Wrth i gyfraddau gordewdra ymhlith plant gynyddu, mae’n bwysicach nag erioed annog arferion bwyta iach ymhlith plant.
Deiet gwael – un sy’n cynnwys gormod o fraster dirlawn a siwgr – a dull o fyw anweithgar yw prif achosion gordewdra plant. Mae plant sy’n ordrwm neu’n ordew yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd, gan gynnwys asthma a diabetes Math 2, ac yn debycach o ddioddef hunan-barch isel.
Y ffordd orau o atal plant a phobl ifanc rhag mynd yn ordrwm neu’n ordew yw eu hannog i fwyta’n iach a bod yn gorfforol weithgar.
Bwyta’n iach gartref
Pan fyddwch chi’n arwain bywyd prysur, mae’n hawdd syrthio’n ôl ar fwydydd parod, yn enwedig pan fydd yn well gan blant eu bwyta yn ôl pob golwg. Mae’r arferion bwyta rydym ni’n eu datblygu fel plant yn tueddu i aros gyda ni, felly bydd annog eich plant i fwyta’n iach pan fyddant yn ifanc nid yn unig yn rhoi’r maetholion mae arnynt eu hangen i’w corff sy’n tyfu nawr ond hefyd yn eu helpu i aros yn iach wrth fynd yn oedolion.
Ceisiwch roi bwyd i’ch plant sydd mor agos at ei ffurf naturiol â phosibl, sydd fel arfer yn golygu bwydydd â llai o becynnu ac wedi eu prosesu llai.
Cofiwch, nid yw plant yn cael eu geni’n gaeth i ddiodydd llawn siwgr neu fwyd wedi’i ffrïo’n ddwfn, ac efallai byddai’n well ganddyn nhw ddewisiadau bwyd iachach mewn gwirionedd os cânt eu cyflwyno iddyn nhw.
Coginiwch fwy o brydau gartref er mwyn i chi gael osgoi siwgr ychwanegol a braster prydau parod a bwyd tecawê, trefnwch fod byrbrydau iach fel ffrwythau, cnau a ffrwythau sych ar gael.
Cymerwch eich plant i siopa gyda chi a dysgwch nhw am system goleuadau traffig labeli bwyd. Mae hyd yn oed plant bach yn gallu cymryd rhan mewn paratoi prydau bwyd.
Mae gan Change 4 Life (Saesneg yn unig) lawer o ryseitiau iach i apelio at blant.
Bwyta’n iach yn yr ysgol
Mae ysgolion yn chwarae rôl bwysig mewn annog plant i ddatblygu arferion bwyta ac yfed iach o oedran ifanc.
Bellach mae ffreuturau ysgolion yn cael eu rheoleiddio o ran y math o fwyd a diod maent yn cael ei weini neu beidio, ac mae safonau maethol yn bodoli ar gyfer ciniawau ysgol. Mae’n golygu bod bwydydd afiach yn cael eu cyfyngu a bod argaeledd ffrwythau a llysiau wedi cael ei gynyddu.
Gordewdra ymhlith plant
Mae cyfraddau gordewdra ymhlith plant yn cynyddu yng Nghymru, gydag un o bob pedwar plentyn yn ordrwm neu’n ordew wrth ddechrau’r ysgol. Mae plant rhieni gordew yn debycach o fod yn ordew eu hunain, yn aml am eu bod yn rhannu’r yn arferion bwyta ac ymarfer drwg â’u rhieni. Mae plant sy’n ordew yn debygol iawn o dyfu’n oedolion gordew.
Mae bod yn ordrwm neu’n ordew yn gallu cael effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol eich plentyn, tra bydd yn tyfu i fyny a phan fydd yn oedolyn.
Helpu plentyn i golli pwysau
Mae cyflwr cyrff plant yn tyfu’n gyson ond os ydych yn pryderu bod eich plentyn yn magu gormod o bwysau, e.e. maent yn methu ffitio i mewn i ddillad ar gyfer plant eu hoedran nhw, efallai yr hoffech roi cynnig ar y syniadau canlynol:
- Lleihau maint dognau – dylai hyn gael ei wneud yn raddol a chan bawb yn y teulu.
- Ceisio cadw at amserau prydau rheolaidd a bwyta gyda’ch gilydd gymaint â phosibl.
- Cadw byrbrydau allan o gyrraedd.
- Treulio mwy o amser tu allan fel teulu ac annog gweithgareddau awyr agored.
- Annog eich plant i gymryd diddordeb mewn siopa a choginio.
- Annog peidio â bwyta’n ddifeddwl, e.e. prydau bwyd o flaen cyfrifiadur neu deledu.
- Gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael y cwsg sy’n cael ei argymell am eu oedran.
Yn ddelfrydol, dylai pwysau problemus plentyn gael sylw mor gynnar â phosibl. Mae 10 cam i bwysau iach yn amlinellu deg peth syml y gallwch ei wneud i helpu’ch plentyn i fod yn bwysau iach erbyn cyrraedd yr ysgol.
Cael cymorth proffesiynol
Os oes gennych chi bryderon penodol am bwysau neu arferion bwyta eich plentyn, mae’n werth siarad â’ch meddyg teulu neu’r nyrs practis.