Mae iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc mor bwysig â’u hiechyd corfforol.
Yn anffodus, mae gormod o blant a phobl ifanc yn anhapus, yn ofidus, yn bryderus neu hyd yn oed yn hunanladdol, yn aml mewn ymateb i’r hyn sy’n mynd yn ei flaen o’u hamgylch - gartref, yn yr ysgol, ar lefel genedlaethol a hyd yn oed rhyngwladol. Yn aml mae pobl ifanc yn teimlo dan bwysau i ennill y graddau uchaf yn yr ysgol, i ymddangos mewn ffordd benodol, i fod yn dda mewn popeth ac y dylai fod ganddynt lawer o ffrindiau - mae cyfryngau cymdeithasol ond yn ychwanegu at y pwysau.
Yn ogystal, mae profiadau anodd fel marwolaeth yn y teulu, ysgariad, newid ysgolion neu newid yn amgylchiadau’r teulu, e.e. digartrefedd, yn sbarduno problemau emosiynol person ifanc. Mae plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gam-drin neu ei fwlio yn debygol iawn o fod mewn trallod emosiynol.
Nid yw bob amser yn hawdd adnabod trallod emosiynol difrifol mewn person ifanc, yn enwedig os yw’n mynd drwy’r cyfnod glasoed, yn sefyll arholiadau neu’n cael problemau gyda pherthynas, pan fydd gofid a hwyliau ansad yn normal.
Hyd yn oed os sylweddolwch fod rhywbeth mwy na hynny o’i le, gall fod yn anodd argyhoeddi person ifanc i siarad ac i gyfaddef ei fod yn teimlo’n isel neu’n meddwl am niweidio ei hun – neu eisoes yn gwneud hynny.
Arwyddion bod angen help ar berson ifanc
Weithiau bydd person ifanc yn fodlon trafod pethau â rhiant neu oedolyn arall o’i wirfodd, ond yn amlach bydd ei anobaith emosiynol yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys:
Fel arfer bydd yr ymddygiadau hyn yn arwydd o broblem emosiynol ddyfnach.
Sut allwch chi helpu
Mae’n gallu bod yn anodd iawn gwylio poen meddyliol eich plentyn, ac mae’n gwbl ddealladwy eisiau gwneud rhywbeth i’w wella. Y peth cyntaf yw ei sicrhau eich bod yn ei garu a’ch bod chi yno i’w helpu a’i gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwch chi.
Gwnewch yn siŵr ei fod yn bwyta’n iach, ac yn cael digon o ymarfer corff a chwsg.
Os hyder sydd wrth wraidd y broblem, helpwch i hybu ei hunan-barch drwy ei atgoffa beth mae’n ei wneud yn dda, ei gyflwyno i weithgareddau newydd a’i annog i bennu nodau i weithio tuag atynt.
Os bydd person ifanc yn cael ei fwlio, siaradwch â’i ysgol; os yw’r bwlio’n digwydd yn y gweithle, anogwch ef i’w adrodd.
Os bydd person ifanc yn dweud wrthych ei fod yn cael ei gam-drin, mae’n rhaid i chi ei adrodd. Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Gofyn am gymorth proffesiynol
Weithiau, bydd anawsterau emosiynol plentyn neu berson ifanc mor ddifrifol a/neu’n fygythiad i’w fywyd bod angen cymorth proffesiynol arno.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gwahanol, ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed. Mae’r driniaeth a gaiff yn seiliedig ar asesiad ac mae’n amrywio yn ôl difrifoldeb problem iechyd meddwl y person ifanc.
Gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu a byddan nhw’n cychwyn y broses. Weithiau, bydd difrifoldeb ei salwch meddwl yn golygu bod rhaid i blentyn neu berson ifanc dreulio ychydig o amser mewn ysbyty; ond bydd y mwyafrif yn derbyn cymorth o fewn eu cymuned, e.e. cwnsela o fewn yr ysgol, gweld nyrs seiciatrig gymunedol (CPN) neu fynychu uned ddydd seiciatrig.
Mwy o wybodaeth
Mae gan Young Minds (Saesneg yn unig) arweiniad goroesi ar gyfer rhieni sy’n poeni am eu plentyn. Mae llinell gymorth i rieni hefyd. Ffoniwch: 0808 802 5544
Mae MIND wedi llunio A-Z o iechyd meddwl (Saesneg yn unig).
Llinell gymorth gyfrinachol yw C.A.L.L. ar gyfer problemau iechyd meddwl. Ffoniwch: 0800 132 737
Mae Childline yn cefnogi plant a phobl ifanc. Ffoniwch: 0800 1111
Mae Papyrus (Saesneg yn unig) yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy’n teimlo’n hunanladdol ac i unrhyw un sy’n poeni am berson ifanc. Ffoniwch: 0800 068 41 41