skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r mwyafrif o blant yn aros yn yr un ysgol gynradd ac unrhyw ysgol uwchradd ddilynol drwy gydol eu haddysg.

Ond weithiau, mae’n dod yn angenrheidiol neu’n ddymunol symud plentyn i ysgol wahanol. Efallai mai’r plentyn ei hun sy’n dymuno symud ysgolion; neu efallai eich bod chi, fel ei riant neu warcheidwad, yn cydnabod y byddai ei anghenion yn cael eu diwallu’n well mewn amgylchedd dysgu gwahanol, e.e. ysgol llai o faint.

Efallai bod gennych bryderon y bydd symud plentyn o un ysgol i’r llall yn ymyrraeth ddifrifol a gaiff effaith negyddol ar ei addysg.

Dim ond chi sy’n gallu penderfynu beth sydd orau ar gyfer eich plentyn; fodd bynnag, oni bai bod y symud yn gwbl anochel, e.e. rydych yn symud cartref, mae’n syniad da siarad â’r ddwy ysgol cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol.

Rhesymau dros newid ysgolion

Mae rhesymau di-rif pam y byddai rhiant yn penderfynu symud ei blentyn i ysgol newydd, gan gynnwys:

  • Mae’ch plentyn yn anhapus yn yr ysgol ac nid yw dim rydych yn gallu ei wneud yn helpu.
  • Nid yw’n gwneud cynnydd da neu mae’n syrthio ar ei hôl.
  • Nid ydych yn hapus gyda’r ffordd mae’r ysgol wedi ymdrin â digwyddiadau penodol, e.e. bwlio, neu ymddygiad gwael achlysurol.
  • Mae’r ysgol bresennol yn gwrthod gwrando arnoch neu gydnabod anghenion eich plentyn.
  • Mae’ch plentyn yn dymuno mynd i ysgol wahanol.
  • Symud cartref.

Os credwch fod ysgol bresennol eich plentyn yn ei fethu, yna gall symud ysgolion fod yn beth cadarnhaol yn aml.

Rhesymau dros beidio â newid ysgol

Mae rhieni’n cael gofyn am newid ysgolion ar unrhyw gam yn addysg eu plentyn; ond mae’n bosibl nad trosglwyddo fydd yr ateb bob tro, yn arbennig os yw’r plentyn wedi ymsefydlu yn ei ysgol bresennol.

Fel arfer nid yw’n broblem i blant oedran cynradd a phlant Blwyddyn 7, 8 a 9 newid ysgolion. Mae plant mewn Blwyddyn 10 ac 11 wedi cyrraedd adeg hollbwysig yn eu haddysg ac efallai na fydd modd iddynt barhau â’r un pynciau mewn ysgol arall. Byddai’r mwyafrif o ysgolion yn cynghori yn erbyn symud plentyn ar adeg hon ei addysg oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Fel arfer nid yw cludiant ysgol yn cael ei ddarparu’n awtomatig i blant sy’n symud i ysgol tu allan i’w dalgylch.

Pa gamau i’w cymryd os penderfynwch symud eich plentyn

Mae derbyniadau a throsglwyddiadau i ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn cael eu hawdurdodi gan y cyngor lleol perthnasol. Llenwch ffurflen gais am drosglwyddo gan ddatgan i ba ysgol(ion) hoffech symud eich plentyn a phryd. Os gwnewch gais yn ystod tymor ysgol, fel arfer byddwch yn clywed yn ôl o fewn 15 diwrnod gwaith. Nid oes unrhyw warant y bydd lleoedd ar gael yn yr ysgol a ddewiswch yn gyntaf.

Os dymunwch symud eich plentyn i ysgol wirfoddol a gynorthwyir (sy’n ysgolion ffydd yn aml) neu ysgol sefydledig, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.

Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, bydd ei gofnodion yn cael eu trosglwyddo i’r ysgol newydd. Os ydych wedi symud ardaloedd cyngor, mae’n rhaid i’r cyngor newydd wneud yn siŵr bod eich plentyn yn derbyn yr holl gymorth ychwanegol a bennir yn y datganiad ac, o fewn chwe wythnos, rhaid iddo ddweud wrthych pryd y byddant yn adolygu’r datganiad neu a fyddant yn cynnal asesiad statudol newydd o’ch plentyn.

Diweddariad diwethaf: 20/02/2023