Mae anhwylderau bwyta yn afiechydon meddwl difrifol sy’n ymwneud ag ymddygiad rhywun tuag at fwyd a bwyta.
Mae anhwylderau bwyta yn gallu peri niwed difrifol a gallant hyd yn oed fod yn angheuol. Yn wir, mae gan anorecsia y gyfradd farwolaeth uchaf ymhlith yr holl afiechydon meddwl.
Yn nodweddiadol bydd plentyn neu berson ifanc ag anhwylder bwyta yn cyfyngu faint o fwyd maent yn ei fwyta neu’n bwyta llawer iawn o fwyd a’i garthu yn nes ymlaen drwy ddulliau nad ydynt yn rhai iach, e.e. gwneud i’w hunan gyfogi, defnyddio carthyddion neu wneud ymarfer corff gormodol.
Nid yw bob amser yn amlwg bod gan berson ifanc anhwylder bwyta; fodd bynnag, bydd dioddefwyr yn aml yn osgoi bwyta gyda phobl eraill ac yn hoelio eu sylw’n annaturiol ar golli pwysau, dilyn deiet a bwyd. Ar ôl glasoed, bydd mislif merched sy’n mynd yn annaturiol o denau yn stopio.
Pam ydy pobl ifanc yn datblygu anhwylderau bwyta
Nid dewis o ran dull o fyw yw anhwylder bwyta ac ni ddylid meddwl am ddioddefwyr fel deietwyr eithafol. Y mathau mwyaf cyffredin o anhwylder bwyta yw anorecsia, bwlimia, ac anhwylder gorfwyta mewn pyliau, ond bydd symptomau person ifanc yn amrywio ac yn aml fe fydd gorgyffwrdd.
Gall anhwylderau bwyta ddatblygu ar unrhyw oedran, ond mae’r risg ar ei uchaf i ddynion a menywod ifanc rhwng 13 a 17 oed. Maent yn effeithio ar lawer mwy o ferched na bechgyn.
Mae’r elusen anhwylderau bwyta Beat (Saesneg yn unig) yn esbonio, “Mae’n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta yn ymwneud â bwyd ei hunan, ond â theimladau. Efallai bod y ffordd mae’r person yn rhyngweithio â bwyd yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn gallu ymdopi’n well, neu eu bod nhw mewn rheolaeth.”
Anorecsia nerfosa
Prif nodwedd anorecsia yw rheolaeth lem ar fwyta bwyd gan unigolion sy’n ofni magu pwysau. Er gwaethaf bwyta ychydig iawn yn unig, yn aml bydd dioddefwyr yn cloriannu’n gyson ac yn mynd i eithafion i gael gwared ar unrhyw galorïau maent wedi eu bwyta o’u corff.
Yn aml bydd gan bobl sy’n dioddef anorecsia ddelwedd gam o’u corff, gan weld eu hunain fel bod yn dew pan fyddant, mewn gwirionedd, yn beryglus o denau.
Ymhlith y pethau i gadw llygad allan amdanynt mae:
- teneuwch eithafol, ynghyd â gwadu hynny
- cyfyngu’n eithafol ar fwyta
- ofn dwys magu pwysau
- croen sych, a gwallt ac ewinedd brau
- bod yn flinedig ac yn oer yn gyson
Bwlimia nerfosa
Mae pobl ifanc â bwlimia nerfosa yn cael eu dal mewn cylch o orfwyta a ‘charthu’, h.y. cael gwared ar y bwyd maent wedi ei fwyta drwy orfodi eu hunain i gyfogi, cymryd carthyddion a diwretigau, newynu neu ymarfer corff gormodol (ac yn aml cyfuniad o’r rhain).
Bydd rhywun bwlimig yn mynd drwy episodau o orfwyta afreolus mewn pyliau pan fyddant yn bwyta’n gyflym iawn ac yn bwyta meintiau anferth. Wedyn, byddant yn ofidus am beth sydd yn eu golwg nhw eu ‘diffyg rheolaeth’ ac felly mae’r cylch o orfwyta/carthu yn parhau.
Yn wahanol i anorecsia, bydd rhywun â bwlimia yn aml yn cynnal pwysau iach, gan ei gwneud yn anodd sylwi ar yr afiechyd.
Ymhlith y pethau i gadw llygad allan amdanynt mae:
- sylwi ar amrywiadau mewn pwysau rhywun, i fyny ac i lawr
- tystiolaeth o orfwyta mewn pyliau, e.e. meintiau mawr o fwyd yn diflannu, llawer o becynnau gwag
- tystiolaeth o ymddygiad carthu, e.e. arwyddion o gyfogi, pecynnau o garthyddion
- ymweliadau â’r ystafell ymolchi ar ôl prydau bwyd
- dannedd wedi eu hafliwio, briwiau neu fannau caled ar gyhyrau’r bysedd
- defnyddio hylif golchi’r geg, losin mintys a gwm cnoi yn aml
Anhwylder gorfwyta mewn pyliau (BED)
Mae pobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn colli rheolaeth dros eu bwyta ac yn bwyta symiau mawr o fwyd mewn cyfnod byr. Mae gorfwyta mewn pyliau yn llai cyffredin ymhlith pobl iau ond mae’n gallu datblygu o anorecsia neu fwlimia neu i mewn iddynt.
Fel arfer mae pyliau o orfwyta yn cael eu cynllunio ymlaen llaw ac yn digwydd mewn man preifat. Yn wahanol i fwlimia, nid ydynt fel arfer yn cael eu dilyn gan garthu.
Ar ôl gorfwyta, mae’r dioddefwr yn teimlo ffieiddio a hunan-gasáu; fodd bynnag, maent yn ei chael yn anodd rhoi’r gorau i’w gorfwyta mewn pyliau hyd yn oed os ydynt yn dymuno.
Mae gorfwyta mewn pyliau yn gallu bod yn anodd i sylwi arno, ond ymhlith y pethau i gadw llygad allan amdanynt mae:
- dilyn deiet mynych, a hynny’n aml heb golli pwysau
- magu pwysau
- bwyta nes bod yn anghysurus o lawn
- bwyta ar eu pen eu hun neu’n gyfrinachol
Pan nad yw symptomau’r person yn cyfateb yn union i symptomau anorecsia, bwlimia neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau, cyfeirir ato fel ‘anhwylder bwydo neu fwyta penodedig arall’ (OSFED). Mae OSFED yr un mor ddifrifol ag anhwylderau bwyta diffiniedig.
Trin anhwylderau bwyta
Mae anhwylderau bwyta yn ddifrifol ond maent yn gallu cael eu trin gyda chanlyniadau da. Mae llawer o ddioddefwyr yn ymadfer yn llawn ac yn mynd ymlaen i ddilyn perthynas normal â bwyd.
Y peth pwysig yw cael diagnosis cynnar er mwyn i’r person ifanc gael y driniaeth mae arnynt ei hangen mor fuan â phosibl.
Os ydych yn amau bod gan berson ifanc anhwylder bwyta mae’n bwysig cael atgyfeiriad gan feddyg teulu i wasanaethau arbenigol cyn gynted â phosibl.
Gallwch hefyd siarad yn gyfrinachol â rhywun yn Beat Eating Disorders.
Llinell gymorth: 0808 801 0433
Sgwrs gwe un-i-un Waleshelp@beateatingdisorders.org.uk