Mae cwsg yn bwysig iawn i blant ac mae diffyg cwsg yn gallu cael effaith andwyol ar amrywiol agweddau ar eu bywydau, gan gynnwys eu haddysg.
Os ydych chi’n ei chael yn anodd cael eich plentyn i gysgu drwy’r nos, peidiwch â digalonni achos mae’n bosib datrys y mwyafrif o broblemau cwsg gyda gwaith caled ac ymroddiad. Mae llawer o ffactorau gwahanol i’w hystyried felly mae’n gallu bod yn ddefnyddiol ceisio newid dim ond un peth ar y tro.
Sut i adnabod cwsg gwael/cwsg annigonol
Efallai bod plentyn neu berson ifanc nad yw’n cael digon o gwsg yn dangos un neu fwy o’r problemau ymddygiadol canlynol:
- gorfywiogrwydd
- bod yn fwy adweithiol, yn digio’n gyflymach
- cael anhawster canolbwyntio
- dangos hwyliau ansad
- cael anhawster cofio gwybodaeth
Efallai bod arwyddion corfforol hefyd, gan gynnwys:
dylyfu gên
- bod yn welw
- cyntun/syrthio i gysgu
- anawsterau o ran cydsymudiad
Beth sy’n gwneud trefn gysgu dda?
Mae trefn gysgu dda yn allweddol:
- cadwch at amserau gwely ac amserau deffro rheolaidd
- gadewch ddigon o amser i’ch plentyn arafu a thawelu cyn amser gwely
- mae cwsg yn gallu cael ei reoli gan lefelau goleuni felly mae cysgu yn ystod oriau golau dydd yn gallu effeithio ar ansawdd cwsg a newid rhythmau’r corff gan ei gwneud yn fwy anodd cysgu gyda’r nos
Sut i drefnu amgylchedd cysgu da
Dylai ystafell wely’ch plentyn fod yn rhywle mae’n gallu ymlacio a chysgu heb unrhyw ymyrraeth.
- tymheredd: gwnewch yn siŵr nad yw ystafell wely’ch plentyn yn rhy boeth neu’n rhy oer
- lefelau goleuadau: efallai bod rhai plant yn ofni’r tywyllwch felly bydd arnyn nhw angen goleuni nos lefel isel, tra bydd eraill efallai’n elwa o lenni tywyllu i atal unrhyw oleuni o’r tu allan rhag amharu arnyn nhw
- os oes modd, dilewch unrhyw seiniau sy’n gallu cael eu clywed o’r ystafell wely e.e. tipian cloc
- dylai gwelyau gael eu defnyddio i gysgu yn unig, h.y. dim gwaith cartref yn y gwely
- osgowch weithgareddau symbylol fel ymarfer neu chwarae gemau yn yr awr cyn amser gwely
- dim bwyd na diod yn ystod y nos
- trowch i ffwrdd sgriniau cyfrifiadur, llechen, ffôn am o leiaf awr cyn amser gwely
- mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu arwain at ofid felly y peth gorau yw osgoi cyfathrebu electronig hefyd
Sut i ymlacio cyn amser gwely
Bydd eich plentyn yn cysgu’n well os bydd wedi ymlacio cyn troi am y gwely. Dyma rai syniadau sydd wedi eu hen brofi i’w helpu i deimlo’n gysglyd:
- rhowch ddiod laethog gynnes iddo
- rhowch faddon iddo cyn gwely
- darllenwch stori
- chwaraewch gerddoriaeth sy’n eu tawelu
- mwynhewch weithgarwch sy’n eu hymlacio, e.e. lliwio
- rhowch gynnig ar rai ymarferion ymlacio (mae syniadau gan Y Cyngor Cysgu (Saesneg yn unig))
- trefnwch amser pan fydd eich plentyn yn gallu trafod unrhyw bryderon gyda chi yn gynharach yn y dydd – gan eu rhoi i gadw o bosib mewn ‘blwch pryderon’ fel bod modd iddyn nhw anghofio amdanyn nhw
Sut i ddelio â phlant sy’n deffro yn ystod y nos
Mae cwsg drylliog yn beth cyffredin ymhlith plant ac mae yna rai pethau gallwch chi eu gwneud geisio cael gwared ar yr arfer hwn:
- cymerwch eich plentyn yn ôl i’w wely ei hun, gan roi cyn lleied o sylw iddyn nhw â phosib
- peidiwch â throi’r goleuadau ymlaen
- anogwch eich plentyn i gysuro ei hun drwy ddefnyddio strategaethau sy’n cael eu hymarfer yn ystod y dydd, e.e. arferion anadlu
- defnyddiwch gloc i ddangos iddo pa oriau ydy oriau cysgu
- defnyddiwch ymadrodd sefydledig sy’n gallu cael ei ailadrodd a pheidiwch â chymryd rhan mewn sgyrsiau eraill, e.e. ‘mae’n nos nawr, amser cysgu / mae’n bryd cysgu’
Mwy o wybodaeth
Mae gan yr Elusen Cwsg (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar ei gwefan.
Mae gan Cerebra (Saesneg yn unig) arweiniad ar-lein defnyddiol am gwsg i rieni plant ag anhwylderau’r ymennydd.
Mae gan Young Minds (Saesneg yn unig) gyngor defnyddiol hefyd i bobl ifanc sy'n cael trafferth cysgu.