skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r gyfraith yn dweud bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd yn eu barn nhw pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Yn ymarferol, nid yw hyn bob amser mor hawdd ag y mae’n swnio. Mae angen cymorth ar lawer o blant a phobl ifanc i godi eu llais neu, weithiau, hyd yn oed rhywun i siarad ar eu rhan. Bydd rhai plant a phobl ifanc yn troi at eu rhieni, ffrindiau neu aelodau eraill y teulu am y cymorth yma, ond i rai eraill nid yw hyn yn bosibl a bydd angen cymorth proffesiynol arnyn nhw.

Eiriolaeth

Bydd eiriolwr proffesiynol annibynnol yn cefnogi person ifanc ac yn gwneud yn siŵr bod ei lais yn cael ei glywed am benderfyniadau sy’n effeithio arno’n cael eu gwneud.

Bydd y gefnogaeth i blant neu bobl ifanc yn cynnwys:

  • gwrando arnyn nhw
  • eu helpu nhw i edrych ar eu hopsiynau
  • eu cefnogi nhw i wneud penderfyniad
  • gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod eu hawliau
  • eu helpu i ddweud eu dweud

Ni fydd eiriolwr:

  • yn barnu’r person ifanc
  • yn dweud wrth y person ifanc beth i’w wneud
  • yn siarad â neb arall heb ei ganiatâd

Ym mha sefyllfaoedd all eiriolwr gynnig cefnogaeth?

Mae eiriolwyr proffesiynol yn gallu helpu pobl ifanc i’w llais gael ei glywed:

  • yn yr ysgol
  • gartref
  • mewn gofal
  • mewn ysbyty
  • mewn tai
  • yn y Llys

Sut i gael cefnogaeth

Mae gan awdurdodau lleol rwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddarparu ‘llais’ proffesiynol annibynnol neu eiriolwr am bob plentyn a pherson ifanc sy’n derbyn gofal, sy’n gadael gofal a phlant sydd angen gofal a chymorth, sy’n dymuno cymryd rhan neu wneud sylwadau am benderfyniadau am eu bywydau. Hefyd dylai eiriolwr proffesiynol annibynnol gael ei ddarparu os bydd plentyn neu berson ifanc yn dymuno cwyno.

Diweddariad diwethaf: 23/02/2023