Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, eu cymuned a’r gymdeithas maen nhw’n byw ynddi.
Mae’r hawl hon yn cael ei phennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a gafodd ei ymgorffori yn y gyfraith yng Nghymru yn 2011.
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid gadael i bobl ifanc ddweud eu dweud am beth maen nhw’n meddwl dylai ddigwydd iddyn nhw, ac i eraill wrando ar eu barn a’i chymryd i ystyriaeth pan gaiff unrhyw benderfyniadau eu gwneud.
‘Bod â Llais, Bod â Dewis’
I roi dewis i blentyn neu berson ifanc am yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw, mae’n rhaid rhoi llais iddyn nhw’n gyntaf. Mae’r deialog cyson yma’n cael ei alw’n gyfranogiad.
Mae cyfranogiad yn golygu gwrando, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth eich gilydd. Mae’n golygu gwerthfawrogi llais y person ifanc am faterion sy’n bwysig iddyn nhw a chlywed beth maen nhw’n ei ddweud er mwyn i’w dymuniadau a safbwyntiau gael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Manteision ehangach cyfranogiad
Mae cyfranogiad yn rhan hanfodol o rymuso pobl ifanc a’u hannog i fynd yn ddinasyddion gweithgar a chyfrifol.
Mae cymryd rhan mewn prosesau democrataidd ac amrywiaeth o faterion dinasyddiaeth, yn lleol ac yn fyd-eang, yn helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith.
Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc
Dylai unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru fod yn ymwybodol o’r ystyriaethau allweddol sy’n cael eu hamlygu yn y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc.