Mae arwain ffordd o fyw weithgar fel plentyn yn bwysig i ddatblygiad sgiliau cymdeithasol, iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Mae plant yn debycach o arwain bywydau gweithgar pan fyddan nhw’n hŷn os byddan nhw’n cael y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau awyr agored pan fyddan nhw’n iau.
Mae rhai gweithgareddau, fel chwaraeon tîm a nofio, yn cael eu hannog yn yr ysgol ac mewn clybiau ar ôl ysgol. Ar gyfer gweithgareddau mwy anghyffredin, fel saethyddiaeth neu geo-caching, mae’n debyg y bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hun.
Mae amrywiaeth y chwaraeon a’r gweithgareddau awyr agored sydd ar gael hefyd yn dibynnu ble rydych chi’n byw. Cysylltwch â’ch tîm datblygu chwaraeon lleol neu Chwaraeon Cymru i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.
Mae Chwaraeon Anabl Cymru yn cefnogi amrediad eang o weithgareddau chwaraeon i blant a phobl ifanc anabl.
Rhaglenni Haf
Mae rhai cynghorau lleol yn trefnu gweithgareddau haf, fel arfer yn ystod gwyliau ysgol. Mae rhai wedi eu hanelu at deuluoedd tra bod eraill yn benodol i blant. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwersylloedd haf, academïau pêl-droed a rhaglenni aml-antur.
Clybiau gweithgareddau awyr agored cymunedol
Mae ymuno â chlwb cymunedol yn gallu bod yn rhagorol i ddatblygiad plant a’u helpu i wneud ffrindiau a meithrin sgiliau eraill. Yn aml bydd cyfleoedd i rieni gymryd rhan mewn rolau gwirfoddol e.e. mae parkruns (Saesneg yn unig) iau bellach mewn sawl rhan o Gymru.
Nofio
Mae dysgu nofio yn hwyl a gallai un diwrnod achub bywyd eich plentyn. Edrychwch ar wersi nofio a/neu sesiynau nofio am ddim yn eich pwll lleol. N.B. Mae'n debyg y bydd angen i chi gofrestru'ch plentyn cyn y gall fynychu sesiynau rhad ac am ddim.
Chwaraeon rhodli
Mae gan Gymru fwy na 400 o lynnoedd a thros 180 o afonydd y mae’n bosibl eu rhodli, heb sôn am yr arfordir felly beth am annog eich plentyn i roi cynnig ar ganŵio (Saesneg yn unig), caiacio neu fyrddio-rhodl?
PaddlePower (Saesneg yn unig) yw cynllun gwobrwyo Canŵio Prydain, sy’n bwriadu annog mwy o bobl ifanc i ddod i mewn i’r gweithgarwch ac aros ynddo.
Dringo
Mae dringo yn weithgarwch gwych am ddatblygu cydbwysedd, cryfder a chydsymudiad mewn amgylchedd diogel.
Mae’r rhan fwyaf o ganolfannau dringo (Saesneg yn unig) yn darparu ar gyfer plant, gan gynnwys plant anabl. Mae’r Cynllun Gwobrau Cenedlaethol Dringo Dan Do (Saesneg yn unig) yn annog dringwyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder nes eu bod yn ddigon cymwys i ddringo yn yr awyr agored.
Cerdded
Pan fydd amser, cerddwch gyda’ch plentyn i’r ysgol, i’r siopau neu i weithgareddau ar ôl ysgol. Ar benwythnosau, trowch tuag at y parc, y traeth neu’r mynyddoedd am daith gerdded fwy hamddenol.
Mae Cyngor Mynydda Prydain (Saesneg yn unig) yn adnodd ardderchog ar gyfer dringo, cerdded y bryniau a mynydda.
Beicio
Mae beicio’n gallu helpu i ddatblygu cydbwysedd, cydsymudiad, ymwybyddiaeth o draffig a sgiliau rheoli risg. Cyflwynwch eich plentyn i feicio pan fydd yn gynnar gyda threic neu feic cydbwysedd.
Mae Beicio Cymru (Saesneg yn unig) yn gallu rhoi gwybodaeth am gychwyn arni, cynnal a chadw beic, ac ymuno â chlwb.
Erbyn hyn mae mwy na 1,200 milltir o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol (Saesneg yn unig) yng Nghymru.
Parciau Cenedlaethol a Llwybrau
Ymwelwch ag un o Barciau Cenedlaethol Cymru - Eryri, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro - lle mae llawer iawn o weithgareddau’n cael eu cynnig ar gyfer y teulu i gyd eu mwynhau, gan gynnwys heicio, rhodli a dringo.
Er nad yw’n Barc Cenedlaethol, mae Llwybr Arfordir Cymru yn estyn am 870 milltir, gyda digonedd o forlin i’w ddarganfod a’i fwynhau.