Mae angen amddiffyniad ychwanegol ar blant a phobl ifanc i aros yn ddiogel, cael mynediad i’r pethau mae arnyn nhw eu hangen i oroesi a datblygu a chael lleisio eu barn am y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae’r amddiffyniad ychwanegol hwn yn cael ei ddarparu ar ffurf hawliau plant.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhestr o hawliau plant sy’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc yn y byd, dim ots pwy ydyn nhw, ble maen nhw’n byw neu beth maen nhw’n credu ynddo. Mae 42 o hawliau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phobl ifanc hyd at 18 oed ac eraill sy’n nodi sut dylai llywodraethau ac oedolion weithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau.
Mae Cymru wedi ymgorffori’r hawliau hyn yn y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Hawliau plant yng Nghymru.
Comisiynydd Plant Cymru
Comisiynydd Plant Cymru sy’n gyfrifol am wneud yn siwr bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn. Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed, neu hyd at 25 oed os ydyn nhw mewn bod mewn gofal.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor ac yn gwneud yn siŵr bod cyrff eraill fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd hefyd yn meddwl am eu hawliau ac yn gwrando ar eu barn.
Mae’r Comisiynydd Plant wedi cynhyrchu canllaw ar-lein ar hawliau plant i rieni.
Helpu plant i ddeall eu hawliau
Mae’n gallu bod yn anodd esbonio cysyniad hawliau i blant ifanc iawn neu blant ag anghenion ychwanegol. Fe allai fod yn anodd i bobl ifanc sydd ag anawsterau lleferydd neu iaith gyfathrebu eu dymuniadau pan fydd penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw’n cael eu gwneud.
Mae Adnodd Symbolau UNCRC yn defnyddio symbolau a thestun wedi’i symleiddio i helpu athrawon ac eraill sy’n gweithio gyda phlant i’w dysgu am eu hawliau a gwella eu dealltwriaeth o sut mae’r hawliau hyn yn effeithio ar fywyd bob dydd.
Efallai y bydd angen cefnogaeth eiriolwr ar rai plant a phobl ifanc, a fydd yn siarad ar eu rhan er mwyn amddiffyn a hyrwyddo eu hawliau.