skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae plant yn dueddol o fod yn gymdeithasgar iawn ac mae’r mwyafrif yn mwynhau mynd allan, cymysgu ag eraill, a dysgu pethau newydd.

Mae rhyngweithio cymdeithasol yn hynod o bwysig i ddatblygiad plentyn a’i lesiant cyffredinol. Bydd gweithgareddau cymdeithasol a hamdden cynnar y mwyafrif o blant yn digwydd mewn cylchoedd chwarae, meithrinfeydd a’r ysgol; ond wrth iddynt dyfu, fel arfer maent yn datblygu eu diddordebau eu hun a byddant eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau tu allan i’r ysgol.

Mae’n debyg y bydd plant sy’n dangos dawn arbennig am chwaraeon penodol neu sy’n dangos diddordeb mewn gweithgarwch corfforol yn treulio llawer o’u hamser rhydd mewn sesiynau hyfforddi ac ymarfer, gemau neu gystadlaethau a gweithgareddau cymdeithasol cysylltiedig eraill.

Nid pob gweithgaredd hamdden sy’n golygu gweithgarwch corfforol a bydd yn well gan lawer o bobl ifanc ddiddordebau diwylliannol a chelfyddydol, fel drama amatur, canu offeryn cerddorol, chwarae gemau bwrdd, theatr a sinema, celf a chrefft, neu efallai hyd yn oed bod yn rhan o griw cefnogwyr eu hoff dîm, cerddor neu fand. Bydd rhai pobl ifanc efallai’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth neu fudiad lobio penodol, e.e. hawliau anifeiliaid. Mae llawer o ddulliau o gysylltu ag unigolion o’r un anian, gan gynnwys grwpiau lleol ac ar-lein, ond atgoffwch nhw i fod yn wyliadwrus bob amser wrth gwrdd â phobl newydd ar-lein.


Mae gallu chwarae yn yr awyr agored gyda ffrindiau yn eu cymuned yn ffordd ardderchog arall i blant iau gymdeithasu ac mae’n helpu wrth greu cyfeillgarwch rhwng rhieni hefyd.

Mae’n bwysig bod pobl ifanc anabl a gofalwyr ifanc yn derbyn yr un cyfleoedd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt.

Manteision cymdeithasu

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn gallu helpu plentyn i ddod yn fwy hyderus ac annibynnol. Maent yn cael cyfle i gymysgu â phobl o wahanol gefndiroedd, gwneud ffrindiau newydd a theithio i leoedd newydd, weithiau tramor hyd yn oed.

Mae pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a diwylliannol mewn sefyllfa dda i wneud cais am gyfleoedd hyfforddi, cyflogaeth, a lleoedd mewn coleg/prifysgol am eu bod yn gallu siarad am brofiadau bywyd go iawn. Yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgaredd maent yn ei fwynhau, byddant yn aml wedi datblygu sgiliau bywyd pwysig fel cyfathrebu ag eraill, gwaith tîm, datrys problemau ac aeddfedrwydd emosiynol.

Rhai pethau i feddwl amdanynt

Cyn cytuno i’ch plentyn gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd cymdeithasol neu hamdden – yn arbennig un sy’n golygu talu ffioedd ar y dechrau neu brynu offer drud – ystyriwch y canlynol: 

  • Lleoliad – mae llawer iawn mwy o gyfleoedd mewn dinasoedd a threfi mawr. Os ydych yn byw yng nghefn gwlad ac mae’ch plentyn am gymryd rhan mewn gweithgaredd cryn bellter i ffwrdd, mae’n rhaid i rywun fod yn fodlon ei gludo yno ac yn ôl.
  • Oedran - mae gan lawer o weithgareddau a chlybiau feini prawf llym am oedran y plentyn. Gwiriwch fod eich plentyn yn gymwys cyn codi ei obeithion.
  • Addasrwydd – er bod rhai sgiliau’n cael eu dysgu, mae’n gallu bod yn ingol i blentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau’n gyson nad oes ganddo unrhyw ddawn neu addasrwydd amdano.
  • Rhestri aros – yn aml mae gormod yn dymuno ymuno â gweithgareddau poblogaidd a bydd system rhestr aros gan lawer. Holwch a oes unrhyw weithgareddau cysylltiedig y gallai’ch plentyn eu gwneud yn y cyfamser.
  • Ymrwymiad amser - yn anochel, bydd unrhyw riant i blentyn sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, athletau, dawnsio neu unrhyw weithgaredd cystadleuol arall yn rhoi llawer o’i amser rhydd ei hun i gefnogi eu plentyn.
  • Cost – sicrhewch eich bod yn gwybod y costau dan sylw ymlaen llaw, e.e. ffioedd aelodaeth, costau hyfforddiant/dysgu, offer, dillad, esgidiau ac ati. Efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian hefyd.

Byddwch yn ofalus i beidio â llenwi pob awr o fywyd eich plentyn â gweithgareddau cymdeithasol a hamdden. Mae angen amser tawel o bryd i’w gilydd ar hyn yn oed y plentyn mwyaf cytbwys!

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddysgu beth sydd ar gael yn eich ardal chi, gan gynnwys cyfleoedd chwaraeon i bobl ifanc anabl. Fel arall, siaradwch â rhieni eraill neu chwiliwch am glybiau lleol ar y we.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu rhoi manylion gweithgareddau, digwyddiadau, chwaraeon a chyfleoedd hamdden lleol.

Mae’r Urdd yn cynnig gweithgareddau a phrosiectau i bobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys eisteddfodau, chwaraeon, teithiau lleol a thramor a fforymau ieuenctid rhanbarthol.

Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (Saesneg yn unig) yn ymwneud ag amrediad eang o brosiectau.

Mae Beavers, Cubs a Sgowtiaid bob amser yn boblogaidd ymhlith bechgyn a merched sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored, tra bod Girl Guiding yn cynnig anturiau i ferched 5 i 25 oed.

Mae rhai theatrau (Saesneg yn unig) yn cynnal gweithdai a chylchoedd drama i blant a phobl ifanc, ac mae llawer o grwpiau amatur, lleol a chymunedol.

Mae gan Cymru Ifanc rwydwaith o grwpiau i bobl ifanc 11-25 oed sy’n dymuno creu newid positif. 

Diweddariad diwethaf: 28/02/2023