skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae hunan-niweidio yn digwydd pan fydd rhywun - person ifanc yn aml - yn anafu neu’n anffurfio eu corff eu hun yn fwriadol fel ffordd o ddelio â phoen emosiynol, dicter neu rwystredigaeth.

Nid chwilio am sylw yw’r sawl sy’n hunan-niweidio – ac fel arfer nid ydynt yn hunan-laddol (er y gall rhai ffurfiau o hunan-niweidio arwain at farwolaeth ddamweiniol). Yn hytrach, maent yn cael anawsterau dod o hyd i ffordd o ymdopi â’u trallod emosiynol llethol neu o’i fynegi. Mae’n bosib bod torri neu losgi eu corff yn ymddangos yn eithafol i eraill, ond efallai dyna’r unig ffordd maent yn ei gwybod i adael eu teimladau allan.

Mae’r elusen Young Minds yn dweud bod hunan-niweidio yn ymddygiad cyffredin ymhlith pobl ifanc, gydag un o bob deuddeg o bobl ifanc a 10% o bobl ifanc 15-16 oed yn ei wneud. Mae merched ychydig yn fwy tebygol o hunan-niweidio na bechgyn, ac mae’r mwyafrif o’r rhai sy’n hunan-niweidio yn dechrau gwneud hynny pan fyddant yn eu harddegau neu’r blynyddoedd cyn-glasoed.

Mae’n gallu bod yn anodd i rieni a gofalwyr ddeall pam y byddai eu plentyn yn anafu ei hun yn fwriadol – efallai y teimlwch yn drist na ddaeth eich plentyn atoch chi gyda’i broblemau neu’n euog na wnaethoch sylwi ar ei hunan-niweidio’n gynharach – ond ni ddylech feio eich hun na’ch plentyn.

Pam ydy pobl ifanc yn hunan-niweidio?

Mae’n bosibl bod hunan-niweidio yn ymddangos yn ffordd eithafol o ddelio â phroblemau emosiynol, ond i lawer o bobl ifanc mae’n gweithio oherwydd:

  • Mae’n rhoi ymdeimlad o reolaeth iddynt dros deimladau poenus drwy wyro eu sylw tuag at boen corfforol.
  • Pan fydd teimladau o drallod yn cronni oddi mewn iddynt, gall hunan-niweidio deimlo bron fel rhyddhad.
  • Mae’n mynegi eu poen mewnol yn weledol yn hytrach na mynnu geiriau.
  • Mae’n eu galluogi i deimlo rhywbeth eto ar ôl blocio allan emosiynau trallodus neu gof trawmatig, e.e. trais.
  • Maent am gosbi eu hunain, efallai am eu bod wedi cael eu cam-drin ac yn credu eu bod yn ddiwerth neu’n berson drwg o ganlyniad.
  • Maent yn mwynhau – hyd yn oed yn gaeth – i’r teimladau dros dro o ewfforia sy’n digwydd yn syth ar ôl iddynt niweidio eu hun.

Yn anffodus, mae hunan-niweidio yn gallu dod yn arfer.

Problemau sy’n arwain at hunan-niweidio

Yn aml mae ymddygiad hunan-niweidiol yn ganlyniad problem arall nad yw’r person ifanc yn gwybod sut i ddelio â hi ac weithiau gall fod yn gri am gymorth.

Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

Ym mha ffyrdd ydy pobl ifanc yn hunan-niweidio?

Mae hunan-niweidio yn gallu cymryd llawer o ffurfiau gwahanol, ond ymhlith y dulliau mwyaf cyffredin mae pobl ifanc yn niweidio eu hunain mae:

  • torri – gyda llafnau rasel, cyllyll neu siswrn
  • llosgi
  • dyrnu neu daro eu hunain
  • gwthio gwrthrychau miniog i mewn i’w croen
  • cleisio eu corff yn fwriadol neu hyd yn oed torri asgwrn
  • cyfyngu faint maent yn ei fwyta
  • tynnu eu gwallt allan (trichotillomania)

Arwyddion bod eich plentyn yn hunan-niweidio

Fel arfer bydd pobl ifanc yn ceisio cadw hunan-niweidio yn gyfrinach felly peidiwch â theimlo’n euog os nad ydych yn gwybod amdano am gryn amser.

Mae’r arwyddion nodweddiadol yn cynnwys:

  • briwiau, cleisiau a llosgiadau sigarét heb esboniad
  • gorchuddio eu breichiau a’u coesau’n gyson
  • arwyddion eu bod wedi bod yn tynnu eu gwallt allan
  • newidiadau trawiadol mewn hwyliau, e.e. bod yn ddagreuol, yn llidiog
  • tynnu’n ôl o ffrindiau a’r teulu, h.y. aros gartref neu yn eu hystafell
  • newidiadau mewn pwysau a bod yn gelgar am fwyta

Perygl blogiau hunan-niweidio

Yn hytrach na gwneud i bobl ifanc deimlo’n llai unig a’u hannog i roi’r gorau i hunan-niweidio, mae rhai cymunedau ar-lein a gwefannau yn gwneud pethau’n waeth mewn gwirionedd. Gall y safleoedd hyn annog pobl ifanc i rannu delweddau o hunan-niweidio, gan beri iddynt ddymuno niweidio eu hunain yn fwy byth.

Mae gan Childline lawer o wybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc sy’n hunan-niweidio, gan gynnwys technegau ymdopi a byrddau negeseuon (Saesneg yn unig).

Chwilio am help

Hyd yn oed pan fo person ifanc wir eisiau gwella, mae’n gallu bod yn anodd iddynt siarad am eu hymddygiad o hyd. Peidiwch â barnu, byddwch yn amyneddgar a helpwch nhw i gael y gefnogaeth gywir.

Gyda dealltwriaeth a chefnogaeth, mae'n bosibl i berson ifanc dorri'r cylch o hunan-niweidio.

Yn gyntaf, siaradwch â’ch meddyg teulu. Byddant yn penderfynu a oes angen cymorth proffesiynol ar eich plentyn am fater iechyd meddwl sylfaenol ac yn gallu ei gyfeirio at y bobl gywir am driniaeth.

Os camdriniaeth oedd y sbardun ar gyfer hunan-niweidio, mae’n bwysig ei adrodd.

Mwy o wybodaeth

Mae Young Minds (Saesneg yn unig) yn cyhoeddi gwybodaeth i’r sawl sy’n hunan-niweidio ac mae ganddo linell gymorth ar gyfer rhieni.

Mae Harmless (Saesneg yn unig) yn cefnogi’r sawl sy’n hunan-niweidio ac mae ganddo adnoddau ar-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Mae Amser i Newid Cymru yn annog pobl i godi eu llais am broblemau iechyd meddwl ac mae ganddo lawer o wybodaeth ar ei wefan.

Diweddariad diwethaf: 01/02/2023