skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon – bod ar sail tîm neu chwaraeon i unigolion – yw un o’r ffyrdd gorau i wella llesiant corfforol a meddyliol person ifanc.

Mae ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol nid yn unig yn cadw plant yn heini ac yn iach, ond mae’n helpu i fagu eu hunan-barch a’u hyder, yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol ac yn eu hysgogi i wneud yn dda yn yr ysgol hefyd.

Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn debycach o fod yn gytbwys eu meddylfryd, ag agwedd gadarnhaol at fywyd ac yn llai tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

Yn aml bydd gan blant sy’n parhau gyda chwaraeon neu’n cymryd rhan mewn athletau i mewn i’w glasoed y cyfle i gymryd rhan yn broffesiynol, neu efallai dilyn cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli. Yn wir, mae cyflawni ffitrwydd corfforol gwell yn un o gydrannau allweddol cynllun Dug Caeredin (Saesneg yn unig).

Weithiau, mae rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Mae merched yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn dilyn glasoed a gall pobl ifanc o gefndiroedd du ac ethnig lleiafrifol neu bobl ifanc anabl wynebu rhwystrau go iawn neu ganfyddedig i fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon addas.

Buddion chwaraeon

Mae ymarfer corff rheolaidd yn bwysig ar unrhyw oedran; ond mae rhesymau ychwanegol pam y dylai plant a phobl ifanc fod yn weithgar a chymryd rhan mewn chwaraeon.

  • Ffitrwydd corfforol – mewn byd lle mae llawer o bobl ifanc yn treulio oriau ar-lein, mae chwaraeon yn cynnig cyfle iddynt ymarfer a chynnal pwysau iach
  • Sgiliau cymdeithasol - mae chwaraeon yn annog plant i gymysgu ag eraill yr un oedran, ond hefyd â hyfforddwyr a swyddogion chwaraeon. Mae hyn o gymorth iddynt fagu hyder sy’n eu helpu nawr ac yn eu bywyd yn y dyfodol.
  • Adeiladu tîm – fel arfer mae gan hyd yn oed chwaraeon unigol fel athletau neu saethyddiaeth gydran clwb neu dîm lle bydd yr aelodau yn cefnogi ymdrechion ei gilydd.
  • Sgiliau arweinyddiaeth – mewn gweithgareddau chwaraeon, bydd y plant hŷn yn aml yn cadw llygad ar y rhai iau.
  • Hunan-barch – mae’r anogaeth a’r clod a gaiff plant o weithgareddau chwaraeon yn cael effaith aruthrol ar eu hyder a’u hunan-barch.
  • Llwyddiant addysgol – fel arfer bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn cymhwyso’r un ymroddiad a gwaith caled i bopeth mewn bywyd, gan gynnwys eu hastudiaethau academaidd.

Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon wrth dyfu i fyny hefyd yn debycach o ystyried gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd a pharhau i fyw mewn dull iach a gweithgar trwy gydol eu bywyd fel oedolyn.

Y chwaraeon cywir ar gyfer eich plentyn chi

Nid yw pob math o chwaraeon yn hafal. Mae gormod o bobl ifanc yn cael eu digalonni rhag gweithgarwch corfforol am oes ar ôl perfformiad gwaradwyddus ar ddiwrnod chwaraeon yr ysgol neu brofiadau diflas ar y maes chwarae.  Os nad yw chwaraeon tîm arferol yr ysgol o ddiddordeb i’ch plentyn, peidiwch â phoeni. Mae digonedd o ddewisiadau amgen gan gynnwys chwaraeon dŵr, athletau, gweithgareddau awyr agored ac ystod eang o chwaraeon dan do, e.e. bowlio, badminton neu sglefrio.

Mae beicio yn aros yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc ac mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn darparu llwybrau diogel, di-draffig a thawel ar gyfer beicwyr, cerddwyr, rhedwyr a marchogwyr.

Cael hwyl gydag aps

Erbyn hyn mae gweithgareddau chwaraeon yn gysylltiedig yn gynhenid â thechnoleg felly os ydych chi’n cael anhawster tynnu plentyn sy’n dwlu ar ei gyfrifiadur oddi yno, beth am eu hannog i gael cip ar rai o’r aps chwaraeon sydd ar gael bellach, e.e. Strava (Saesneg yn unig) sy’n galluogi rhedwyr a beicwyr i gymharu eu perfformiad nhw dros amser ac yn erbyn pobl eraill.

Mwy o wybodaeth

Mae Chwaraeon Cymru yn darparu gwybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a/neu dimau a chlybiau sydd ar gael yn eich ardal chi. Neu gallwch gysylltu â Thîm Datblygu Chwaraeon eich cyngor lleol am wybodaeth.

Mae EYST Cymru (Saesneg yn unig) yn cynnal nifer o brosiectau yng Nghymru (Caerdydd, Casnewydd, Abertawe ac yn Wrecsam) i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ac annog dulliau iachach a mwy gweithgar o fyw ymhlith cymunedau BME.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn hyrwyddo cannoedd o glybiau sy’n cynnig cyfleoedd chwaraeon ar gyfer anableddau penodol neu sy’n gynhwysol i anableddau ledled Cymru. Mae’r gweithgareddau yn amrywio o ganŵio a gweithgareddau awyr agored i griced, pêl-droed, pêl-rwyd a chrefft ymladd. Dysgwch beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal chi, chwiliwch am glwb lleol neu cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd yn eich cyngor lleol.

Diweddariad diwethaf: 28/02/2023