Mae bod yn gymdeithasgar a chymryd rhan yn yr hyn sy’n mynd yn ei flaen o’u hamgylch yn annog plant a phobl ifanc i ddatblygu ymdeimlad o berthyn.
Mae’n naturiol bod eich plant yn ganolbwynt eich byd chi; ond mae’n gallu bod yn wers dda iddynt mewn bywyd i sylweddoli nad yw’r byd, mewn gwirionedd, yn troi o’u cwmpas nhw.
Mae mynd allan a chymryd rhan mewn gweithgareddau maent yn eu mwynhau – ac efallai rhoi pobl eraill yn gyntaf – yn helpu plant i deimlo’n dda amdanynt eu hunain ac yn cael effaith fawr ar eu llesiant emosiynol.
Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan egnïol mewn gweithgareddau tu hwnt i’w teulu uniongyrchol ac addysg orfodol yn teimlo eu bod yn bwysig, sydd yn ei dro yn cael effaith bositif ar eu hyder. Mae eu gweithgareddau allgyrsiol yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu mwy amdanynt eu hunain, ar yr un pryd â datblygu sgiliau cymdeithasol eraill, fel pwysigrwydd cyfaddawdu a chyfathrebu clir.
Mae’r sawl sy’n cymryd rhan weithgar mewn chwaraeon neu’n cymryd rhan reolaidd mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden yn debygol o ffurfio cyfeillgarwch cryf, ac o ganlyniad maent yn llai tebygol o fod yn unig neu’n encilgar.
Ffordd ardderchog arall i bobl ifanc fynd allan a chymdeithasu yw gwirfoddoli. Er bod isafswm oedran gan rai rolau gwirfoddol, gall plant iau gymryd rhan mewn mentrau cymunedol lleol fel casglu sbwriel neu helpu yn yr ysgol, digwyddiadau chwaraeon a chymunedol pan fyddwch chi wrth law.
Ceisiwch beidio â gadael i broblemau cludiant atal eich plentyn rhag cymryd rhan yn y gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Os yw’ch plentyn yn rhy ifanc i deithio ar ei ben ei hun ar gludiant cyhoeddus, holwch a fydd rhieni eraill yn helpu gyda lifftiau. Efallai y bydd modd i chi eu had-dalu mewn dulliau eraill, e.e. rhannu costau petrol, darparu lluniaeth, ac ati.
Mae cyfranogi yn rhan hanfodol o hawliau plant ac mae’n bwysig bod pob plentyn a pherson ifanc yn cymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, boed yn yr ysgol, yn eu cymuned leol neu yn y byd ehangach.
Mae’r hawl hon i gael eu gwrando ar yn cael ei phennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a chafodd ei hymgorffori yn y gyfraith yng Nghymru yn 2011.
Rhaid gadael i bob plentyn a pherson ifanc fwynhau’r hawl hon i fynegi eu barn yn rhydd. Yn ymarferol, nid yw hyn bob amser mor hawdd ag y mae’n swnio ac efallai y bydd angen cefnogaeth ar lawer o bobl ifanc, yn arbennig, pobl ifanc anabl i godi eu llais.
Bydd rhai plant a phobl ifanc yn troi at eu rhieni, ffrindiau neu aelodau eraill y teulu am y gefnogaeth hon, ond mae’n bosibl y bydd eraill yn chwilio am gymorth gan eiriolwr annibynnol proffesiynol.
Dylai gofalwyr ifanc dderbyn yr un cyfleoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt â phobl ifanc eraill.