skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n gallu bod yn anodd gwylio’ch plentyn yn colli cyfleoedd a gweithgareddau cyffrous oherwydd ei ddiffyg hyder a hunan-barch.

Daw hyder o’r tu mewn – dyma’r gred sydd gan rywun yn ei allu i lwyddo. Bydd plentyn hyderus yn cymryd risgiau am ei fod yn credu y bydd yn ‘ennill’ yn y pen draw, tra bydd un sy’n brin o hyder yn canolbwyntio ar y rhwystrau go iawn neu ganfyddedig ac yn ymgilio.

Nid yw bod yn hyderus yn golygu bod plant yn swnllyd neu’n ymffrostgar – na theimlo eu bod yn well na’u ffrindiau neu aelodau eraill y dosbarth – ond gwybod y gallant ddibynnu arnynt eu hun i ymdopi â heriau bob dydd fel arholiadau ysgol, chwaraeon cystadleuol neu godi eu llais pan fyddant yn credu bod rhywbeth yn anghyfiawn.

A phan fydd pethau’n mynd o chwith – fel y byddant yn aml – bydd person ifanc sy’n hyderus yn codi ac yn rhoi cynnig arall arni.

Diffyg hyder

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn brin o hyder. Pan fydd pobl yn dweud pethau da amdanynt, neu’n canmol eu sgiliau a’u doniau, maent yn meddwl eu bod yn dweud celwydd ac yn amau eu cymhellion.

Yn aml bydd plentyn neu berson ifanc sy’n brin o hyder yn ei alluoedd ei hun yn colli cyfleoedd, hyd yn oed os yw’r gweithgarwch yn rhywbeth yr hoffai ei wneud mewn gwirionedd ac y byddai o bosib yn rhagori ynddo, e.e. actio mewn drama yn yr ysgol.

Pan fydd yn methu wrth wneud rhywbeth, bydd yn llai tebygol o roi cynnig arno eto, gan ddefnyddio un profiad negyddol fel y rheswm dros ddewis peidio ag wynebu sefyllfaoedd heriol eraill.

Mae diffyg hyder yn atal person ifanc rhag cyrraedd ei botensial llawn.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol yn nodwedd fawr o fywydau’r mwyafrif o bobl ifanc, ond mae astudiaethau’n dangos y gall treulio gormod o amser yn pori drwy negeseuon a lluniau ffrindiau fod yn andwyol i hyder a hunan-barch person ifanc.

Mae’n naturiol cymharu - yn enwedig ymhlith ffrindiau yr un oedran - a gall cyfryngau cymdeithasol argyhoeddi pobl ifanc bod pawb arall yn fwy poblogaidd, yn fwy golygus, yn ennill graddau uwch, yn cael eu gwahodd i fwy o bartïon ac ati.

Yr eironi, wrth gwrs, yw bod llawer o’r bobl sy’n postio’n gyson am eu bywyd perffaith ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud hynny am fod diffyg hunan-hyder ganddynt hwythau hefyd.

Magu hyder person ifanc

Fel rhiant neu ofalwr, mae yna bethau gallwch chi eu gwneud i helpu:

  • Gadewch i’ch plentyn wybod eich bod yn ei garu’n ddiamod.
  • Byddwch yn hael eich clod i’ch plentyn – os bydd yn methu mewn rhywbeth, canmolwch ei ymdrechion.
  • Dangoswch hyder yn eich galluoedd eich hun – mae plant yn dysgu o fodelau rôl.
  • Helpwch eich plentyn i bennu nodau realistig, cam wrth gam os bydd angen.
  • Anogwch ef i fod yn weithgar yn gorfforol.
  • Darganfyddwch beth yw ei angerdd ac anogwch ei ddoniau.
  • Dwedwch wrth eich plentyn ei bod yn iawn peidio â llwyddo bob tro – weithiau mae’n ddigon i roi cynnig arni ac wedyn ceisio eto.
  • Anogwch eich plentyn i fod yn fentrus ac i gymryd risgiau (o fewn terfynau diogel).
  • Byddwch yn gyson – hyd yn oed os byddant yn mynnu fel arall, mae rheolau’n rhoi ymdeimlad o ddiogelwch a hyder i blant.

Mae Magu Plant: Rhowch Amser Iddo yn rhestru 101 o eiriau ac ymadroddion y gall rhieni eu defnyddio i ganmol plentyn. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Rwy’n falch ohonot ti
  • Gwaith bendigedig
  • Rwyt ti’n tyfu i fyny
  • Rwyt ti’n meddwl y byd i mi
  • Rwyt ti wedi gwneud fy niwrnod i

Mae gan Childline (Saesneg yn unig) lawer o awgrymiadau i helpu person ifanc i ddelio â’i ddiffyg hyder a hunan-barch.

Cymryd camau

Bydd cymryd camau yn cynyddu hyder person ifanc yn y tymor hir. Dwedwch wrtho ei bod yn normal ofni gwneud pethau sy’n herio ei gysur arferol. Efallai ei fod wedi cael ei ddewis i ddarllen yn y gwasanaeth boreol, neu yn dechrau ysgol neu goleg newydd neu efallai ei fod eisiau ymuno â chlwb chwaraeon ond bod ei ddiffyg hyder yn ei ddal yn ôl.

Atgoffwch ef fod camu i mewn i’r anhysbys yr un mor frawychus i bawb, gan gynnwys rhieni ac athrawon.

Pryd i gael cymorth

Os yw diffyg hyder eich plentyn yn effeithio’n ddifrifol ar ei fywyd bob dydd, efallai ei bod yn bryd chwilio am gymorth proffesiynol.

Siaradwch ag ysgol neu goleg eich plentyn. Byddant efallai’n trefnu sesiynau cwnsela. Fel arall, ewch i’ch meddyg teulu. Mae’n bosibl y bydd angen cefnogaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAHMS) ar rai plant a phobl ifanc.

Diweddariad diwethaf: 28/02/2023