhw i fwynhau gweithgareddau maent yn gallu cymryd rhan ynddynt. Mae llawer o elusennau yn y Deyrnas Unedig yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobl ifanc i ryngweithio a chymdeithasu ag eraill sydd â’r un cyflwr. Mae cymunedau ar-lein gan eraill.

Rhieni a brodyr a chwiorydd fel gofalwyr

Os ydych chi’n darparu gofal a chymorth i blentyn o dan 18 oed sy’n sâl, sydd ag anabledd neu anghenion meddygol ychwanegol, rydych yn rhiant ofalwr.

Er y gall fod yn anodd, os gallwch dderbyn eich rôl fel ‘gofalwr’ eich plentyn ochr yn ochr â’ch rôl naturiol fel mam neu dad, byddwch yn ennill hawliau cyfreithiol ychwanegol a fydd yn eich helpu i gael y cymorth mae arnoch chi ei angen.

Diweddariad diwethaf: 07/02/2023