skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae gan y term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ ddiffiniad cyfreithiol ac mae’n cyfeirio at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu, corfforol neu synhwyraidd sy’n ei gwneud yn fwy anodd i ddysgu na’r mwyafrif o blant o’r un oedran.

Mae anghenion dysgu ychwanegol yn disodli dwy hen system/term yn raddol:

  • anghenion addysgol arbennig (AAA): ar gyfer dysgwyr o oedran ysgol gorfodol sydd angen cymorth ychwanegol
  • anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD): ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach

Dechreuodd y broses o gyflwyno’r system newydd hon ym mis Medi 2021 ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol a disgwylir iddo barhau tan haf 2024 ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed.

Beth ydy anghenion dysgu ychwanegol?

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn dysgu mewn dull gwahanol ac ar gyfradd wahanol.  

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn un neu fwy o feysydd, gan gynnwys:

  • gwaith ysgol – darllen, ysgrifennu, rhifedd neu ddeall gwybodaeth
  • mynegi eu hunain neu ddeall beth mae pobl eraill yn ei ddweud
  • gwneud ffrindiau neu uniaethu ag oedolion
  • ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
  • anghenion meddygol, corfforol neu synhwyraidd a allai effeithio ar eu cynnydd yn yr ysgol.

Mae’r anghenion hyn yn gallu bod yn dymor hir neu’n dymor byr.

Mae mwyafrif y plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd a lleoliadau addysgol ôl-16, efallai gyda chymorth ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth; fodd bynnag, bydd angen i nifer fach o blant gael mynediad i ddarpariaeth addysg arbenigol.

Cynllun datblygu unigol (CDU)

Bydd gan bob person ifanc ag ADY gynllun datblygu unigol, sy’n adlewyrchu eu barn, eu dymuniadau a’u dyheadau. Fel rhiant/gofalwr, bydd disgwyl i chi hefyd gael mewnbwn i CDU eich plentyn.

Bydd y cynllun hwn yn pennu pa anghenion dysgu ychwanegol sydd gan eich plentyn a sut y gellir ei gefnogi drwy gydol ei addysg orfodol a thu hwnt.

Mae'r system newydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod y mater yn cael ei ystyried a'i ddatrys ar y lefel fwyaf lleol posibl lle ceir anghytundebau ynghylch CDU neu'r ddarpariaeth sydd ynddo.
 

Os ydych chi’n poeni am eich plentyn

Mae rhieni/gofalwyr yn adnabod eu plentyn yn well na neb ac efallai bod ganddyn nhw bryderon am ddatblygiad eu plentyn cyn iddyn nhw ddechrau mewn meithrinfa neu ysgol.

Os ydych chi’n poeni, dylech chi siarad ag un o’r canlynol:

  • athro/athrawes dosbarth (neu feithrin) eich plentyn
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol dynodedig yr ysgol
  • y pennaeth
  • eich ymwelydd iechyd neu feddyg teulu
  • eich gweithiwr cymdeithasol.

Fel arall, efallai mai meithrinfa neu ysgol eich plentyn sy’n sylwi ar angen posibl am gymorth ychwanegol.

Eich hawliau chi a hawliau’ch plentyn

Mae pob plentyn o dan 18 oed yn cael ei amddiffyn gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n golygu bod ganddyn nhw rai hawliau o dan y gyfraith.

Mae gan rieni’r hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru os nad ydyn nhw’n hapus gydag unrhyw benderfyniad mae’r cyngor lleol yn ei gymryd mewn perthynas â’u plentyn.

Erbyn hyn mae’r hawl hon wedi cael ei hestyn i blant a phobl ifanc, er mwyn iddyn nhw gael gwneud apêl ADY a honni Gwahaniaethu ar Sail Anabledd hyd yn oed pan na fydd eu rhiant/rhieni yn apelio.

Mae’n rhaid i’r cyngor ddarparu cymorth eiriolaeth o blant a phobl ifanc sy’n ymarfer yr hawliau hyn.

Diweddariad diwethaf: 21/02/2023