skip to main content

Mae pobl ifanc anabl yn unigolion, gyda safbwyntiau, doniau a dyheadau amrywiol iawn.

Mae llawer yn dilyn addysg uwch a gyrfaoedd tra bod eraill yn cymryd rhan mewn gwaith hawliau anabledd a gwaith elusennol. Mae’r mwyafrif yn dymuno byw yn annibynnol – gyda chefnogaeth pan fo arnynt ei hangen – ac i gymryd rhan lawn mewn bywyd.

Yr hyn sydd yn wahanol i bobl ifanc anabl yw’r rhwystrau ychwanegol mae’n rhaid iddynt eu goresgyn er mwyn cymryd rhan lawn a byw bywyd ar eu telerau eu hun – mewn addysgcyflogaeth, cludiant, tai, chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae gan y mwyafrif o bobl ifanc anabl – ond nid pob un – anghenion dysgu ychwanegol, sy’n golygu y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt i ddysgu yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol.

Model cymdeithasol anabledd

Mae model cymdeithasol anabledd yn credu bod pobl yn cael eu hanablu gan gymdeithas yn hytrach na chan yr hyn maent yn gallu ei wneud neu beidio â’i wneud. Nid anabledd neu gorff y person yw’r broblem, ond sut mae pobl eraill – a sefydliadau yn gyffredinol – yn ymateb iddo.

Mae model cymdeithasol anabledd yn canolbwyntio ar yr hyn gall person ifanc anabl ei wneud pan gaiff rhwystrau corfforol ac eraill eu symud, e.e. mae agweddau positif tuag at anabledd, mae mannau cyhoeddus a chludiant yn hygyrch ac mae technoleg gynorthwyol ar gael yn rhwydd. 

Er enghraifft, byddai defnyddiwr ifanc cadair olwyn ond yn cael anhawster i gymryd rhan mewn clwb neu weithgaredd cymdeithasol os nad oedd yr adeilad dan sylw yn hygyrch, h.y. heb ei ffitio â ramp, drysau llithro neu lifft.

Beth ddywed y gyfraith

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig), mae gan blentyn neu berson ifanc anabl nam corfforol neu feddyliol sylweddol neu hirdymor.

O dan y Ddeddf mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun achos:

  • maent yn berson anabl
  • mae rhywun arall yn meddwl bod ganddynt anabledd
  • maent yn gysylltiedig â rhywun ag anabledd, neu’n gofalu am rywun o’r fath.

Nid gwahaniaethu anghyfreithlon yw trin rhywun anabl yn fwy ffafriol na rhywun arall, e.e. i ganiatáu i blentyn anabl golli gwasanaethau boreol yr ysgol neu i fyfyriwr anabl gael gweithiwr cymorth.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Estynnodd Deddf 2010 ddeddfwriaeth wrth-wahaniaethu flaenorol drwy gynnig amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu anuniongyrchol.

Mae enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol yn cynnwys:

Agweddau negyddol

  • gwneud rhagdybiaethau am yr hyn y gall person anabl ei wneud neu beidio â’i wneud ar sail syniadau rhagdybiedig o anabledd
  • cymryd yn ganiataol y bydd person anabl i ffwrdd yn sâl yn amlach
  • methu â gwahaniaethu rhwng mathau gwahanol o anabledd.

Adeiladau ac amgylcheddau hygyrch

  • pyrth a chlwydi cul
  • absenoldeb rampiau neu lifftiau
  • diffyg lleoedd parcio i bobl anabl
  • swyddfeydd anniben, desgiau un lefel
  • problemau o ran goleuadau, e.e. goleuadau lefel isel neu fflworolau.

Systemau sefydliadol

  • problemau cludiant
  • patrymau neu sifftiau gwaith anhyblyg
  • gwefannau anhygyrch, e.e. dim testun amgen i ddisgrifio delweddau.

Hawliau Plant

Mae gan bobl ifanc anabl yr un hawliau â phob plentyn, ac yng Nghymru mae’r rhain yn cael eu hymgorffori yn y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i eiriolwr i’w helpu i godi eu llais neu i wneud cwyn.

Mae Gyda’n Gilydd Dros Hawliau yn grŵp Cymru-gyfan o bobl ifanc anabl 11-19 oed, sy’n annog ei aelodau i gwrdd a chael hwyl, deall eu hawliau a chodi materion o bryder yn eu bywydau bob dydd.

Hawliau Gofalwyr

Os ydych chi’n edrych ar ôl plentyn anabl, rydych yn ofalwr. Mae hyn yn rhoi hawliau cyfreithiol ychwanegol i chi a fydd yn eich helpu i gael y cymorth mae arnoch ei angen.

Mwy o wybodaeth

Mae Anabledd Cymru (Saesneg yn unig) yn hyrwyddo hawliau pob person anabl ac yn ymdrin â’r heriau mawr maent yn aml yn eu hwynebu. 

Mae Deall Eich Hawliau (Mehefin 2013) (Saesneg yn unig) gan Anabledd Cymru yn amlinellu’r cyfreithiau sy’n amddiffyn hawliau pobl anabl. 

Mae Equality Act, Making Equality Real (Saesneg yn unig) yn arweiniad hawdd ei ddarllen i ddeddfwriaeth cydraddoldeb.

Mae Plant yng Nghymru yn annog plant a phobl ifanc anabl i gymryd rhan, a chyflawni beth bynnag maent ei eisiau. Mae’r elusen hefyd yn ymgyrchu i sicrhau bod eu hawliau a’u hanghenion yn cael eu diwallu.  

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) ganllawiau ar gyfer pobl anabl. 

Diweddariad diwethaf: 22/05/2018