Mae gan rieni ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg amser llawn briodol - yn ymarferol mae hyn fel arfer yn golygu yn yr ysgol.
Mae’r mwyafrif o blant ifanc yn mwynhau’r ysgol - mae’n rhywle lle maent yn dysgu, cael profiadau newydd, cymdeithasu â ffrindiau ac yn cael amser da yn gyffredinol. Wrth fynd yn hŷn, mae rhai pobl ifanc yn dadrithio ar fywyd yr ysgol; fodd bynnag, bydd y mwyafrif yn cwblhau eu haddysg heb rwystr.
Mae rhediad dirwystr unrhyw ysgol yn dibynnu ar bartneriaeth rhwng disgyblion a’u rhieni a’r parch am ‘reolau’r ysgol’. Mae’r rhain yn cynnwys:
- plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn cyrraedd yn brydlon
- plant yn chwarae rôl egnïol yng ngweithgareddau’r ysgol, gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol
- plant yn gwneud gwaith cartref ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu oddi ar y safle
- rhieni yn cefnogi addysg eu plentyn gartref ac yn yr ysgol
- rhieni yn codi unrhyw bryderon gyda’r ysgol, e.e. y gall fod gan eu plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol
- rhieni yn rhoi’r wybodaeth gyfredol i’r ysgol am faterion mewn perthynas â’r plentyn
Cyfathrebu rhwng y cartref / yr ysgol
Mae ysgolion yn rhedeg yn fwy llyfn pan fydd pawb yn gwybod beth a ddisgwylir ohonynt ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu rheolaidd â rhieni. Mae dull y cyfathrebu yn amrywio yn dibynnu ar yr ysgol ac oedran y disgyblion, ond mae’r mwyafrif o ysgolion yn defnyddio cymysgedd o lythyron printiedig, newyddlenni, negeseuon e-bost a chyfarfodydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni am fywyd yr ysgol. Mae gan rai fforymau lle caiff rhieni/gofalwyr eu hannog i gyflwyno eu barn am faterion pwysig.
Mae diweddariadau polisïau – gwisg, ymddygiad, gwaith cartref, amddiffyn plant – ar gael yn rhwydd ar wefannau ysgolion ac mae gan bob ysgol weithdrefn gwyno y gall rhieni ei defnyddio.
Dylai rhieni sydd â phryderon am eu plentyn fynd at ei athro / athrawes dosbarth neu’r pennaeth (neu’r dirprwy).
Cynghorau ysgol
Mae cynghorau ysgol yn ffordd o rymuso disgyblion a rhoi llais iddynt.
Mae pob dosbarth yn ethol un neu ddau o blant i eistedd ar gyngor yr ysgol. Bydd y disgyblion hyn yn cynrychioli safbwyntiau’r plant eraill yn eu dosbarth ac yn codi materion gyda’r pennaeth a’r llywodraethwyr.
Mae rhai cynghorau ysgol yn cymryd rhan mewn cyfweliadau staff.
Ymddygiad
Mae gan bob ysgol weithdrefnau a pholisïau ar waith i hyrwyddo ymddygiad da ac i atal ymddygiad gwael. Seilir y rhain ar barch, tegwch a chynhwysiant, a byddant hefyd yn adlewyrchu safbwynt cymdeithasol, moesegol a chrefyddol yr ysgol. Gwiriwch wefan yr ysgol neu holwch y pennaeth i gael manylion.
Bwlio
Erbyn hyn mae ysgolion yn cymryd bwlio yn ddifrifol iawn. Mae’n rhaid bod gan bob ysgol y wladwriaeth bolisi ar waith sy’n cynnwys camau i atal pob math o fwlio ymhlith disgyblion, gan gynnwys bwlio yn iard yr ysgol a seiberfwlio.
Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn cael ei fwlio yn yr ysgol – neu ar y ffordd i’r ysgol neu’n ôl – dylech roi gwybod i’r ysgol ar unwaith.
Cael eu gwahardd
Bydd plentyn neu berson ifanc ond yn cael ei wahardd os bydd wedi torri polisi ymddygiad yr ysgol yn ddifrifol neu os bydd yn peri risg i addysg neu les dysgwyr eraill.
Ni fydd yr un ysgol yn ddi-hid ynghylch penderfynu gwahardd disgybl. Os yw’ch plentyn wedi cael ei wahardd – naill ai am ychydig o ddyddiau neu’n barhaol – fel arfer dyna fydd y dewis olaf am fod pob mesur arall wedi methu.
Mae rheolau llym sy’n pennu sut mae’n rhaid i ysgolion ddelio â gwaharddiadau. Rhaid i’r ysgol ddweud wrthych pam mae’ch plentyn yn cael ei wahardd a threfnu cyfarfod â chi i drafod y gwaharddiad ac unrhyw amodau y mae’n rhaid iddynt gael eu diwallu cyn y gall y plentyn ddychwelyd i’r ysgol. Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y gwaharddiad.
O dan rai amgylchiadau, gall disgybl neu ddysgwr gael ei ddiarddel am dramgwydd cyntaf neu un-tro:
- trais difrifol sy’n cael ei gyflawni neu ei fygwth tuag at ddysgwr arall neu aelod o staff
- camdriniaeth rywiol neu ymosodiad
- cyflenwi cyffur anghyfreithlon
- defnyddio neu fygwth defnyddio arf ymosodol
Troseddau yw’r rhain a byddai’r ysgol yn hysbysu’r heddlu.
Mae gan eich plentyn yr hawl i addysg o hyd, hyd yn oed ar ôl cael ei wahardd, e.e. rhaid i'r cyngor wneud trefniadau i'w haddysg barhau.
Os yw’r gwaharddiad yn gyfnod penodol, h.y. am gyfnod penodol o amser, efallai yr anfonir gwaith ysgol iddynt i’w gwblhau gartref.
Os gwaharddiad parhaol ydyw, ac mae’r plentyn yn cael ei dynnu o gofrestr yr ysgol, yna mae’n rhaid i addysg amgen gael ei sefydlu. Gallai hyn fod mewn uned cyfeirio disgyblion, coleg addysg bellach (ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11), gartref neu’n rhan-amser mewn ysgol arall.